Skip to main content
  • Cyfres o Sesiynau DARPL i Arweinwyr Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar yn dod yn 2025!
1 of 3

Cyfres o Sesiynau DARPL i Arweinwyr Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar yn dod yn 2025!

Sat 1 Feb 2025 6:30 PM - 8:30 PM

Cyfres o Sesiynau DARPL i Arweinwyr Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar yn dod yn 2025!

Sat 1 Feb 2025 6:30 PM - 8:30 PM

Mae’r gyfres hon o sesiynau wedi’u hanelu at arweinwyr (rheolwyr, arweinwyr lleoliadau, gwarchodwyr plant, pwyllgorau rheoli gwirfoddol, perchnogion meithrinfa ac ati) mewn lleoliadau Gofal Plant, Gwaith Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar. Mae creu diwylliant gwrth-hiliol yn eich lleoliad yn dechrau gydag arweinyddiaeth, tra bod cyfres o sesiynau  i ymarferwyr yn eistedd ochr yn ochr â chyfres arweinwyr i gefnogi dysgu proffesiynol i’r holl staff ar draws lleoliadau.

Trwy fynychu POB sesiwn (2 neu 3 yn dibynnu ar hyd y sesiwn), bydd gan arweinwyr gyfle i fyfyrio a thrafod:

  • sut i adnabod hiliaeth systemig a strwythurol o fewn ein cymdeithas
  • sut i greu diwylliant gwrth-hiliol o fewn eich lleoliad
  • sut i herio hiliaeth a gweithredu arfer gorau o ran polisi a gweithdrefn
  • sut i ddyfnhau eich dealltwriaeth a’ch gwybodaeth am arfer gwrth-hiliol

Mae nifer y mynychwyr ym mhob sesiwn wedi’i gyfyngu i 20. I archebu lle, cliciwch ar un o’r  dolenni isod:

Sesiynau DARPL i Arweinwyr

Sesiynau DARPL i Arweinwyr yn cael eu harwain gan NDNA Cymru a PACEY Cymru (1 a 8 o Chwefror 9.30yb - 12.30yp) - sesiynau Saesneg