Dosbarth Meistr Fideos Ffurf Fer (Sesiwn Gymraeg)
Tue 9 Apr 2024 1:45 PM - 5:00 PM
Canolfan S4C Yr Egin, SA31 3EQ
Description
Ydych chi'n aml yn crafu pen yn poeni cymaint am beth i'w bostio ar eich cyfrifon cymdeithasol, fel nad ydych chi'n postio dim o gwbl yn y diwedd?
Ymunwch â'n dosbarth meistr fideo ffurf-fer i ddysgu sut i gynhyrchu, ffilmio a golygu fideos safonol ar gyfer eich cyfrifon cymdeithasol, gan wneud hynny i gyd ar eich ffôn.
Dosbarth meistr hanner diwrnod yw hwn, a gyflwynir yn Saesneg yn y bore, a’r un dosbarth yn cael ei gyflwyno yn Gymraeg yn y prynhawn.
Yn addas ar gyfer: Pobl sydd eisoes yn gweithio mewn rôl marchnata, marchnata digidol neu gyfryngau cymdeithasol, perchnogion busnesau bach a gweithwyr llawrydd sydd â rhywfaint o wybodaeth am gynnwys a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.
Nid oes angen profiad fideo blaenorol.
Rydym yn eich annog i ddod â’ch ffôn i arbrofi yn ystod y sesiwn.
Agenda
Rhan 1:
Deall beth sy'n gwneud cynnwys fideo safonol ac effeithiol ar y cyfryngau cymdeithasol
Deall y platfformau - TikTok, Reels, Shorts
Ystyriaethau hawlfraint
Ailgylchu, ailddefnyddio ac ailbwrpasu cynnwys
Creu cynnwys effeithiol gyda chyllideb isel
Rhan 2:
- Sylfeini Cynhyrchu Fideo: Cynllunio
Cynhyrchu syniadau - beth i'w bostio?
Storifyrddio, sgriptio a 'shot lists'
Cynllunio ar gyfer ffilmio ar leoliad, trwyddedau ac ystyriaethau eraill
- Sylfeini Cynhyrchu Fideo: Saethu
Sut i fachu sylw yn y 3 eiliad gyntaf
Tactegau saethu - mathau o 'shots' a phryd i ddefnyddio beth, onglau a fframio
Beth yw B-roll a sut i'w ddefnyddio
Goleuo
Sain
Demo a chyfle i drio offer
Opsiwn dewisol i ymarfer y tactegau
Sylfeini Cynhyrchu Fideo: Golygu
Sut i olygu? Y broses o'r dechrau i'r diwedd
Apiau golygu safonol rhad a rhai am ddim
Sut i osod isdeitlau ac elfennau gweledol eraill
Arweinwyr y cwrs
Alun Jones
Gyda 9 mlynedd o brofiad yn y maes, bu Alun yn Reolwr Cyfryngau Cymdeithasol yn S4C am 4 mlynedd a hanner, yn gyfrifol am gynnwys cyfryngau cymdeithasol ar gyfer cyfresi teledu, o gynllunio, yr holl ffordd drwodd i ddadansoddi, a phopeth yn y canol, gan adeiladu’r tîm o 2 i 7 aelod yn ystod y cyfnod ac yn profi twf aruthrol ar draws cyfrifon a phlatfformau amrywiol.
Elan Iâl
Yn ystod ei gyrfa, mae Elan wedi gweithio ar ymgyrchoedd marchnata mawr yn ei rolau gydag Urdd Gobaith Cymru ac S4C, gan arbenigo mewn creu cynnwys cyfryngau cymdeithasol a hysbysebion taladwy. Ers 2022 mae Elan yn creu cynnwys ar TikTok gan gyrraedd cannoedd o filoedd o ddefnyddwyr, ac yn cyflawni gwaith trwy bartneriaethau a chreu cynnwys fideo i gwmnïau ar y platfform.
Ym mis Mawrth 2023 sefydlodd Alun ac Elan eu cwmni, Libera, sy'n cynnig gwasanaethau creu cynnwys, rheoli hysbysebion, ymgynghori a hyfforddiant ar wahanol elfennau o farchnata ar y cyfryngau cymdeithasol. Yn y 12 mis ers sefydlu, mae Libera wedi cynnal gweithdai a sesiynau hyfforddi cyfryngau cymdeithasol i dros 100 o bobl.
Location
Canolfan S4C Yr Egin, SA31 3EQ