The Sound of Capital Being Grounded
The Sound of Capital Being Grounded
This time last year, with the first lockdown fully underway, we started to notice the effects of urban life, being interrupted. With flights grounded, traffic halted, and noise pollution stilled whilst we Stayed. At. Home, we began to see and hear things long banished from our urban landscapes. Wildlife sightings rocketed. Birdsong was vivid and audible. People talked about nature ‘returning’. And then...the proliferation of YouTube videos. From wild boar roaming Italian plazas, geese strolling the Las Vegas strip, to mountain goats chomping residential hedges in Llandudno.
Much was written about this moment in 2020 by countless commentators. Some interpreted the shifts as visions of recovery, renewal, resurgence. What we do know is, the resurgence did not last. Arundhati Roy talked about a ‘portal’ that - if only we could step into with courage - might take us elsewhere.
Central to our fascination with animals in cities is a long-standing perception of humans and nature - as separate categories. The dualism plays out spatially in the way we think of cities as places for humans, whilst designated green space, rural areas or national parks, as places for ‘nature’. Contemporary town planning reinforces urban space as fundamentally human-centric, determining where and how ‘nature’ can be ‘fitted in’, which species get to survive, thrive, belong or be banished.
‘The Sound of Capital Being Grounded’ references Joshua Virasami’s reflections on London Black Lives Matter activists’ shut down of City Airport in 2016, protesting environmental racism. Speaking at Gentle/Radical’s ‘Decolonising Environmentalism’ symposium in 2018, Virasami recalled: “A 90 year old resident of Newham whose quality of life is but a negative externality in the quest to fly more planes, messaged us and said she was deeply moved by the silence that morning. She couldn’t remember silence. I believe that quiet is the quiet of a new world being born, and the sound of capital being grounded.”
‘The Sound of Capital Being Grounded’ takes us back to a moment in 2020 - of animals, of cities, of silence, of portals, and of possibility that now feels lost in the obscenity of 130K deaths, the Sewell Report, 40 billion for Trident, 1% for the NHS...and more.
Join Gentle/Radical for a round up of animal videos circa spring 2020, film shorts that explore human and non-human relationships, and post-screening discussion with two extraordinary speakers.
“Who could not be thrilled by the swell of birdsong in cities, peacocks dancing at traffic crossings and the silence in the skies” Arundhati Roy, The Pandemic is a Portal.
OUR INVITED SPEAKERS
We’re delighted to be joined by two wonderful guests, Joshua Virasami and Spud Knowles, who will be helping us draw out the themes of this event.
Joshua Virasami is an artist, writer and political organiser whose work and activism intersects a number of political struggles and campaigning organisations. He is a key organiser with Black Lives Matter UK, and author of How to Change It, a Penguin publication on lessons for successful campaigning.
Spud Knowles is a researcher, artist, carer and Co-founder of One Fox Lane (Cardiff) a co-working and studio/arts space. Interested in just transitions, urbanism, food, plants, and relationships, their PhD research focused on sustainability and grassroots social practices in relation to urban based food growing.
PRACTICALITIES & ACCESS
This will be an online Zoom event.
Look out for Zoom details nearer the time.
This event will be live captioned
- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -
The Sound of Capital Being Grounded
Yr adeg hon y llynedd, gyda'r cyfnod clo cyntaf ar ei anterth, dechreuon ni sylwi bod effeithiau bywyd trefol, yn cael eu hymyrryd arnynt. Gydag awyrennau yn ddisymud, traffig ar stop, a llygredd sŵn wedi tewi tra ein bod ni’n Aros. Gartref, dechreuon ni weld a chlywed pethau oedd wedi’u halltudio ers amser maith o'n tirweddau trefol. Roedd pawb yn sylwi ar fywyd gwyllt. Roedd cân yr adar yn fywiog ac yn glywadwy. Roedd pobl yn sôn am natur yn ‘dychwelyd’. Ac yna...y doreth o fideos YouTube. O faedd gwyllt yn crwydro plazas yn yr Eidal, gwyddau yn rhodio strip Las Vegas, i eifr mynydd yn bwyta cloddiau cartrefi yn Llandudno.
Ysgrifennwyd llawer am y foment hon yn 2020 gan sylwebyddion di-rif. Dehonglodd rhai y newidiadau fel gweledigaethau o adfer, adnewyddu, atgyfodi. Yr hyn y gwyddom yw, ni pharhaodd yr atgyfodiad. Soniodd Arundhati Roy am ‘borth’ a fyddai - petaem ond yn gallu camu i mewn iddo’n ddewr – o bosib yn ein tywys i rywle arall.
