The School Health Research Network (SHRN) 2025 Secondary School National Data Insights Webinar
The School Health Research Network (SHRN) 2025 Secondary School National Data Insights Webinar
Share this event
Need help?
English text appears below.
Beth mae pobl ifanc yng Nghymru yn ei ddweud wrthon ni am eu hiechyd a'u lles?
Ymunwch â ni ar gyfer y weminar diddorol hon sy'n trin a thrafod canfyddiadau allweddol Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith mewn Ysgolion Uwchradd 2025, un o'r ffynonellau data iechyd a lles mwyaf sydd ar gael i ysgolion yng Nghymru.
Gan ddefnyddio ymatebion gan ddysgwyr ledled y wlad, byddwn ni’n rhannu'r dystiolaeth ddiweddaraf ar iechyd a lles pobl ifanc, yn tynnu sylw at dueddiadau sy'n dod i'r amlwg, ac yn trafod beth mae'r canfyddiadau'n ei olygu i ysgolion, ymarferwyr a llunwyr polisïau. Bydd y rhai sy'n bresennol yn cael cipolwg gwerthfawr ar brofiadau ac anghenion dysgwyr ysgolion uwchradd, ochr yn ochr ag enghreifftiau ymarferol o sut mae modd defnyddio data’r Rhwydwaith i gefnogi cynllunio, hunanwerthuso a gwella ysgolion.
P'un a ydych chi'n gweithio ym maes addysg, iechyd y cyhoedd, gofal cymdeithasol, ymchwil neu bolisi, bydd y weminar hon yn rhoi cipolwg gwerthfawr, enghreifftiau ymarferol a chyfle i ddysgu mwy am rôl data’r Rhwydwaith wrth gefnogi iechyd a lles pobl ifanc.
Beth i’w ddisgwyl
- Prif ganfyddiadau a thueddiadau cenedlaethol sy'n dod i'r amlwg o Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr Ysgolion Uwchradd y Rhwydwaith 2025.
- Cipolwg o ran iechyd, lles a phrofiadau dysgwyr ysgolion uwchradd ledled Cymru.
- Diweddariadau ar gynlluniau, datblygiadau a chyfleoedd ymgysylltu’r Rhwydwaith at y dyfodol.
Bydd y sesiwn yn dod i ben gyda chyfle i ofyn cwestiynau a thrafod y canfyddiadau gyda thîm y Rhwydwaith.
Pwy ddylai gymryd rhan?
- Athrawon Ysgol Uwchradd, Staff Cymorth a Llywodraethwyr Ysgolion.
- Partneriaid a Rhanddeiliaid y Rhwydwaith gan gynnwys Cydlynwyr Rhwydwaith Ysgolion Cymru sy’n Hybu Iechyd a Lles; Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ymarferwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac aelodau CCAC.
- Llunwyr polisïau, Ymchwilwyr ac Academyddion.
- Sefydliadau’r Trydydd Sector sy'n gweithio ym meysydd addysg, iechyd a lles.
Cwestiynau?
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Charlotte Wooders, Rheolwr Ymgysylltu y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion. Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich croesawu.
What Do Young People in Wales Tell Us About Their Health and Well-being?
Join us for this engaging SHRN webinar exploring the key findings from the 2025 SHRN Student Health and Well-being Survey in Secondary Schools, one of the largest sources of health and well-being data available to schools in Wales.
Drawing on responses from learners nationwide, we'll share the latest evidence on young people's health and well-being, highlight emerging trends, and discuss what the findings mean for schools, practitioners and policymakers. Attendees will gain valuable insights into the experiences and needs of secondary school learners, alongside practical examples of how SHRN data can be used to support planning, self-evaluation and school improvement.
Whether you work in education, public health, social care, research or policy, this webinar will provide valuable insights, practical examples and an opportunity to learn more about the role of SHRN data in supporting the health and well-being of young people.
What to Expect
- Key findings and emerging national trends from the 2025 SHRN Secondary School Student Health and Well-being Survey.
- Insights into the health, well-being and experiences of secondary school learners across Wales.
- Updates on SHRN's future plans, developments and opportunities for engagement.
The session will conclude with an opportunity to ask questions and discuss the findings with the SHRN team.
Who Should Attend?
- Secondary School Teachers, Support Staff and School Governors.
- SHRN Partners and Stakeholders including WNHWPS Co-ordinators; Public Health Wales, Health and Social Care Practitioners and ADEW members.
- Policymakers, Researchers and Academics.
- Third Sector Organisations working in education, health and well-being.
Questions?
If you have any questions, please contact Charlotte Wooders, SHRN Engagement Manager. We look forward to welcoming you.