Hyfforddiant Arweinydd Gweithgareddau Natur Lefel 2 / Nature-Based Activity Leader Level 2 training
Hyfforddiant Arweinydd Gweithgareddau Natur Lefel 2 / Nature-Based Activity Leader Level 2 training
Share this event
Need help?
Dyfarniad Estynedig Lefel 2 Agored Cymru mewn Dysgu yn yr Awyr Agored
Hoffech chi gael y sgiliau a'r hyder i arwain grwpiau yn yr awyr agored? Mae hwn yn gymhwyster 4 diwrnod sy'n cwmpasu sgiliau awyr agored ymarferol a gweithgareddau sy'n seiliedig ar natur, sy'n ddelfrydol ar gyfer ysgolion a lleoliadau eraill a gweithwyr proffesiynol sy'n dymuno ymarfer yn yr awyr agored. Mae'r cwrs yn cynnwys manteision iechyd a lles dysgu yn yr awyr agored, defnyddio offer llaw yn ddiogel, dysgu am amgylcheddau naturiol, sgiliau tân, clymau, adeiladu llochesi a chyflwyniad i asesu risg.
Mae hwn yn gwrs achrededig Lefel 2 Agored sydd hefyd yn gymhwyster y gellir ei yswirio. Cynhelir yr asesiad trwy arsylwi gan diwtor yn ystod eich diwrnodau hyfforddi, yn ogystal â llyfr gwaith syml i'w gwblhau ar ôl yr hyfforddiant. Mae'r cwrs hwn ar gyfer gweithwyr proffesiynol prysur sydd eisiau cyflwyno sesiynau awyr agored ymarferol. (I weithwyr addysg proffesiynol sydd â diddordeb mewn ymchwilio'n ddyfnach i addysgeg sy'n seiliedig ar ddysgwyr, efallai y bydd Ysgol Goedwig Lefel 3 yn fwy priodol). Bydd y cwrs yn cael ei arwain yn Saesneg - gellir cyflwyno gwaith yn y Gymraeg neu'r Saesneg.
Bydd angen i chi fynychu pob un o'r pedwar diwrnod hyfforddi wyneb yn wyneb, pob dydd Sadwrn: 23 Mai, 6 Mehefin, 20 Mehefin, 11 Gorffennaf. Bydd gennych 6 mis i gwblhau'r cwrs hwn. Noder - NID cwrs Ysgol Goedwig yw hwn ac nid yw'n eich cymhwyso i gyflwyno sesiynau Ysgol Goedwig.
Gofynion Mynediad:
- 16 oed neu hŷn
- Cymhwyster Lefel 1 neu gyfwerth (1 TGAU)
- Mae cymhwyster Cymorth Cyntaf addas yn ddefnyddiol i ategu'r cwrs hwn (gellir ei gwblhau ar ôl dyddiadau hyfforddi)
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys chwe uned sef:
- Manteision Iechyd Bod yn yr Awyr Agored
- Sgiliau Ymarferol yn yr Awyr Agored
- Diogelwch Personol wrth Ddysgu yn yr Awyr Agored
- Archwilio Adnoddau a Thechnegau Crefft ar gyfer Dysgu yn yr Awyr Agored
- Defnydd Cynaliadwy o Adnoddau Naturiol
- Cyflwyno Gweithgaredd Dysgu yn yr Awyr Agored
Agored Cymru Level 2 Extended Award in Learning in the Outdoors
Do you wish you had the skills and confidence to lead groups outdoors? This is a 4-day qualification covering practical outdoor skills and nature-based activities ideal for schools and other settings and professionals wishing to take their practice outdoors. The course includes the health and wellbeing benefits of learning outdoors, safely using hand tools, learning about natural environments, fire skills, knots, shelter building and an introduction to risk assessment.
This is a Level 2 Agored accredited course which is also an insurable qualification. Assessment will be carried out through tutor observation during your training days, as well as a simple workbook to complete after the training. This course is for busy professionals who want to deliver practical outdoor sessions. (For education professionals interested into a deeper dive into learner-based pedagogy, Level 3 Forest School may be more appropriate). The course will be led in English - work can be submitted in Welsh or English.
You will need to attend all four in-person training days, all Saturdays: 23rd May, 6th June, 20th June, 11th July. You will have 6 months to complete this course. Please Note - this is NOT a Forest School course and does not qualify you to deliver Forest School sessions.
Entry Requirements:
- Aged 16 years or over
- Level 1 qualification or equivalent (1 GCSE)
- A suitable First Aid qualification is useful to complement this course (can be completed after training dates)
This course comprises six units which are:
- The Health Benefits of Being Outdoors
Practical Skills in the Outdoors
Personal Safety when Learning in the Outdoors
Exploring Craft Resources and Techniques for Outdoor Learning
Sustainable Use of Natural Resources
Delivering an Outdoor Learning Activity