Arddangosfa Tân Gwyllt Tref Aberystwyth 2026 / Aberystwyth Town Fireworks Display 2026
Arddangosfa Tân Gwyllt Tref Aberystwyth 2026 / Aberystwyth Town Fireworks Display 2026
Share this event
Ymunwch â ni am noson fythgofiadwy o hwyl, bwyd a thân gwyllt yng Nghlwb Rygbi Aberystwyth! Mae’r digwyddiad cymunedol poblogaidd hwn yn ôl ar ei newydd wedd, ac yn fwy nag erioed o’r blaen – a hynny i gefnogi achosion elusennol lleol rhagorol. Join us for an unforgettable evening of fun, food, and fireworks at the Aberystwyth Rugby Club! This much-loved community event is back and bigger than ever – all in support of fantastic local charitable causes.
✨Manylion y Digwyddiad / Event Details
- 📍 Lleoliad: Clwb Rygbi Aberystwyth Venue: Aberystwyth Rugby Club
- 🕠 Gatiau’n Agored: 5:30pm Gates Open: 5:30pm
- 🎇 Arddangosfa Tân Gwyllt: 7:00pm Fireworks Display: 7:00pm
- 🎆 Hefyd: Arddangosfeydd laser a phyrotechnegol mawreddog cyn ac ar ôl y brif sioe!
- 🎆 Plus: Spectacular laser and pyrotechnic displays before and after the main show!
- 📍 Os cawn ein gorfodi i ohirio'r digwyddiad, y dyddiadau amgen yw dydd Gwener 6 Tachwedd neu ddydd Llun 9 Tachwedd.
- 📍 If we are forced to postpone the event the alternative dates are Friday 6 November or Monday 9 November.
🍔 Bwyd a Diod / Food & Drink
Bydd gwerthwyr a busnesau lleol yn gweini bwyd blasus a diodydd poeth trwy gydol y noson. Bydd bar y Clwb Rygbi hefyd yn agored ar gyfer lluniaeth. Local vendors and businesses will be serving up delicious food and hot drinks throughout the evening. The Rugby Club bar will also be open for refreshments.
🎟 Tocynnau / Tickets
Arbedwch amser ar y noson! Prynwch eich tocynnau ar-lein i fanteisio ar ein Lôn Tocynnau Gyflym, gan osgoi’r ciwiau. Tickets Save time on the night! Buy your tickets online to take advantage of our Fast Ticket Lane and skip the queues
🙌 Noddwyr Balch y Digwyddiad / Proudly Sponsored By
Aber Instruments Ltd, gyda chymorth nifer o fusnesau lleol ardderchog. Dewch â’ch teulu, eich ffrindiau a’ch cymdogion i’n helpu i oleuo awyr Aberystwyth mewn steil – gan ar yr un pryd godi arian ar gyfer achosion da lleol. Mae’n ffordd ragorol i ni ddathlu gyda’n gilydd yn y gymuned!
Aber Instruments Ltd, with the support of many wonderful local businesses. Bring your family, friends, and neighbours and help us light up the Aberystwyth sky in style – all while raising money for local good causes. It’s the perfect way to celebrate together as a community!
Telerau ac Amodau: Mae'r tocyn hwn yn ddilys ar gyfer y dyddiad a drefnwyd ar gyfer y digwyddiad, sef dydd Iau 5 Tachwedd 2026, neu’r dyddiadau amgen dynodedig, sef dydd Gwener 6 Tachwedd neu ddydd Llun 9 Tachwedd 2026. Mae pob gwerthiant tocynnau yn derfynol ac nid yw’n bosibl cael ad-daliad oni bai fod y digwyddiad yn cael ei ganslo'n gyfan gwbl gan y trefnwyr ar y prif ddyddiad a'r dyddiadau amgen a drefnwyd, fel ei gilydd. Mae Clwb Rotary Ardal Aberystwyth yn cadw'r hawl i newid, oedi neu ohirio'r tân gwyllt yn achos tywydd garw, cyfarwyddiadau diogelwch, neu amgylchiadau sydd y tu hwnt i'n rheolaeth resymol. Deiliad y tocyn ei hun sy’n ysgwyddo’r risg o ran ei fynediad i’r digwyddiad. Nid yw'r trefnydd, perchennog y lleoliad, na phartneriaid y digwyddiad yn derbyn unrhyw atebolrwydd am anaf personol, salwch, colled neu ddifrod i eiddo personol (gan gynnwys cerbydau sy’n cael eu parcio ar y safle), ac eithrio pan achosir unrhyw un o’r uchod yn uniongyrchol oherwydd ein hesgeulustod profedig. Gwaherddir mynychwyr rhag dod â thân gwyllt personol, ffyn gwreichion, laserau, alcohol, cynwysyddion gwydr, ac anifeiliaid anwes (ac eithrio cŵn cymorth cofrestredig) i’r safle. Rhaid i bob mynychwr ddilyn yr arwyddion diogelwch a chyfarwyddiadau stiwardiaid y digwyddiad. Mae'r trefnydd yn cadw'r hawl i wrthod mynediad i, neu i daflu allan, unrhyw unigolyn sy'n gweithredu'n anniogel neu sy’n afreolus, a hynny heb roi ad-daliad iddo. Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol bob amser. Nodwch fod arddangosfeydd tân gwyllt yn cynhyrchu mwg a lludw, a all gael eu cario i ardaloedd y gwylwyr os yw’r gwynt mewn cyfeiriad penodol ac achosi llid i’r llygaid.
Terms & Conditions: This ticket is valid for the scheduled event date of Thursday 5 November 2026 or the designated alternative dates of Friday 6, or Monday 9, November 2026. All ticket sales are final and strictly non-refundable unless the event is completely cancelled by the organizers on both the primary date and the scheduled alternative dates. Ardal Aberystwyth Rotary Club reserves the right to alter, delay, or postpone the display due to inclement weather, safety directives, or circumstances beyond our reasonable control. Admission is at the ticket holder's own risk. The organizer, venue owner, and event partners accept no liability for personal injury, illness, loss, or damage to personal property (including vehicles parked on-site), except where directly caused by our proven negligence. Attendees are strictly prohibited from bringing on to the site personal fireworks, sparklers, lasers, alcohol, glass containers, and pets (excluding registered assistance dogs). All attendees must follow safety signage and instructions from event stewards. The organizer reserves the right to refuse entry or eject any person acting unsafely or disruptively without a refund. Minors under 16 must be accompanied by a responsible adult at all times. Note that firework displays generate smoke and ash that may carry to spectator areas in certain wind directions and may irritate the eyes.
Location
Clwb Rygbi Aberystwyth / Aberystwyth Rugby Club, SY23 1HL