Skip to main content
  • Logo
1 of 3

1,000 Diwrnod Cyntaf yn yr Awyr Agored ar gyfer plant bach - 1st 1000 Days Outdoor Toddler session - (oedran/age 1-4)

Wed 15 Jul 2026 1:30 PM - 2:30 PM Maenor Scolton / Scolton Manor, SA62 5QL

1,000 Diwrnod Cyntaf yn yr Awyr Agored ar gyfer plant bach - 1st 1000 Days Outdoor Toddler session - (oedran/age 1-4)

Wed 15 Jul 2026 1:30 PM - 2:30 PM Maenor Scolton / Scolton Manor, SA62 5QL

Cefndir

Mae menter 1,000 Diwrnod Cyntaf Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cynorthwyo rhieni a phlant i dreulio mwy o amser yn yr awyr agored ac ym myd natur. Bydd y fenter yn rhoi cyfle i rieni greu profiadau cadarnhaol gyda’u plant yn yr awyr agored gan wella eu hyder a’u gallu fel rhieni.

Y Gweithgareddau ym Maenor Scolton

Mae’r gweithgareddau wedi eu hanelu at blant sy’n gallu cerdded ond sydd heb ddechrau yn yr ysgol eto (1-4 oed). Bydd y sesiynau sy’n cael eu cynnal fel rhan o'r rhaglen yn cynnwys gweithgareddau chwarae rhydd ymarferol fel helfa drysor a helfa bwystfilod bach, adeiladu cuddfannau, creu mewn cegin fwd, bwydo adar, a garddio. Bydd stori a hwiangerdd yn cael eu hadrodd i ddod â’r sesiynau i ben.

Ffioedd

Rydym ni’n gofyn am gyfraniad o £4 i dalu am gost pob plentyn sy’n cymryd rhan. Bydd yr incwm hwn yn cael ei roi i Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro er mwyn cefnogi gwaith ehangach y Parc Cenedlaethol. Nid yw'r cyfraniad hwn yn ad-daladwy.

Y ‘print mân’

  • Rhieni a gwarcheidwaid sy’n gyfrifol am eu plant yn ystod y sesiynau, ac rydym ni’n eu hannog i gymryd rhan a chefnogi eu plentyn yn yr holl sesiynau.
  • Dewch a byrbrydau a diodydd ar eich cyfer chi a'ch plentyn.
  • Dylai plant ac oedolion wisgo’n addas ar gyfer y tywydd er mwyn gallu mwynhau'r sesiwn yn llawn. Mae hyn yn cynnwys gwisgo digonedd o ddillad cynnes, cotiau a throwsusau sy’n dal dŵr, esgidiau addas, hetiau a menig.
  • Byddwn ni'n gadael chi gwybod am unrhyw gansladau oherwydd y tywydd mor gynnar â phosib.

Byddwch chi’n derbyn ffurflen ganiatâd dros e-bost pan fyddwch chi’n archebu eich lle. Mae’n rhaid i chi lenwi a chyflwyno hon cyn y sesiwn gyntaf.

Edrych ymlaen at gael hwyl yn yr awyr agored gyda chi’r haf hwn

Some Background

The National Park Authority’s 1st 1,000 Days initiative supports parents and children to spend more time outdoors in nature, improving the confidence and competence of parents and guardians through positive play experiences in the outdoors with their children.

The activities at Scolton Manor

The activities are aimed at walking pre-school children (1-4 year olds). Sessions delivered as part of the programme will include ‘hands-on’ free play from scavenger and minibeast hunts, den building, mud kitchen creations, making bird feeders and gardening. The session will end with a story and rhymes.

Charges

We ask for a contribution of £4 to cover costs per participating child. This income will be donated to the Pembrokeshire Coast Charitable Trust to support wider work in the National Park. This contribution is non-refundable.

The ‘small print’

  • Adults are responsible for their child during the session and we encourage parents to participate and support their child in all activities provided.
  • Please bring along any snacks or drinks that you and your child may require for the session.
  • To fully enjoy the session children and adults must be dressed appropriately for the weather.  This should include warm layers including waterproof coats and trousers, boots, hats and gloves if required. 
  • We will notify you of any cancellations due to the weather at the earliest opportunity.

A consent form will be emailed out to you once a booking is made. This must be completed and returned prior to the first session.

​We look forward to sharing some outdoor fun with you this Summer.


Location

Maenor Scolton / Scolton Manor, SA62 5QL