Skip to main content
  • Cwmni Ifanc: Adolygu [Tymor 1]
1 of 3

Cwmni Ifanc: Adolygu [Tymor 1]

Wed 14 Oct 2026 7:00 PM - Mon 30 Nov 2026 9:00 PM Nyth, Frân Wen, Bangor, LL57 2RW

Cwmni Ifanc: Adolygu [Tymor 1]

Wed 14 Oct 2026 7:00 PM - Mon 30 Nov 2026 9:00 PM Nyth, Frân Wen, Bangor, LL57 2RW

Mae Cwmni Ifanc: Adolygu yn gyfle i bobl ifanc 16–25 oed ddatblygu’r sgiliau a’r hyder i ymateb i waith byw ac i gael eu barn wedi’i chyhoeddi. Achos mae dy farn di’n bwysig.

Cost y cynllun yw £30 y tymor.

Dros dri thymor, byddi di’n gweithio gyda adolygydd proffesiynol drwy sesiynau meistr fydd yn agor y drws ar sut i edrych ar waith yn feirniadol, ffurfio a mynegi barn a dod o hyd i dy lais dy hun fel adolygydd.

Ac yna - mynd i weld y gwaith.

BOB TYMOR:

  • 1 sesiwn meistr
  • 1 cynhyrchiad byw
  • 1 adolygiad
  • 1 cyhoeddiad

Erbyn diwedd y flwyddyn, byddi di wedi gweld tri cynhyrchiad, ysgrifennu tri adolygiad a chael dy waith wedi’i gyhoeddi.

Bydd cefnogaeth ar gael drwy’r broses o’r nodiadau cyntaf ar ôl gadael y theatr, i ddatblygu dy syniadau, mireinio dy ymateb a pharatoi’r darn terfynol i’w gyhoeddi all fod yn flog neu ddarn ysgrifenedig.

Location

Nyth, Frân Wen, Bangor, LL57 2RW