Yn ganolog i'n diddordeb ni gydag anifeiliaid mewn dinasoedd mae canfyddiad hirsefydlog o fodau dynol a natur - fel categorïau ar wahân. Mae’r ddeuoliaeth yn cael ei hamlygu’n ofodol yn y ffordd rydyn ni’n meddwl am ddinasoedd fel lleoedd i fodau dynol, tra bod mannau gwyrdd dynodedig, ardaloedd gwledig neu barciau cenedlaethol, yn lleoedd ar gyfer ‘natur’. Mae cynllunio trefol cyfoes yn atgyfnerthu gofod trefol fel rhywbeth sy’n ddynol-ganolog yn y bôn, gan bennu ble a sut y gellir ‘ffitio’ natur i mewn, pa rywogaethau sy’n cael goroesi, ffynnu, perthyn neu sy’n cael eu halltudio.
Mae ‘The Sound of Capital Being Grounded’ yn cyfeirio at fyfyrdodau Joshua Virasami ar gau Maes Awyr City gan weithredwyr Mae Bywydau Du o Bwys Llundain yn 2016, a oedd yn protestio am hiliaeth amgylcheddol. Wrth siarad yn symposiwm ‘Ail-ddehongli Amgylcheddaeth’ Gentle/Radical yn 2018, cofiodd Virasami: “Cawsom neges gan breswylydd 90 oed o Newham, y mae ansawdd ei bywyd hi ond yn ddeilliant negyddol yn y cwest i hedfan mwy o awyrennau, yn dweud bod y distawrwydd y bore hwnnw wedi cael effaith ddofn arni. Ni allai gofio distawrwydd. Rwy’n credu mai’r tawelwch hwnnw yw tawelwch byd newydd yn cael ei eni, a sŵn cyfalaf yn cael ei ddaearu.”
Mae 'The Sound of Capital Being Grounded' yn mynd â ni yn ôl i eiliad yn 2020 - o anifeiliaid, o ddinasoedd, o ddistawrwydd, o byrth, ac o bosibilrwydd sydd bellach yn teimlo ar goll yn anlladrwydd 130 mil o farwolaethau, Adroddiad Sewell, 40 biliwn ar gyfer Trident, 1% ar gyfer y GIG ... a mwy.
Ymunwch â Gentle/Radical am grynodeb o fideos anifeiliaid o wanwyn 2020, ffilmiau byrion sy'n archwilio perthnasoedd dynol ac an-ddynol, a thrafodaeth ôl-sgrinio gyda dau siaradwr hynod.
“Who could not be thrilled by the swell of birdsong in cities, peacocks dancing at traffic crossings and the silence in the skies” Arundhati Roy, The Pandemic is a Portal.
EIN SIARADWYR GWADD
Rydym yn hynod falch bod dau westai rhyfeddol yn ymuno â ni, Joshua Virasami a Spud Knowles, a fydd yn ein helpu ni i dynnu sylw at themâu'r digwyddiad hwn.
Mae Joshua Virasami yn artist, ysgrifennwr a threfnydd gwleidyddol y mae ei waith a'i weithredu yn croestorri nifer o frwydrau gwleidyddol a sefydliadau ymgyrchu. Mae'n drefnydd allweddol gyda Mae Bywydau Du o Bwys y DU, ac yn awdur How to Change It, cyhoeddiad gan Penguin ar wersi ar gyfer ymgyrchu’n llwyddiannus.
Mae Spud Knowles yn ymchwilydd, artist, gofalwr a Chyd-sylfaenydd One Fox Lane (Caerdydd) sy'n ofod ar gyfer rhannu mannau gwaith /stiwdio'r celfyddydau. Yn ymddiddori mewn trawsnewidiadau cyfiawn, trefolaeth, bwyd, planhigion a pherthnasoedd, canolbwyntiodd ymchwil PhD Spud ar gynaliadwyedd ac arferion cymdeithasol ar lawr gwlad mewn perthynas â thyfu bwyd trefol.
MANYLION YMARFEROL A MYNEDIAD
Digwyddiad Zoom ar-lein fydd hwn.
Cadwch lygad allan am fanylion Zoom yn agosach at yr amser.
Bydd sgrindeitlo byw yn y digwyddiad.
Am unrhyw wybodaeth bellach, cysylltwch â divya@gentleradical.org