Lansio Prosiect Datblygu Cwricwlwm
Lansio Prosiect Datblygu Cwricwlwm
Share this event
Mae Rhwydwaith Eiriolaeth DARPL yn chwilio am ymarferwyr sy’n awyddus i gyd-greu adnoddau newydd a chyffrous o safbwynt gwrth-hiliaeth. Byddwch yn cydweithio ag ysgolion eraill o bob cwr o Gymru i gynhyrchu cynlluniau gwersi, cynlluniau dysgu a digwyddiadau i fynd â’ch cynnig cwricwlwm gwrth-hiliaeth i’r lefel nesaf.
Arweinyddion y prosiect fydd Kwame Boateng o Black Curriculum awdur Epistemoleg Safbwynt a Gwrth-hiliaeth mewn Addysg Bellach a’r Athro Allgymorth Cenedlaethol DARPL, Leon Andrews.
Nodau’r prosiect:
- Datblygu cyfres o adnoddau diddorol a dilys i’w defnyddio mewn lleoliadau addysgol ar gyfer disgyblion 3-19 oed
- Cefnogi ysgolion i ddatblygu cynlluniau dysgu trawsgwricwlaidd o safbwynt gwrth-hiliaeth, yn unol â’r cwricwlwm newydd i Gymru
- Hwyluso’r gwaith o gynllunio digwyddiadau cydweithredol i sicrhau bod gwrth-hiliaeth yn treiddio drwy’r cwricwlwm bugeiliol sy’n cael ei gynnig gan sefydliadau dysgu yng Nghymru