Cynulliad Gaeaf Cymru Gyfan! | All Wales Winter Gathering!
Sat 8 Feb 2025 12:00 - Sun 9 Feb 2025 GMT
Henbant Permaculture, LL54 5DF
Description
Efallai bod tymor Nadolig drosodd, ond mae mwy o ddathlu i ddod y gaeaf hwn, ymunwch â ni ar gyfer Cyfarfod Gaeaf 2025 Cynghrair Gweithwyr Tir Cymru!
The festive season may be over, but there's more celebrating to come this winter, join us for the Landworker’s Alliance Cymru Winter Gathering 2025!
Fel arfer y gaeaf yw’r amser ar gyfer cynulliadau rhanbarthol, ond fel tîm trefnu Cymru rydym wedi penderfynu cynnal cynulliad gaeaf a chynulliad cangen unigol yng ngogledd Cymru yn lle digwyddiadau lluosog a fyddai’n ymestyn ein cyllideb a’n gallu fel aelod-drefnwyr. Hefyd, mae hwn yn adeg o’r flwyddyn pan ddylai’r rhan fwyaf ohonom ni, gweithwyr tir ei chael hi’n haws dianc o’n gwaith, ac felly roeddem yn teimlo ei bod yn gwneud mwy o synnwyr i gael digwyddiad Cymru gyfan y gaeaf hwn, ac yna cynnal digwyddiadau rhanbarthol llai yn yr haf nad oes rhaid i pobol teithio mor bell am!
Usually winter is the time for regional assemblies, but as the Cymru organising team we’ve decided to host a singular winter gathering & branch assembly in north Wales instead of multiple events that would stretch our budget and capacity as member organisers. This is also a time of year when most of us landworkers should find it easier to get away from our work, and so we felt it makes more sense to have a Wales wide event this winter, and then smaller regional events in the summer that people don’t have to travel as far for!
Rhwng 8fed-9fed Chwefror byddwn yn dod at ein gilydd ar Fferm Henbant Bach yng ngogledd Cymru i wneud ffrindiau, dysgu, bwyta, dawnsio a bod yn llawen! Byddwn yn cael taith fferm o amgylch Henbant, rhai gweithdai, cymhorthfa bolisi gan ein cydlynydd polisi newydd Cymru, rhannu prydau a twmpath hyfryd nos Sadwrn.
From 8th-9th February we’ll be coming together at Henbant Bach Farm in north Wales to make friends, learn, eat, dance and be merry! We’ll have a farm tour of Henbant, some workshops, a policy surgery from our new Cymru policy coordinator, shared meals and a lovely twmpath (barn dance) on Saturday evening.
Rhaglen:
dydd Sadwrn
12.00 - Dewch a rhannwch ginio
13.45 - Seremoni agoriadol
14:00 - Gweithdy strategaeth GyT (LWA)
15:30 - Egwyl + sawna yn agor
16:00 - Cymhorthfa polisi Cymraeg + lle ar gyfer ail weithdy
18:30 - Cinio
20:00 - Twmpath
Sul
08:30 - Brecwast
10:00 - Taith fferm Henbant
11:30 - Egwyl
12:00 - Mannau agored (e.e. ar gyfer grwpiau rhanbarthol)
13:00 - Seremoni gloi
13:15 - Cinio
Program:
Saturday
12.00 - Bring & share lunch
13.45 - Opening ceremony
14:00 - LWA strategy workshop
15:30 - Break + sauna opens
16:00 - Welsh policy surgery + space for second workshop
18:30 - Dinner
20:00 - Twmpath
Sunday
08:30 - Breakfast
10:00 - Henbant farm tour
11:30 - Break
12:00 - Open space (e.g. for regional groups)
13:00 - Closing ceremony
13:15 - Lunch
Gan nad oes gennym unrhyw syniad faint o fynychwyr fydd yn dod, ac er mwyn cadw pris y tocynnau mor isel â phosibl, rydym wedi penderfynu peidio ag archebu llety grŵp ar gyfer y cynulliad hwn. Yn lle hynny rydym wedi coladu amrywiaeth o opsiynau ar y ddolen isod, gyda gwahanol bwyntiau pris, amwynderau a lleoliadau. Defnyddiwch sgyrsiau WhatApp LWA Cymru os ydych chi'n chwilio am rywun i rannu llety hefo!
As we have no idea of how many attendees will come, and to keep the ticket prices as low as possible, we have decided not to book group accommodation for this gathering. Instead we have collated a range of options on the link below, with different price points, amenities and locations. Please utilise the LWA Cymru WhatApp chats if you’re looking for someone to share accommodation with!
Mae pris tocyn yn cynnwys:
Pob gweithdy
Lluniaeth (te, coffi ac ati) drwyddo
Cinio nos Sadwrn
Twmpath/ parti
Brecwast dydd Sul a chinio
Yn ogystal â'n defnydd unigryw o gyfleusterau Henbant gan gynnwys ysgubor, cegin a sawna!
Ticket price includes:
All workshops
Refreshments (teas, coffee etc.) throughout
Saturday evening meal
Twmpath/ party
Sunday breakfast and lunch
Plus our exclusive use of the facilities at Henbant including barn, kitchen and sauna!
Rydym yn gweithredu system docynnau haenog, gan ein bod am sicrhau bod y digwyddiad hwn mor hygyrch â phosibl, prynwch yr haen uchaf y gallwch ei fforddio. Ni fydd neb yn cael eu troi i ffwrdd oherwydd diffyg arian, os nad oes unrhyw un o'r haenau yn hygyrch i chi cysylltwch â ni ar cymru@landworkers Alliance.org.uk.
Os nad ydych yn aelod o Gynghrair y Gweithwyr Tir ar adeg archebu, prynwch docyn Haen 3 (neu dewch yn aelod yn gyntaf!)
Rydym hefyd yn cynnig tocynnau ar gyfer Twmpath a pharti gyda'r nos yn unig, nid yw hyn yn cynnwys bwyd na diod.
We’re operating a tiered ticketing system, as we want to make sure this event is as accessible as possible, please purchase the highest tier you can afford. Nobody will be turned away due to lack of funds, if none of the tiers are accessible to you please get in touch with us on cymru@landworkers alliance.org.uk.
If you are not a member of the Landworkers Alliance at the time of booking, please purchase a Tier 3 ticket (or become a member first!)
We are also offering tickets for just the evening Twmpath & party, this does not include food or drinks.
Mynnwch eich tocynnau cyn gynted â phosibl fel y gallwn ddechrau cyfrifo'r arlwyo!
Please get your tickets as soon as possible so we can start figuring out catering!
A rhannwch gyda'ch holl ffrindiau tir, teulu, cydweithwyr a sgyrsiau grŵp!!
And share with all your landworker friends, family, colleagues & group chats!!
Location
Henbant Permaculture, LL54 5DF