Skip to main content
  • Gweithdy Canu Gwerin - Stacey Blythe - Welsh Folk Singing Workshop
1 of 3

Gweithdy Canu Gwerin - Stacey Blythe - Welsh Folk Singing Workshop

Sat 5 Dec 2026 17:30 - 18:30 Caffi Caban, Brynrefail, LL55 3NR

Gweithdy Canu Gwerin - Stacey Blythe - Welsh Folk Singing Workshop

Sat 5 Dec 2026 17:30 - 18:30 Caffi Caban, Brynrefail, LL55 3NR

[scroll down for English] Gweithdy Canu Gwerin: Cynghorion Gorau Stacey Blythe

Mae Stacey Blythe wedi treulio deng mlynedd ar hugain yn byw ac yn anadlu canu gwerin Cymraeg. Mae hi'n hyfforddi cantorion yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae hi wedi perfformio yn America, Brasil ac Awstralia efo ei bandiau Ffynnon ac Elfen, ac wedi ymchwilio i faledi traddodiadol efo Frankie Armstrong. Mae hi hefyd wedi plethu caneuon Cymraeg efo cerddoriaeth glasurol India yn ei deuawd Gitân. Mae’n prin clywed o rhywun sy'n gwybod caneuon gwerin Cymreig o gymaint o gyfeiriadau!

Yn y gweithdy ymarferol a hamddenol yma, bydd Stacey yn rhannu ei chynghorion gorau ar ganu'r caneuon. Bydd hi'n dangos sut i siapio llinell, sut i reoli cyflymder balad hir, a sut i ganu ar ben eich hun heb golli'ch hyder.

Byddwn ni'n dysgu cân neu ddwy efo'n gilydd trwy wrando. Byddwn ni hefyd yn sgwrsio am o le daw'r caneuon a pham eu bod nhw'n dal yn bwysig.

Hwyluso dwyieithog. Mae Stacey yn siaradwraig Gymraeg rugl. Mi ddysgodd hi'r iaith fel oedolyn a magu ei theulu drwy'r Gymraeg, felly mae croeso arbennig i ddysgwyr hefyd.

Y manylion

Pnawn Sadwrn 5ed Rhagfyr 17:30-18:30 - Yn rhad ac am ddim, ond rhaid archebu lle

Caffi Caban, Brynrefail LL55 3NR - Mae Caban yn gwbl hygyrch, efo mynediad heb risiau a thoiled hygyrch.

Wedyn am 19:30 yr un noson yng Nghaban, bydd Stacey yn perfformio ei fersiwn ddwyieithog o chwedl Orffews, efo'i thelyn, wrth gwrs. Tocyn ar wahân: £10/£6 o flaen llaw, £12/£8 wrth y drws.

Cofiwch hefyd fod na noson Clwb Gwerin Brynrefail ar nos Fercher olaf pob mis. Dyddiadau: www.gwerinbrynref.cymru

Cefnogir y prosiect yma gan Caffi Caban a’r Cronfa Tradd, cynllun gan Tŷ Cerdd mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru. Ymholiadau: helo@gwerinbrynref.cymru

---------------------------------------------------------------

Welsh Folk Singing Workshop: Stacey Blythe's Top Tips

Stacey Blythe has spent thirty years living and breathing Welsh folk song. She teaches singers at the Royal Welsh College of Music and Drama, has performed in America, Brazil and Australia with Ffynnon and Elfen, has researched traditional ballads with Frankie Armstrong, and woven Welsh song together with Indian classical music in her duo Gitân. Not many know this repertoire from as many angles!

In this relaxed, practical workshop Stacey shares her top tips for singing these songs: how to shape a line, how to pace a long ballad, and how to sing unaccompanied without losing your nerve. We will learn a song or two together by ear, and talk about where the songs come from and why they still matter.

Bilingual facilitation. Stacey is a fluent Welsh speaker who learned the language as an adult and raised her family through Welsh, so learners are especially welcome.

The details

Saturday 5th December 17:30-18:30 - free, but booking is required

Caban is fully accessible, with step-free access and an accessible toilet. Then at 19:30 the same evening at Caban, Stacey will perform her bilingual version of the tale of Orpheus, with her harp of course. Separate ticket: £10/£6 in advance, £12/£8 on the door.

Also remember that our regular Clwb Gwerin Brynrefail event is on the last Wednesday of every month. Dates at: www.gwerinbrynref.cymru

This project is supported by Caffi Caban and the Cronfa Tradd Fund, a Tŷ Cerdd scheme run in partnership with Arts Council of Wales. Enquiries: helo@gwerinbrynref.cymru

Location

Caffi Caban, Brynrefail, LL55 3NR