Ffenast Siop - Cynhyrchiad Theatr Bara Caws
Thu 9 May 2024 7:00 PM - 10:30 PM
Neuadd y Pentref, LL52 0SH
Description
Drysau ar agor am 7 o'r gloch, perfformiad i gychwyn am 7.30.
-
Theatr Bara Caws yn cyflwyno: Ffenast Siop gan Iola Ynyr a Carys Gwilym
“Ma menopos ‘di rhoi sbectol o wirionedd yn sownd ar y nhrwyn i, jysd weithia ma hi'n stemio.”
Sioe un ddynes am Delyth yn ffeindio ei ffordd mewn bywyd yn sgil y menopos.
Chwerthin, harthio, edliw a cholli deigryn - mi gewch chi’r cyfan.
Ymunwch â ni ar y daith arbennig hon, ac mae croeso i bawb, achos nid mater i ferched yn unig ydi'r menopos.
Bydd cyfle euraidd i’r rheini ohonoch sydd yn dymuno gwneud hynny, leisio eich profiadau peri-menoposal, menoposal ac o fod yn ferch mewn sgwrs hwyliog gyda Iola Ynyr a Carys Gwilym wedi ambell berfformiad. Bydd hon yn sgwrs gynhwysol anffurfiol lle cewchgyfle i ymlacio a theimlo'n rhydd i ddweud eich dweud mewn gofod diogel.
Meddai Iola: “Da ni'n dwy wedi dysgu bod chwerthin yn ffordd o lacio'r poen a'r ofn. Dyma gewch chi yn y sioe ac yn y sgwrs gobeithio!”
Canllaw oed 14+.
𝐂𝐚𝐬𝐭 – Carys Gwilym
𝐂𝐲𝐟𝐚𝐫𝐰𝐲𝐝𝐝𝐨 – Iola Ynyr
𝐂𝐞𝐫𝐝𝐝𝐨𝐫 – Osian Gwynedd
Cynhyrchiad Theatr Bara Caws: http://www.theatrbaracaws.com
Location
Neuadd y Pentref, LL52 0SH