Skip to main content
  • 'Disability: A History of Resistance' - David Turner in conversation with Jude Rogers
1 of 3

'Disability: A History of Resistance' - David Turner in conversation with Jude Rogers

Wed 7 Oct 2026 17:00 - 18:00 South Wales Miners’ Library, Y Storfa, 277-278 Oxford St, Swansea, SA1 3EL

'Disability: A History of Resistance' - David Turner in conversation with Jude Rogers

Wed 7 Oct 2026 17:00 - 18:00 South Wales Miners’ Library, Y Storfa, 277-278 Oxford St, Swansea, SA1 3EL

Need help?

Manage tickets

Despite there being more than 16 million disabled people in the UK today, disability rarely features in mainstream accounts of our past. That absence is not down to any lack of evidence: it is a forgotten, suppressed history – the result of deliberate choices about whose histories matter. For the first time, this book puts disabled lives at the centre of the story of modern Britain.

It tells a story of resistance and ingenuity, and often one of flourishing, full of people who refused to be silenced or pitied. We meet the seventeenth-century labourer, who fights accusations in court that he’s faking his disability – and wins; the eighteenth-century painter who signs her miniatures for royalty ‘without hands’; the nineteenth-century one-armed textile worker who turned his injury into activism, demanding reform in Parliament. From the mid-twentieth century, we see how disabled people got together to demand equality in education, housing, transport and the workplace – fighting for their right, not to be treated specially, but to lead ordinary lives like everybody else.

For this ground-breaking and campaigning book, David Turner has unearthed countless forgotten voices and tales. He tells a story not about ‘progress’ led by doctors or philanthropists, but a ground-up history of ordinary people demanding dignity and justice. And by putting disabled people back into the national story, reveals a much fuller and richer history of modern Britain.

David Turner is an award-winning social and cultural historian, with expertise in disability, medicine, gender and the body. Based at Swansea University, he is the first person in the UK to be promoted to a professorship based on their work on disability history, and his research has appeared in publications such as iNews and BBC History Magazine. David also co-devised the BBC Radio 4 series Disability: A New History.

Jude Rogers has been a journalist and critic for the Guardian and the Observer for twenty years, writing about arts, culture and society, and also makes documentaries for BBC Radio 4 and BBC Radio Wales. She was shortlisted for Wales Book of the Year for her 2022 memoir, The Sound Of Being Human: How Music Shapes Our Lives. Born in Swansea and now living in Abergavenny, she is delighted to be back in her hometown tonight.

Copies of the book will be available (card only) from our partner bookseller 'Cover to Cover'

A Cultural Institute event in partnership with Vintage / Bodley Head, Cover to Cover, and South Wales Miners' Library

*Please note: Event delivered in English

Mae mwy nag 16 miliwn o bobl anabl yn y DU heddiw ond er gwaethaf hyn, prin iawn y ceir sôn am anabledd yn hanesion y gorffennol yn y brif ffrwd. Ymddengys nad yw'r absenoldeb hwnnw o ganlyniad i brinder tystiolaeth: hanes angof, cuddiedig ydyw - canlyniad dewisiadau bwriadol ynghylch pa bobl y mae eu hanesion o bwys. Am y tro cyntaf, mae'r llyfr hwn yn rhoi pobl anabl wrth wraidd stori hanes Prydain.

Mae'n adrodd stori gwrthwynebiad, dyfeisgarwch a ffyniant, yn llawn pobl a fynnodd leisio eu barn gan wrthod trugaredd yn llwyr. Rydym yn cwrdd â'r llafurwr o'r ail ganrif ar bymtheg, sy'n ymladd yn erbyn cyhuddiadau yn y llys ei fod yn ffugio ei anabledd - ac mae'n fuddugol; y peintiwr o'r ddeunawfed ganrif sy'n llofnodi ei pheintiadau bach ar gyfer y teulu brenhinol 'heb ddwylo'; y gweithiwr tecstilau ag un fraich o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a wnaeth droi'i anaf yn actifiaeth, gan fynnu cael diwygio cyfreithiol yn y Senedd. O ganol yr ugeinfed ganrif, gwelwn sut gwnaeth pobl anabl ddod ynghyd a mynnu cael yr un hawliau â phawb o ran addysg, tai, cludiant a'r gweithle - gan ymladd am eu hawl i fyw bywydau cyffredin fel pawb arall, nid cael eu trin mewn ffordd arbennig.

Ar gyfer y llyfr arloesol ac ymgyrchu hwn, mae David Turner wedi canfod llu o leisiau a straeon angof. Nid yw'n adrodd stori am 'gynnydd' dan arweiniad meddygon neu ddyngarwyr, ond hanes o'r gwaelod i fyny o bobl gyffredin yn mynnu cael urddas a chyfiawnder. A thrwy wneud pobl anabl yn rhan o'r stori genedlaethol eto, mae'n datgelu hanes llawnach a mwy ffeithiol o Brydain fodern.

Mae David Turner yn hanesydd cymdeithasol a diwylliannol arobryn, gydag arbenigedd mewn anabledd, meddygaeth, rhywedd a'r corff. Mae David yn gweithio ym Mhrifysgol Abertawe ac fe oedd y person cyntaf yn y DU i gael ei ddyrchafu i athrawiaeth yn seiliedig ar ei waith ar hanes anabledd. Mae ei ymchwil wedi ymddangos mewn cyhoeddiadau megis iNews a BBC History Magazine. Gwnaeth David hefyd gyd-greu'r gyfres Disability: A New History ar BBC Radio 4.

Mae Jude Rogers wedi bod yn newyddiadurwr ac yn gritig i'r Guardian a'r Observer am ugain mlynedd, gan ysgrifennu am y celfyddydau, diwylliant a chymdeithas, ac mae hefyd yn cynhyrchu rhaglenni dogfen i BBC Radio 4 a BBC Radio Wales. Cyrhaeddodd restr fer Llyfr y Flwyddyn Cymru am ei chofiant yn 2022, The Sound Of Being Human: How Music Shapes Our Lives. Fe'i ganed yn Abertawe ac mae hi bellach yn byw yn y Fenni, ac mae wrth ei bodd yn dychwelyd i'w thref enedigol heno.

Bydd copïau o'r llyfr ar gael (cerdyn yn unig) gan ein llyfrwerthwr partner 'Cover to Cover'

Mewn partneriaeth â Vintage / Bodley Head, Cover to Cover, a Llyfrgell Y Glower De Cymru

*Sylwch: Cyflwynwyd y digwyddiad yn Saesneg

Location

South Wales Miners’ Library, Y Storfa, 277-278 Oxford St, Swansea, SA1 3EL