Skip to main content
  • Family Nature Day at Trigonos: Kids go free! / Diwrnod Natur i Deuluoedd yn Nhrigonos: Plant am ddim!
1 of 3

Family Nature Day at Trigonos: Kids go free! / Diwrnod Natur i Deuluoedd yn Nhrigonos: Plant am ddim!

Sun 12 Jul 2026 10:00 - 16:00 Trigonos, Plas Baladeulyn, Nantlle, Caernarfon, LL54 6BW

Family Nature Day at Trigonos: Kids go free! / Diwrnod Natur i Deuluoedd yn Nhrigonos: Plant am ddim!

Sun 12 Jul 2026 10:00 - 16:00 Trigonos, Plas Baladeulyn, Nantlle, Caernarfon, LL54 6BW

Sgroliwch am y Gymraeg 👇

Join us for a relaxed and adventurous family day based at beautiful Trigonos, combining nature, outdoor activities and time together in the heart of Eryri (Snowdonia).

The day will begin with a gentle guided nature walk exploring the fascinating landscape around Dorothea Quarry, followed by a picnic lunch beside the lake. In the afternoon, families will have the opportunity to try paddleboarding on the lake.

Meeting Point

📍 Trigonos meeting room: Ceridwen at 10am (reception staff will guide you)
https://maps.app.goo.gl/kzHeUeEWoqJbkTnL6

Activities Included

  • Guided 4km nature walk around Dorothea Quarry
  • Picnic lunch on the lawn at Trigonos (please bring your own picnic)
  • Paddleboarding session on the lake

About the Day

This is a friendly and inclusive family event designed to encourage outdoor exploration, connection and confidence in nature. The walk is suitable for most families and will be taken at a relaxed pace with plenty of opportunities to stop and enjoy the surroundings.

What to Bring

Please come prepared for the weather and water activities:

  • Comfortable walking shoes
  • Waterproofs and warm layers
  • Packed lunch, snacks and water
  • Wetsuit or change of clothes and towel for paddleboarding
  • Sun cream and hats if warm weather is expected

All paddleboarding equipment and safety kit will be provided.

Your guide

Chris is an experienced outdoor leader whose passion for adventure began with climbing in the Peak District and has taken him across Wales, Scotland, the Alps, and East Africa. A Gold Eryri Ambassador and highly qualified instructor, Chris combines professional expertise with a genuine enthusiasm for helping people discover the national park with confidence.

Spaces are limited, so booking is essential. Any questions? Please email rachael@penybrynoutdoor.cymru

Cancellation policy

Because this event is publicly funded and places are limited, a strict cancellation policy applies. This ensures that public money is spent responsibly and that the people delivering it earn a fair wage.

  • If you cancel more than 14 days before the event start time: You will receive a full refund less an admin fee of £5.
  • If you cancel up to 14 days before event start time: You will not receive a refund unless there is a serious problem, i.e., serious illness, major injury, bereavement, transit strikes, jury duty, or military duty. You'll need to provide appropriate documentation in order to receive the refund. You will receive a full refund less an admin fee of £5.
  • If we have to cancel the event due to circumstances outside of our control, you will be offered an alternative date or a Credit Voucher that's good for 12 months.

We strongly recommend taking out Personal Accident, Personal Injury and Cancellation insurance so that you're protected in case you can't make it due to unforeseen circumstances. Cancellations can only be made by email.

Diwrnod Natur i Deuluoedd yn Nhrigonos: Plant am ddim!

Ymunwch â ni am ddiwrnod teuluol hamddenol ac anturus wedi’i leoli yn Nhrigonos, gan gyfuno natur, gweithgareddau awyr agored ac amser gyda’ch gilydd yng nghanol Eryri.

Bydd y diwrnod yn dechrau gyda thaith natur dywysedig ysgafn yn archwilio’r dirwedd hynod ddiddorol o amgylch Chwarel Dorothea, ac yna picnic wrth ochr y llyn. Yn y prynhawn, bydd teuluoedd yn cael cyfle i roi cynnig ar badl-fyrddio ar y llyn.

