Skip to main content
  • Mannau Dewr: Sgyrsiau Heriol am Hil - Cyfres 2
1 of 3

Mannau Dewr: Sgyrsiau Heriol am Hil - Cyfres 2

Thu 16 Jan 2025 9:00 AM - 10:30 AM

Mannau Dewr: Sgyrsiau Heriol am Hil - Cyfres 2

Thu 16 Jan 2025 9:00 AM - 10:30 AM

Mae’r fenter hon yn helpu i ddatblygu dealltwriaeth o hil ymysg uwch arweinwyr gwyn mewn ysgolion ar hyd a lled Cymru. Fel rhan o’r ymchwil hon, byddwch yn cymryd rhan mewn dwy sesiwn drafod wedi’u hwyluso ar-lein. Bydd y sesiynau hyn yn cael eu cynnal mewn amgylchedd diogel, cefnogol a myfyriol, lle gallwch archwilio ymwybyddiaeth o hil a datblygu’r ddealltwriaeth o hil sydd ei hangen i ddatblygu strategaethau gwrth-hiliol yng nghymuned eich ysgol.

Dewiswch un o’r cyfresi canlynol:

  • Cyfres 1: Dydd Iau 28 Tachwedd a 5 Rhagfyr, 3:30-5:00 pm
  • Cyfres 2: Dydd Iau 9 Ionawr ac 16 Ionawr, 9:00-10:30 am

Drwy gymryd rhan, byddwch yn cyfrannu at eich twf personol a phroffesiynol, yn ogystal â llywio ymchwil sydd â’r nod o lunio arferion arweinyddiaeth gwrth-hiliol yn ysgolion Cymru.

I gymryd rhan neu i ddysgu mwy, anfonwch e-bost at: l.martin13@outlook.cardiffmet.ac.uk