Gwilym Bowen Rhys has established himself as a worthy ambassador for Welsh language and song both at home in Wales and across the world, confirmed by his nomination for the Folk Singer of the Year Award in the BBC Radio 2 Folk Awards and winning the Best Solo Artist Award in the Welsh Folk Awards.
Performing from Aberystwyth to Argentina, he has represented Wales and the Welsh language in enthralling performances including The British Embassy in Paris and The National Eisteddfod, and with the BBC National Orchestra of Wales.
Hailing from the village of Bethel at the foot of Yr Wyddfa (Snowdon) in North West Wales, Gwilym has been singing in his native Welsh language since he can remember, giving him a deep connection with the traditional songs and music of his native land and a love of sharing his music with the local communities of this Welsh-speaking region.
Bringing to life ancient Welsh lyrics and melodies, his music is made unique by his own contemporary musical approach. His first album ‘O Groth y Ddaear’ (From The Womb Of The Earth) was released in 2016 and was shortlisted for Best Welsh Language Album of The Year at the National Eisteddfod, helping to establish him as a new and vital voice for the music of Wales.
His latest album ‘Detholiad o Hen Faledi II’ (A selection of Old Welsh Ballads II) was released in March ’22. It is the second in an album series that focuses on old Welsh ballads and is described by From The Margins as, ‘probably the most complete, bewitching folk album you will hear all year’.
Mae Gwilym Bowen Rhys wedi sefydlu ei hun fel llysgennad teilwng dros y Gymraeg a chanu, gartref yng Nghymru ac ar draws y byd hefyd. Cafodd hyn ei gadarnhau gan ei enwebiad ar gyfer Gwobr Canwr Gwerin y Flwyddyn yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2 a thrwy ennill Gwobr yr Artist Unigol Gorau yng Ngwobrau Gwerin Cymru.
Gan berfformio o Aberystwyth i’r Ariannin, mae wedi cynrychioli Cymru a’r Gymraeg mewn perfformiadau cyfareddol yn Llysgenhadaeth Prydain ym Mharis a’r Eisteddfod Genedlaethol, a gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
Ac yntau’n hanu o bentref Bethel ar odre'r Wyddfa yng Ngogledd Orllewin Cymru, mae Gwilym wedi bod yn canu yn Gymraeg, ei iaith frodorol, ers iddo gofio, gan roi iddo gysylltiad dwfn â chaneuon a cherddoriaeth draddodiadol ei fro enedigol a chariad at rannu ei gerddoriaeth gyda chymunedau lleol yr ardal Gymraeg hon.
Mae ei gerddoriaeth, sy'n dod â geiriau ac alawon Cymraeg hynafol yn fyw, yn unigryw o ganlyniad i'w ddull cerddorol cyfoes ei hun. Rhyddhawyd ei albwm cyntaf ‘O Groth y Ddaear’ yn 2016 a chyrhaeddodd restr fer Albwm Gorau’r Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gan helpu i’w sefydlu fel llais newydd a hanfodol ar gyfer cerddoriaeth o Gymru.
Rhyddhawyd ei bedwerydd albwm, a’r diweddaraf, ‘Detholiad o Hen Faledi II’ ym mis Mawrth ’22. Dyma’r ail mewn cyfres o albymau sy’n canolbwyntio ar hen faledi Cymraeg ac mae’n cael ei disgrifio gan From The Margins fel, ‘probably the most complete, bewitching folk album you will hear all year’.