Skip to main content
  • Digwyddiad lansio swyddogol Mis Ymwybyddiaeth o Islamoffobia
1 of 3

Digwyddiad lansio swyddogol Mis Ymwybyddiaeth o Islamoffobia

Mon 4 Nov 2024 9:30 AM - 12:00 PM Stadiwm Principality, Heol y Porth, Caerdydd, CF10 1NS

Digwyddiad lansio swyddogol Mis Ymwybyddiaeth o Islamoffobia

Mon 4 Nov 2024 9:30 AM - 12:00 PM Stadiwm Principality, Heol y Porth, Caerdydd, CF10 1NS

Mae Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, un o bartneriaid DARPL, yn edrych ymlaen at ddigwyddiad lansio swyddogol Mis Ymwybyddiaeth o Islamoffobia, sydd â’r nod o godi ymwybyddiaeth o effaith Islamoffobia ac arddangos cyfraniadau cadarnhaol pobl Fwslimaidd yn y Deyrnas Unedig.

Thema’r gynhadledd eleni yw #HadauBachNewidMawr - gweithred bwerus sy’n tynnu sylw at sut y gall ymdrechion bach gael effaith fawr yn y frwydr i fynd i’r afael ag Islamoffobia.

Bydd y digwyddiad hwn yn dod ag ymgyrchwyr, cynghreiriaid ac arweinwyr cymunedol ynghyd i rannu profiadau, strategaethau a gwybodaeth am fynd i’r afael ag Islamoffobia. Drwy drafodaethau pwerus, areithiau a gweithgareddau cydweithredol, ein nod yw ysbrydoli gweithredu a hyrwyddo undod.

Mewn hinsawdd lle mae Islamoffobia a daliadau’r dde eithafol yn parhau fod ar gynnydd, mae thema eleni yn pwysleisio y gall pob gweithred, waeth pa mor fach, gyfrannu at newid parhaol. Boed hynny’n ddechrau sgwrs, cymryd rhan mewn rhaglenni addysgol, neu gefnogi’r ymgyrch ar-lein, mae Mis Ymwybyddiaeth o Islamoffobia yn annog pawb i sefyll yn erbyn Islamoffobia a meithrin cymdeithas fwy cynhwysol. Canfu adroddiad diweddaraf y Swyddfa Gartref ar droseddau casineb yng Nghymru a Lloegr mai Mwslimiaid oedd y grŵp crefyddol y mae troseddau casineb â chymhelliant crefyddol yn effeithio arno fwyaf yn dal i fod.

Location

Stadiwm Principality, Heol y Porth, Caerdydd, CF10 1NS