Mei Gwynedd
Thu 6 Mar 2025 8:00 PM - 10:30 PM GMT
Acapela Studio, CF15 9QD
Description
Since his early teens Mei Gwynedd has performed with some of the most acclaimed bands of the Welsh rock scene, including “Beganifs”, “Big Leaves”, “Geraint Jarman” – the godfather of Welsh pop, “Sibrydion” and had supported Oasis on tour with “Y Peth” alongside actor Rhys Ifans.
In this project Mei puts his unique stamp on Welsh traditional songs. More upbeat and louder, it is an exciting take on Welsh melodies and brings the genre in line with the other Celtic countries. It is an open door to audiences far and wide.
“I grew up listening to bands like Tebot Piws, “Hogia’r Wyddfa”, “Mynediad Am Ddim” and “Dafydd Iwan”. We sang these traditional songs and I want to recreate that atmosphere of sitting in a bustling pub in the heart of Wales, and that is the inspiration behind “Sessions Ty Potas”! This will appeal to Welsh and non-Welsh speaking audience alike, and we put on show our greatest classics’.
Since launching Band Ty Potas in May 2023, there is a real feeling that Mei has tapped into the nation’s heart by bringing a fresh and new arrangements to familiar songs. One highlight so far was the ‘secret’ after show party at the National Eisteddfod 2023 where a 2000 capacity tent was filled to the brim and the relationship between the band and the audience truly unique.
Mae Mei Gwynedd wedi bod yn cyfansoddi ac wedi bod yn aelod o rai o grwpiau mwyaf blaengar y sin roc Gymraeg ers dechrau’r 90au; Beganifs, Big Leaves, The Peth, Sibrydion ac eraill.
Yn 2018 gwelwyd Mei yn rhyddhau cerddoriaeth fel artist unigol, (Glas 2018 a Y Gwir Yn
Erbyn Y Byd 2021) a fo gyfansoddodd y gan dorfol Pethau Bychain, ail-recordio a chynhyrchu fersiwn cyfoes o Hei Mistar Urdd, (a dorrodd record y Guinness Book Of Records yn 2023) gan gynnwys amryw o brosiectau cyfansoddi / cynhyrchu eraill.
Teimlai Mei fod nawr yn adeg da i adlewyrchu ar ei gerddoriaeth o, a’r gerddoriaeth sydd wedi’w dddylanwadu fel Cymro balch. Canlyniad hyn ydy i Mei fynd ati i recordio caneuon poblogaidd a thraddodiadol o dan y teitl, Sesiynau Ty Potas.
Dywed Mei, “Ges i’n magu’n gwrando ar fandiau fel Tebot Piws, Hogia’r Wyddfa, Mynediad Am Ddim, Dafydd Iwan heb son am yr ystod o ganeuon traddodiadol o’n i’n canu tra yn yr ysgol ac yn y capel pan o’n i’n ifanc. Wrth deithio Cymru fel band a thra’n cynnal gweithdai efo pobl ifanc nes i weld a theimlo’r angen i gydnabod y caneuon yma, a bod dyletswydd i rannu a chario ‘mlaen efo’r traddodiad o’u canu am flynyddoedd i ddod, i’n plant ac o genhedlaeth i genhedlaeth.
Nes i fynd ati i gyd-weithio efo ystod o gerddorion talentog ac ail-recordio detholiad o ganeuon efo’r bwriad o greu naws ‘eistedd mewn tafarn traddodiadol, byrlymus.’ A dyma gyflwyno’r cyfanwaith o dan yr enw, ‘Sesiynau Ty Potas!” Lawnsiwyd y prosiect yn Acapela yn 2023, ac mae’n amlwg fod Mei wedi tapio mewn I galon y genedl gyda sawl uchafbwynt eisioes, gan gynnwys eu gig ‘cyfrinachol’ yn y Babell Len Eisteddfod 2023 gyda 2000 o Gymry yn cyd ganu.
“Dw i’n edrych ymlaen i gael hwyl tra’n perfformo’r clasuron yma; ac mi fasai’n braf agor y drysau i gynilleidfa newydd, a rhannu ein bod ni yma yng Nghymru efo clasuron ein hunain sy’n sefyll gefn yng nghefn gyda chaneuon gweddill y byd.”
Yn ogystal a bod yn un o berfformwyr a chyfansoddwyr mwyaf adnabyddus Cymru, mae Meiyn gynhyrchydd cerdd uchel ei barch, yn rhedeg label recordio Recordiau JigCal ac yn arweinydd Y Gerddorfa Ukulele.
Location
Acapela Studio, CF15 9QD