Skip to main content
  • Gŵyl Sain 2025
1 of 3

Gŵyl Sain 2025

Sat 27 Sep 2025 2:00 PM - 11:00 PM Canolfan Sain, Llandwrog, LL54 5TG

Gŵyl Sain 2025

Sat 27 Sep 2025 2:00 PM - 11:00 PM Canolfan Sain, Llandwrog, LL54 5TG

🎶 Gŵyl Sain 2025
🗓 Dydd Sadwrn 27ain Medi / Saturday, 27th September
📍 Canolfan Sain + Tŷ’n Llan, Llandwrog
🎟 Tocynnau / Tickets: £15 (diwrnod llawn / full day) / £5 (gig nos / evening gig only)

Mae Gŵyl Sain yn cael ei chynnal am y tro cyntaf eleni wrth i ni nodi 50 mlynedd ers agor stiwdio recordio gyntaf Sain yn Gwernafalau. Bydd yr ŵyl, sy'n cael ei chynnal mewn partneriaeth â Menter Ty'n Llan gyda chefnogaeth Cymru Greadigol, yn dathlu casgliadau archif Sain ac artistiaid Stafell Sbâr Sain. Ymunwch hefo ni am ddiwrnod llawn cerddoriaeth byw, sgyrsiau a hwyl wrth i ni ddathlu taith Sain ac edrych ymlaen at y bennod nesaf.

Gŵyl Sain: Sesiwn Stiwdio  @ Canolfan Sain, Llandwrog | 14:00 – 17:00

Profiad unigryw tu ôl i len Stiwdio Sain:

🎙 Teithiau Stiwdio - Taith trwy goridorau hanes cerddoriaeth Cymru dan arweiniad Dafydd Iwan a staff Sain. Cyfle i ddarganfod y straeon tu ôl i label recordio annibynnol hynaf Cymru, a gweld sut mae’r stiwdio’n gweithio heddiw.

🗣 Sgwrs Tyrchu Sain - Dafydd IwanDon Leisure a Rhys Spikes sy’n trafod Tyrchu Sain, albwm a grëwyd o drysorfa archif y label gyda samplau gan artistiaid megis Brân, Endaf Emlyn, Edward H Dafis a Sidan.

🎸 Set Acwstig - Perfformiad stiwdio gan Gethin Griffiths ac Elis Derby (Ciwb).

Gŵyl Sain: Gig Ty’n Llan | 18:00 ymlaen

Mae'r dathliadau’n parhau gyda noson o gerddoriaeth fyw yn nhafarn gymunedol Ty’n Llan:

  • 🎶 Perfformiadau gan Lo-Fi Jones, Malan ac Elin a Carys
  • 🗣 Gwaddol Sain: Sgwrs rhwng Marged Tudur a Dyl Mei
  • 🎧 Setiau DJ Don Leisure a Klust DJs
  • 🍕 Pitsas gan Pizza Llan a choctels Sain

Tocynnau:
🎫 £15 - Tocyn trwy’r dydd (yn cynnwys Sesiynau Stiwdio Sain + Gig nos Ty’n Llan)

*Mae tocynnau unigol ar gael ar gyfer y Gig Nos yn Ty’n Llan ar gael YMA.

The first-ever Gŵyl Sain marks a special milestone - celebrating 50 years since the opening of Sain’s first recording studio at Gwernafalau. The festival will offer a showcase of Sain's archive as well as celebrate new artists from the recent Stafell Sbâr Sain collaborations. We are proud to work with Menter Ty'n Llan with the support of Creative Wales to bring you a day of music, conversation, and community in Llandwrog as we honour the legacy and future of Sain and Welsh music.

Gŵyl Sain: Studio Sessions @ Canolfan Sain, Llandwrog | 14:00 – 17:00
Step inside the legendary Canolfan Sain studios for an exclusive behind-the-scenes experience:

  • 🎙 Studio Tours - Explore where Welsh music history was made.
  • 🗣 In Conversation - Dafydd Iwan, Don Leisure and Rhys Spikes discuss the release of Sain Records’ first predominantly sample-based album Tyrchu Sain, created from the label’s audio archive with samples from artists such as Brân, Endaf Emlyn, Edward H Dafis and Sidan. 
  • 🎸 Live Acoustic Set - An intimate studio performance by Gethin Griffiths and Elis Derby of Ciwb.

Gŵyl Sain: Evening Gig @ Ty’n Llan | From 18:00
The celebration continues with a night of live music at Ty’n Llan community pub:

  • 🎶 Performances from Lo-Fi Jones, Malan and Elin a Carys
  • 🗣 Sain’s Legacy: Marged Tudur and Dyl Mei in conversation
  • 🎧 DJ sets by Don Leisure and Klust DJs
  • 🍕 Wood-fired pizza by Pizza Llan & Sain-themed cocktails 

Tickets:
🎫 £15 – Full Day Pass (includes all Canolfan Sain Studio Sessions + Evening Gig at Ty’n Llan)

*Tickets for the Evening Gig at Ty’n Llan are also sold separately and can be purchased HERE.

See you there!

Location

Canolfan Sain, Llandwrog, LL54 5TG