Prosiect Datblygu Cwricwlwm Sesiwn 1
Prosiect Datblygu Cwricwlwm Sesiwn 1
Share this event
Ar agor i ysgolion DAN yn unig
Bydd y sesiwn hon yn cael ei harwain gan Kwame Boateng o Black Curriculum awdur Epistemoleg Safbwynt a Gwrth-hiliaeth mewn Addysg Bellach a’r Athro Allgymorth Cenedlaethol DARPL, Leon Andrews.
Bydd y sesiwn yn canolbwyntio ar ddatblygu syniadau o’r digwyddiad lansio a bydd yn cynnwys mannau cydweithio i ymarferwyr rannu syniadau, gofyn cwestiynau gydag amser i ymchwilio i’w syniadau; gan arwain at bob grŵp yn gadael gyda chynllun datblygu ar gyfer eu prosiect dewisol.
Nodau’r prosiect:
- Datblygu cyfres o adnoddau diddorol a dilys i’w defnyddio mewn lleoliadau addysgol ar gyfer disgyblion 3-19 oed
- Cefnogi ysgolion i ddatblygu cynlluniau dysgu trawsgwricwlaidd o safbwynt gwrth-hiliaeth, yn unol â’r cwricwlwm newydd i Gymru
- Hwyluso’r gwaith o gynllunio digwyddiadau cydweithredol i sicrhau bod gwrth-hiliaeth yn treiddio drwy’r cwricwlwm bugeiliol sy’n cael ei gynnig gan sefydliadau dysgu yng Nghymru