Skip to main content
  • Chwilio am Ganeuon ac Alawon Lleol - Gwilym Bowen Rhys - Finding Local Songs and Tunes
1 of 3

Chwilio am Ganeuon ac Alawon Lleol - Gwilym Bowen Rhys - Finding Local Songs and Tunes

Sat 3 Oct 2026 17:15 - 18:45 Caffi Caban, Brynrefail, LL55 3NR

Chwilio am Ganeuon ac Alawon Lleol - Gwilym Bowen Rhys - Finding Local Songs and Tunes

Sat 3 Oct 2026 17:15 - 18:45 Caffi Caban, Brynrefail, LL55 3NR

[scroll down for English]

Sut mae dod o hyd i ganeuon, alawon a straeon eich bro chi?

Mae Clwb Gwerin Brynrefail yn cyflwyno gweithdy am ddim gyda Gwilym Bowen Rhys yng Nghaffi Caban.

Bydd Gwilym yn rhannu ei brofiad ei hun o ymchwilio i hen alawon a baledi: lle i chwilio, sut mae o'n mynd ati, a beth i'w wneud efo'r deunydd ar ôl dod o hyd iddo. 

Weithiau mi ddowch chi ar draws geiriau cân heb 'run alaw. Dro arall, alaw wych heb air ar ei chyfyl. Bydd Gwilym yn trafod sut i fynd i'r afael â phethau felly, ac yn rhannu digon o gyngor ymarferol ar chwilota ac ar weithio efo'r hyn rydach chi'n ei ddarganfod.

Mae o’n gwneud y math hwn o waith, ers ei albwm cyntaf O Groth y Ddaear (2016) hyd at ei albwm diweddaraf, Detholiad o Hen Faledi III, a ryddhawyd ar 1 Medi 2026, y trydydd casgliad yn y gyfres, ac un ar ddeg o hen faledi Cymraeg wedi eu codi a'u canu o'r newydd.

Mae Dyffryn Peris yn llawn o'r deunydd yma. Daeth prosiect Stori'r Tir Dyffryn Peris o hyd i ganeuon ac alawon fel Bwthyn ar y Bryn a Bwlch Llanberis. Ac mae 'na ragor i'w cael, yn saff i chi.

Y manylion
17:15–18:45 · Am ddim, ond mae angen archebu lle

Does dim angen dod ag offeryn. Efallai yr hoffech chi ddod â thabled neu liniadur er mwyn cael golwg ar rai o'r ffynonellau ar-lein.

Sgwrs ddwyieithog. Croeso i bawb: siaradwyr Cymraeg, dysgwyr a'r rhai di-Gymraeg.
Mae Caban yn gwbl hygyrch, gyda mynediad gwastad a thoiled anabl.

Ac yna am 19:30 yr un noson, mae Gwilym yn canu yn y Caban. Tocyn ar wahân: ymlaen llaw £10/£6, ar y dydd £12/£8.

Mae Clwb Gwerin Brynrefailyn cyfarfod yng Nghaffi Caban ar Nos Fercher olaf pob mis. Y nesaf: nos Fercher 28 Hydref.

Ymholiadau: helo@gwerinbrynrefail.cymru

Cefnogir y prosiect yma gan Caffi Caban a'r Cronfa Tradd, cynllun gan Tŷ Cerdd mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru.

--------------------------

How do you go about finding the songs, tunes and stories of your own patch?

Clwb Gwerin Brynrefail presents a free workshop with Gwilym Bowen Rhys at Caban.

Gwilym shares his own experience of researching old tunes and ballads: where to look, how he works, and what to do with the material once you've found it. Sometimes you come across the words of a song with no tune.

Other times there's a wonderful tune with no words anywhere near it. Gwilym talks about how to tackle that, and shares plenty of practical advice on searching and on working with what you find.

This is work he does for real, from his first album O Groth y Ddaear (2016) through to his latest, Detholiad o Hen Faledi III, released on 1 September 2026, the third collection in the series, gathering eleven old Welsh ballads and singing them anew.

Dyffryn Peris is full of this material. The Stori'r Tir Dyffryn Peris project uncovered songs and tunes including Bwthyn ar y Bryn and Bwlch Llanberis, and there is certainly more still to be found.

The details
17:15–18:45 · Free, but booking is required


No need to bring an instrument. You may want to bring a tablet or laptop so you can look at some of the online sources.
Delivered bilingually. Everyone welcome: Welsh speakers, learners and non-Welsh speakers alike.
Caban is fully accessible, with step-free access and an accessible toilet.

Then at 19:30 the same evening, Gwilym performs at Caban. Separate ticket: £10/£6 in advance, £12/£8 on the door.

Clwb Gwerin Brynrefail meets at Caban on the last Wednesday of every month. Next: Wednesday 28 October.

Enquiries: helo@gwerinbrynrefail.cymru

This project is supported Caffi Caban and the Cronfa Tradd Fund, a Tŷ Cerdd scheme run in partnership with Arts Council of Wales.

Location

Caffi Caban, Brynrefail, LL55 3NR