Public Affairs Cymru Annual Dinner 2025 | Nghinio Blynyddol Public Affairs Cymru 2025
Public Affairs Cymru Annual Dinner 2025 | Nghinio Blynyddol Public Affairs Cymru 2025
Share this event
Need help?
*Bilingual Post*
We are delighted to announce Lord Simon Hart of Tenby, former UK Government Chief Whip and former Secretary of State for Wales, as our guest speaker at this year’s Public Affairs Cymru Annual Dinner on Wednesday 1 October.
Author of the newly released Ungovernable: The Political Diaries of a Chief Whip, Lord Hart brings both unparalleled personal and revealing accounts into the inner workings of Westminster during one of the most turbulent periods in recent political history, as well as decades of experience at the highest levels of government.
Drawing on his time in Cabinet, Ungovernable explores key themes such as the erosion of traditional party control, the rise of individualism in Parliament and the growing influence of social media and 24-hour news cycles. It also poses a broader, urgent question: Can any modern Prime Minister truly govern in today’s political landscape?
We are looking forward to Lord Hart sharing his insight as someone who has witnessed it all from the inside, including the UK Government and Welsh Government relationships during the height of the pandemic, how the Prime Minister really conducts a reshuffle and his real feelings about attending party conferences!
Lord Hart's perspective is particularly valuable for professionals working in Wales’ public affairs and policy space; offering understanding of how decisions are shaped and what that means for influencing outcomes in a devolved context.
Join us for a thought-provoking evening of political insight, excellent food and outstanding company, as we come together as a community of professionals with an eye firmly on the road to the 2026 Senedd Elections.
Please note:
We recognise that some people would like wine with their meal whilst others do not, so this year, we’re introducing tickets with wine and without. If you opt for a ticket with wine, you will receive a token which will transferable for two glasses of wine on the night. A drink on arrival is already included in the ticket.
-----
Rydym yn falch iawn i gyhoeddi mai Arglwydd Simon Hart o Ddinbych-y-pysgod, cyn Brif Chwip Llywodraeth y DU a chyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, fydd ein siaradwr gwadd yng Nghinio Blynyddol Public Affairs Cymru eleni ddydd Mercher 1 Hydref.
Yn awdur llyfr newydd ei gyhoeddi Ungovernable: The Political Diaries of a Chief Whip - daw Simon â hanesion personol a hefyd ddadlennol o berfeddion San Steffan yn ystod un o’r cyfnodau mwyaf cythryblus mewn hanes gwleidyddol diweddar, yn ogystal â degawdau o brofiad ar lefelau uchaf llywodraeth.
Yn seiliedig ar ei gyfnod yn y Cabinet, mae Ungovernable yn ymchwilio themâu allweddol tebyg i’r erydu yng ngafael y pleidiau traddodiadol, cynnydd unigolyddiaeth yn y Senedd a dylanwad cynyddol y cyfryngau cymdeithasol a chylchoedd newyddion 24-awr. Mae hefyd yn codi cwestiwn brys, ehangach: a all unrhyw Brif Weinidog modern yn wirioneddol lywodraethu yn nhirlun gwleidyddol heddiw?
Edrychwn ymlaen at i Yr Arglwydd Hart godi cwr y llen fel rhywun a welodd y cyfan o’r tu mewn, yn cynnwys y berthynas rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru pan oedd y pandemig ar ei anterth, sut mae Prif Weinidog yn mynd ati o ddifri i newid y Cabinet a’i deimladau go iawn am fynychu cynadleddau pleidiau!
Mae safbwynt Yr Arglwydd Hart yn neilltuol o werthfawr ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn y maes materion cyhoeddus a pholisi yng Nghymru, gan gynnig dealltwriaeth o sut y caiff penderfyniadau eu llunio ac ystyr hynny ar gyfer dylanwadu ar ddeilliannau mewn cyd-destun datganoledig.
Ymunwch â ni am noswaith ddiddorol iawn o wybodaeth wleidyddol, bwyd bendigedig a chwmni campus, wrth i ni ddod ynghyd fel cymuned o weithwyr proffesiynol gyda llygad yn bendant ar y ffordd at Etholiadau Senedd 2026.
Location
voco St. David's Cardiff by IHG, CF10 5SD