Skip to main content
  • SHRN and NCSR Webinar: Understanding and Responding to Self-Harm Among Young People
1 of 3

SHRN and NCSR Webinar: Understanding and Responding to Self-Harm Among Young People

Wed 25 Nov 2026 3:45 PM - 4:30 PM GMT Online, Microsoft Teams

SHRN and NCSR Webinar: Understanding and Responding to Self-Harm Among Young People

Wed 25 Nov 2026 3:45 PM - 4:30 PM GMT Online, Microsoft Teams

Need help?

Manage tickets

English text appears below

Cyd-gynhelir gan SHRN ac NCSR

Mae hunan-niweidio ymhlith pobl ifanc yn parhau i fod yn fater pwysig i ysgolion, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio i hyrwyddo a chefnogi eu lles.  Bydd y weminar hon yn edrych ar y dystiolaeth ddiweddaraf ar hunan-niweidio ymhlith pobl ifanc oedran ysgol, yn tynnu sylw at fylchau yn yr wybodaeth, a thrafod y ffordd y gall ysgolion adnabod pobl ifanc a allai fod yn hunan-niweidio ac ymateb iddyn nhw’n effeithiol.

Bydd y sesiwn hon yn cael ei harwain gan yr Athro Ann John, Cyfarwyddwr NCSR, Athro Iechyd y Cyhoedd a Seiciatreg ym Mhrifysgol Abertawe ac arbenigwr a gydnabyddir yn rhyngwladol ym maes ymchwil i atal hunan-niweidio a hunanladdiad. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar drosi tystiolaeth yn bolisi ac ymarfer, ac mae hi’n arwain y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil i Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio a Phlatfform Data Iechyd Meddwl y Glasoed. Arweiniodd hi hefyd ddatblygiad canllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru ar ymateb i hunan-niweidio ymhlith pobl ifanc.

Beth fydd yn cael ei gynnwys?

Byddwn ni’n gwneud y canlynol yn ystod y weminar hon:

  • Edrych ar y dystiolaeth gyfredol ar hunan-niweidio ymhlith pobl ifanc oedran ysgol, gan gynnwys canfyddiadau o Gymru ac o dramor.
  • Trafod yr hyn rydyn ni’n ei wybod, yr hyn nad ydyn ni’n ei wybod, a bylchau pwysig yn y sylfaen dystiolaeth.
  • Adolygu ymchwil ar ddiogelwch a derbynioldeb gofyn pobl ifanc am bynciau sensitif megis hunan-niweidio.
  • Ystyried ffyrdd ymarferol y gall ysgolion adnabod arwyddion posibl o hunan-niweidio ac ymateb yn briodol.
  • Cynnig trosolwg o ganllawiau ac adnoddau diweddaraf Llywodraeth Cymru sydd ar gael i gefnogi ysgolion a phobl ifanc.

Deilliannau dysgu 

Drwy gymryd rhan, bydd cyfranogwyr yn gwneud y canlynol:

  • Cael gwell dealltwriaeth o hunan-niweidio ymhlith pobl ifanc a phatrymau presennol a nodwyd drwy ymchwil.
  • Dysgu am dystiolaeth sy’n ymwneud â thrafod hunan-niweidio a gofyn cwestiynau amdano gyda phobl ifanc.
  • Ymgyfarwyddo â’r canllawiau, yr adnoddau a’r llwybrau cymorth sydd ar gael.

Pwy ddylai gymryd rhan?

Mae’r weminar hon yn berthnasol i’r bobl ganlynol: Arweinwyr uwch-dimau rheoli a lles mewn ysgolion; nyrsys ysgol a gweithwyr proffesiynol yn y maes lles addysg; staff awdurdod lleol ac addysg ranbarthol; gweithwyr proffesiynol a llunwyr polisïau ym maes iechyd y cyhoedd, ac ymchwilwyr ac ymarferwyr sydd â diddordeb mewn iechyd meddwl a lles pobl ifanc

Rhagor o wybodaeth am SHRN

Mae'r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) yn bartneriaeth ymchwil-polisi-ymarfer rhwng Prifysgol Caerdydd, Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae SHRN yn cefnogi ysgolion ledled Cymru i wella iechyd a lles drwy ddata cadarn, tystiolaeth a dysgu a rennir.

Gwybodaeth am NCSR

Mae’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil i Atal Hunanladdiad (NCSR), a arweinir gan Brifysgol Abertawe, yn dwyn ynghyd ymchwil, data a phrofiad bywyd i wella dealltwriaeth o hunanladdiad a hunan-niweidio a throsi tystiolaeth yn atal ac ymarfer effeithiol. Mae NCSR yn gweithio gydag ymchwilwyr, ymarferwyr, llunwyr polisïau a phobl â phrofiad bywyd i gefnogi gwell canlyniadau ledled Cymru a thu hwnt.


Co-hosted by SHRN and the National Centre for Suicide Prevention and Self-Harm Research (NCSR)

Self-harm among young people remains an important issue for schools, families, and professionals who work to promote and support their well-being. This webinar will explore the latest evidence on self-harm in school-aged young people, highlight current gaps in knowledge, and discuss how schools can recognise and respond effectively to young people who may be self-harming.

The session will be led by Professor Ann John, Director of NCSR, Professor of Public Health and Psychiatry at Swansea University and an internationally recognised expert in self-harm and suicide prevention research. Her work focuses on translating evidence into policy and practice, and she leads both the National Centre for Suicide Prevention and Self-Harm Research and the Adolescent Mental Health Data Platform. She also led the development of the current Welsh Government guidance on responding to self-harm in young people.

What will be covered?

During this webinar, we will:

  • Explore the current evidence on self-harm among school-aged young people, including findings from Wales and internationally.
  • Discuss what we know, what we do not yet know, and important gaps in the evidence base.
  • Review research on the safety and acceptability of asking young people about sensitive topics such as self-harm.
  • Consider practical ways schools can recognise possible signs of self-harm and respond appropriately.
  • Provide an overview of updated Welsh Government guidance and resources available to support schools and young people.

Learning outcomes

By attending, participants will:

  • Gain a greater understanding of self-harm among young people and current patterns identified through research.
  • Learn about evidence relating to discussing and asking about self-harm with young people.
  • Become familiar with available guidance, resources and support pathways.

Who should attend?

This webinar is relevant to: School SLT and well-being leads; School nurses and education welfare professionals; Local authority and regional education staff; Public health professionals and Policy makers and researchers and practitioners with an interest in young people's mental health and well-being

About SHRN

The School Health Research Network (SHRN) is a research-policy-practice partnership between Cardiff University, Welsh Government and Public Health Wales. SHRN supports schools across Wales to improve health and wellbeing through robust data, evidence and shared learning.

About NCSR

The National Centre for Suicide Prevention and Self-Harm Research (NCSR), led from Swansea University, brings together research, data and lived experience to improve understanding of suicide and self-harm and translate evidence into effective prevention and practice. NCSR works with researchers, practitioners, policymakers and people with lived experience to support better outcomes across Wales and beyond.