Clwb Coginio Caru Llysiau / Love Veg Cooking Club
Multiple dates and times
Henbant, LL545DF
Description
Diolch i grant hael gan WWF Cymru (Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd), rydym yn gallu cynnig sesiwn goginio 'Fferm i'r Fforc' i bobl ifanc 6-11 oed mewn ysgolion yn ein hardal gymunedol leol.
Byddwn yn cael cyfle i ddod i adnabod y fferm, a dysgu pa fwyd sy'n cael ei gynhyrchu yma. Gan ddefnyddio cynnyrch o'r fferm, byddwn yn mwynhau sesiwn goginio gyda'n gilydd, ac yn dod â bwyd a syniadau rysáit adref i'w rhannu.
Mae 5 sesiwn yn gyfan gwbl: mae croeso i chi archebu mewn un neu bob un ohonynt: lle fydd y cyntaf i'r felin. Ar y noson ar y 5ed sesiwn ddydd Mercher 17eg Gorffennaf, byddwn yn cynnal digwyddiad dathlu cymunedol, a chyfle i deuluoedd a'r gymuned leol ddod at ei gilydd a blasu bwydydd lleol blasus.
Nid oes tâl am y sesiynau hyn, gan eu bod yn cael eu hariannu'n llawn. Mae croeso i chi wneud rhodd i'n helpu i brynu mwy o offer coginio ar gyfer sesiynau yn y dyfodol os hoffech wneud hynny. Archebwch dim ond os ydych chi'n gwybod y byddwch chi'n bendant yn dod gan fod lleoedd yn gyfyngedig iawn.
Thanks to a generous grant from WWF Cymru (World Wildlife Fund), we are able to offer a 'Farm to Fork' cookery session for young people aged 6-11 in schools in our local community area.
We will have a chance to get to know the farm, and learn what food is produced here. Using produce from the farm, we will enjoy a cooking session together, and bring food and recipe ideas home to share.
There are 5 sessions altogether: you are welcome to book in one or all of them: places will be first come first served. On the evening on the 5th session Wednesday 17th July, we will be hosting a community celebration event, and a chance for families and the local community to come together and taste some delicious local foods.
There is no charge for these sessions, as they are fully funded. You are welcome to make a donation to help us buy more cookery equipment for future sessions if you would like to. Please only book if you know you will definitely come as places are very limited.
Location
Henbant, LL545DF