Man Cyfarfod

📍 Ystafell gyfarfod Trigonos: Ceridwen am 10yb (bydd staff y dderbynfa yn eich cyfeirio)

https://maps.app.goo.gl/kzHeUeEWoqJbkTnL6

Gweithgareddau a Gynhwysir

  • Taith natur dywysedig 4km o amgylch Chwarel Dorothea
  • Picnic ar lawnt Trigonos (dewch â’ch picnic eich hun os gwelwch yn dda)
  • Sesiwn padl-fyrddio ar y llyn

Ynglŷn â’r diwrnod

Mae hwn yn ddigwyddiad teuluol cyfeillgar a chynhwysol wedi’i gynllunio i annog archwilio’r awyr agored, cysylltiad â natur a hyder yn yr amgylchedd naturiol. Mae’r daith gerdded yn addas ar gyfer y rhan fwyaf o deuluoedd a bydd yn cael ei chynnal ar gyflymder hamddenol gyda digon o gyfleoedd i stopio a mwynhau’r amgylchoedd.

Beth i’w ddod gyda chi

Dewch yn barod ar gyfer y tywydd a gweithgareddau dŵr:

  • Esgidiau cerdded cyfforddus
  • Dillad diddos a haenau cynnes
  • Pecyn bwyd, byrbrydau a dŵr
  • ‘Wetsuit’ neu ddillad sbâr a thywel ar gyfer padl-fyrddio
  • Eli haul a hetiau os disgwylir tywydd cynnes

Bydd yr holl offer padl-fyrddio a chyfarpar diogelwch yn cael eu darparu.

Eich Arweinydd

Mae Chris yn arweinydd awyr agored profiadol a ddechreuodd ei angerdd am antur wrth ddringo yn y ‘Peak District’, cyn mynd â’r angerdd yma ledled Cymru, yr Alban, yr Alpau a Dwyrain Affrica. Maent yn Llysgennad Aur Eryri ac yn hyfforddwr cymwys iawn. Mae Chris yn cyfuno ei harbenigedd proffesiynol â brwdfrydedd gwirioneddol i helpu pobl i ddarganfod y Parc Cenedlaethol, gan gyrraedd uchelfannau newydd efo hyder.

Mae niferoedd yn gyfyngedig, felly mae archebu eich lle yn hanfodol.

Unrhyw gwestiynau? E-bostiwch rachael@penybrynoutdoor.cymru

Polisi canslo

Gan fod y digwyddiad hwn wedi'i ariannu'n gyhoeddus a bod lleoedd yn gyfyngedig, mae polisi canslo caeth yn berthnasol. Mae hyn yn sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n gyfrifol a bod y bobl sy'n ei gyflwyno yn ennill cyflog teg.

  • Os byddwch yn canslo mwy na 14 diwrnod cyn amser dechrau'r digwyddiad: Byddwch yn derbyn ad-daliad llawn heb gynnwys tâl weinyddol o £5.
  • Os byddwch yn canslo hyd at 14 diwrnod cyn amser dechrau'r digwyddiad: Ni fyddwch yn derbyn ad-daliad oni bai bod problem ddifrifol, h.y., salwch difrifol, anaf mawr, profedigaeth, streiciau trafnidiaeth, dyletswydd rheithgor, neu ddyletswydd filwrol. Bydd angen i chi ddarparu dogfennaeth briodol er mwyn derbyn yr ad-daliad. Byddwch yn derbyn ad-daliad llawn heb gynnwys tâl weinyddol o £5.
  • Os bydd rhaid i ni ganslo'r digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth, cynigir dyddiad arall neu Daleb Credyd i chi sy'n ddilys am 12 mis.

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cymryd Yswiriant Damweiniau

Personol, Yswiriant Anaf Personol ac Yswiriant Canslo fel eich bod wedi'ch amddiffyn rhag ofn na allwch ddod oherwydd amgylchiadau annisgwyl. Dim ond drwy e-bost y gellir canslo.

Sponsors / Noddwyr

Our lovely Wales Nature Week events are funded by Welsh Government, through WCVA, Partneriaeth Natur Leol Eryri Local Nature Partnership, Parc Cenedlaethol Eryri National Park and Y Bartneriaeth Awyr Agored/The Outdoor Partnership.

Mae ein digwyddiadau hyfryd Wythnos Natur Cymru wedi'i gyllido gan Llywodraeth Cymru, trwy WCVA, Partneriaeth Natur Eryri, Parc Cenedlaethol Eryri National Park, a'r Bartneriaeth Awyr Agored /The Outdoor Partnership.

event_description_image_243428_1778774105_42c15.png?_a=BAAE6HDQ

Location

Trigonos, Plas Baladeulyn, Nantlle, Caernarfon, LL54 6BW