Dewin: Lansio albwm/album launch
Mae'r aml-offerynnwyr hudolus, dewin-bopaidd o Fryniau Preseli, Dewin, yn rhyddhau eu halbwm cyntaf, wedi'i ysbrydoli gan yr argyfwng hinsawdd, cariad ifanc, ac atgofion plentyndod o dyfu i fyny mewn caeau gwyrdd o dan goed derw.
Gan frolio'r senglau gwych Syched Cas a Gad Hi Fynd, a ryddhawyd yn 2025, mae Dan y Dderwen yn ehangu ar chwaeth gerddorol a geiriau eclectig Jencyn Corp a Lefi Dafydd o Dewin. Wedi'i ysgrifennu bron fel albwm cysyniadol, mae'n wahoddiad i fyd Dewin. O'i agoriad offerynnol rhyngalaethol, Praise the Dewin, yn dechrau gyda sŵn nodweddiadol yr hammond, sy'n arddangos pob aelod o’r band (mae o leiaf 8), mae'r albwm yn sgipio trwy straeon a syniadau, o glodfori gwydnwch y cactws a chân garu o safbwynt broga, i'r gân olaf Ubeyo, baled y gallai Peter Gabriel fod wedi'i hysgrifennu. Hyn oll ynghyd âg egwyl hysbysebu gan noddwr y band, Dewin Airways.
Yn cefnogi Dewin bydd Yr Hunanol. Mae’r Hunanol yn fand jangle pop o Gaerdydd, yn cyfuno perfformiadau egnïol a melodïau cofiadwy hyda straeon am fywyd bob dydd. Maent wedi rhyddhau dwy sengl trwy Fflach Cymunedol, Pwythau a Carousel, ac yn gweithio ar eu EP cyntaf ar hyn o bryd.
Preseli Hills based magical wizard-pop multi-instrumentalists Dewin are releasing their debut album, inspired by the climate crisis, teenage love, and childhood memories of growing up in green fields under oak trees.
Boasting the wonderful singles Syched Cas and Gad Hi Fynd, released in 2025, Dan y Dderwen expands on the eclectic musical and lyrical tastes of Dewin’s Jencyn Corp and Lefi Dafydd. Written almost as a concept album it is an invitation into the world of Dewin. From its opening Praise the Dewin, a hammond-led intergalactic instrumental, showcasing every single member (there are at least 8), the album skips through stories and ideas, from an ode to the cactus’ resilience and a love song from a frog’s perspective, to the closing Ubeyo, a ballad that Peter Gabriel could have written. All this via an ad break by the band’s sponsor, Dewin Airways.
Supporting Dewin will be Yr Hunanol. Yr Hunanol are a jangly four-piece from Cardiff. Their live set combines high energy and catchy melodies paired with honest stories about modern life.
Location
Y Seler / The Cellar, 25, 26 Quay St, Cardigan, SA43 1HU