Cyfres Gweminar Athrawon DARPL, Set Tymor y Gwanwyn sesiwn 3
Cyfres Gweminar Athrawon DARPL, Set Tymor y Gwanwyn sesiwn 3
Share this event
Mae’r sesiwn hon yn cynnig cyfle i athrawon ac athrawon dan hyfforddiant adfyfyrio ar eu hunain a’u hymarfer eu hunain er mwyn creu amgylcheddau dysgu cynhwysol a chroesawgar lle mae pob plentyn a pherson ifanc yn teimlo’n gyfforddus ac yn gallu ffynnu. Nod y sesiwn hon yw datblygu cymhwysedd wrth ymgorffori gwrth-hiliaeth drwy ymddygiadau, agweddau ac adnoddau a meithrin hyder cyfranogwyr mewn meysydd fel terminoleg ac iaith briodol, cael sgyrsiau heriol a chydnabod ac ymateb yn effeithiol i hiliaeth.
Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu gan raglen Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth.