Mannau Dewr: Sgyrsiau Heriol am Hil - Cyfres 2
Mannau Dewr: Sgyrsiau Heriol am Hil - Cyfres 2
Share this event
Mae’r fenter hon yn helpu i ddatblygu dealltwriaeth o hil ymysg uwch arweinwyr gwyn mewn ysgolion ar hyd a lled Cymru. Fel rhan o’r ymchwil hon, byddwch yn cymryd rhan mewn dwy sesiwn drafod wedi’u hwyluso ar-lein. Bydd y sesiynau hyn yn cael eu cynnal mewn amgylchedd diogel, cefnogol a myfyriol, lle gallwch archwilio ymwybyddiaeth o hil a datblygu’r ddealltwriaeth o hil sydd ei hangen i ddatblygu strategaethau gwrth-hiliol yng nghymuned eich ysgol.
Dewiswch un o’r cyfresi canlynol:
- Cyfres 1: Dydd Iau 28 Tachwedd a 5 Rhagfyr, 3:30-5:00 pm
- Cyfres 2: Dydd Iau 9 Ionawr ac 16 Ionawr, 9:00-10:30 am
Drwy gymryd rhan, byddwch yn cyfrannu at eich twf personol a phroffesiynol, yn ogystal â llywio ymchwil sydd â’r nod o lunio arferion arweinyddiaeth gwrth-hiliol yn ysgolion Cymru.
I gymryd rhan neu i ddysgu mwy, anfonwch e-bost at: l.martin13@outlook.cardiffmet.ac.uk