Mae’r sioe yn dilyn hynt a helynt y werin a’u brwydr dros fywyd gwell. Adroddir eu straeon i gyfeiliant hen faledi a chaneuon, a chawn glywed am frenhinoedd, ffermwyr yn croeswisgo, pregethwyr radical, gweithwyr tir ac undebau. Dyma fil o flynyddoedd o hanes wedi ei wasgu i mewn i 4 pennod ar-lein. Ynghyd â thynnu ar gelfyddydau gwerin Cymru, mae’r sioe’n cyffwrdd ar wleidyddiaeth, hawliau dynol, rhyddid meddwl a mynegiant, yr hawl i wrthdystio a hanes democratiaeth ym Mhrydain.
Mae Pennod 3 - Dŵr a Thân, yn adrodd hanes Cymru’r 20fed ganrif, gan gynnwys dwyn tiroedd gan y llywodraeth, y mudiad heddwch, pleidlais menywod a’r Tywysog Charles!
Am fwy o wybodaeth, gwelwch: gafaeltir.cymru