Gentle Ways into Creative Writing, with Durre Shahwar / Ffyrdd Hwylus tuag at Ysgrifennu Creadigol, gyda Durre Shahwar
Gentle Ways into Creative Writing, with Durre Shahwar / Ffyrdd Hwylus tuag at Ysgrifennu Creadigol, gyda Durre Shahwar
Share this event
Need help?
"Writing has often been a means of bearing witness, allowing us to capture and record events or moments of personal significance"
gentle/radical are delighted to host a creative writing workshop for Riverside residents, led by writer, editor and co-founder of the ‘Where I’m Coming From’ spoken word collective - Durre Shahwar.
A relaxed and gentle workshop, Durre will be drawing on alternative approaches to creative writing (such as note taking, diary journaling and other techniques) with the aim of supporting participants to feel freer and more creative with words; to explore writing without the pressure of having to end up with a finished poem or piece of prose.
The workshop is open to everyone, regardless of experience, and we encourage those who haven’t tried writing before - to come along and give it a go. Through different exercises, Durre will help us explore themes of belonging, identity, memory, the natural world, and the workshop will also include some gentle reading together to inspire us/get us started (but no pressure to read - you can just sit back and listen!).
The workshop will be led in English, but you are welcome to write in a language of your choice.
While open to ALL (over 18) regardless of writing experience, places are limited, and booking in advance is advised!
Tickets / A note on cost
This is a pay-what-you-can event. When you go to book your ticket, you can choose how much to pay, based on what you can afford.
Whilst sustaining gentle/radical activities is a challenge, we believe in making our events as accessible and affordable as possible, especially in these punishing financial times. So we are inviting people to think about what you can pay based on your individual means. That might mean making more of a contribution, less of a contribution, or attending for free if you need to. This is the best way to support and sustain our activities. Many thanks in advance for your cooperation, and consideration.
* * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * *
"Yn aml, mae ysgrifennu wedi bod yn fodd o ddwyn tystiolaeth, gan ein galluogi i gipio a chofnodi digwyddiadau neu eiliadau o arwyddocâd personol."
Mae’n bleser gan gentle/radical gynnal gweithdy ysgrifennu creadigol ar gyfer trigolion Glan-yr-Afon, dan arweiniad Durre Shahwar yr awdur, golygydd a sylfaenydd y grŵp geiriau llafar ‘Where I’m Coming From’.
Bydd Durre, mewn gweithdy hamddenol a hwylus, yn tynnu ar ddulliau amgen o ysgrifennu creadigol (fel cymryd nodiadau, dyddiadur, a thechnegau eraill) gyda’r nod o gefnogi pawb sy’n cymryd rhan i deimlo'n greadigol gyda geiriau; i archwilio ysgrifennu heb y pwysau o orfod gorffen y sesiwn gyda cherdd neu ddarn o ryddiaith gorffenedig.
Mae’r gweithdy yn agored i bawb, beth bynnag yw eu profiad, ac rydym yn annog y rheiny nad ydynt wedi mynd ati i ysgrifennu o’r blaen – i ddod draw i roi cynnig arni. Trwy ymarferion gwahanol, bydd Durre yn ein helpu i archwilio themâu perthyn, hunaniaeth, cof, y byd naturiol, a bydd y gweithdy hefyd yn cynnwys rhywfaint o ddarllen ysgafn gyda’n gilydd i’n hysbrydoli/ rhoi man cychwyn i ni (ond ni fydd pwysau i ddarllen - gallwch eistedd yn ôl a gwrando!).
Bydd y gweithdy yn cael ei arwain yn Saesneg, ond mae croeso i chi ysgrifennu mewn iaith o'ch dewis chi.
Er ei fod yn agored i BAWB (dros 18) beth bynnag yw eu profiad ysgrifennu, mae lleoedd yn gyfyngedig - felly ewch ati i gadw lle!
Tocynnau / nodyn ar daliad
Mae hwn yn ddigwyddiad talu-beth-allwch-chi. Pan fyddwch chi'n mynd ati i archebu'ch tocyn, gallwch chi ddewis faint i'w dalu, yn seiliedig ar yr hyn y gallwch chi ei fforddio. Er bod cynnal gweithgareddau gentle/radical yn her, rydym yn credu mewn gwneud ein digwyddiadau mor hygyrch a fforddiadwy â phosibl, yn enwedig yn y cyfnod ariannol anodd hwn. Felly rydym yn gwahodd pobl i feddwl am beth allwch chi ei dalu yn seiliedig ar eich sefyllfa unigol. Gallai hynny olygu gwneud mwy o gyfraniad, llai o gyfraniad, neu fynychu am ddim os oes angen. Dyma'r ffordd orau o gefnogi a chynnal ein gweithgareddau. Llawer o ddiolch ymlaen llaw am eich cydweithrediad, a’ch ystyriaeth.
Location
Bangladesh Centre, Machen Place, CF11 6ER