Diwrnod Agored Israddedigion - Dydd Sadwrn 13 Mehefin 2026
Diwrnod Agored Israddedigion - Dydd Sadwrn 13 Mehefin 2026
Share this event
Need help?
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i Brifysgol Abertawe ar gyfer Diwrnod Agored ar Gampws.
Beth fydd gennym ni ar gynnig?
- Mynychwch Sgwrs Croeso i ddysgu mwy am Abertawe
- Mynychu Sesiwn Pwnc lle byddwch yn darganfod mwy am y pwnc o’ch dewis, cwrdd ag academyddion, a gweld cyfleusterau addysgu.
- Dewch i gael teimlad o Fywyd Prifysgol ar Daith Campws gyda myfyriwr cyfredol
- Ewch ar Daith Chwaraeon gyda myfyriwr presennol i weld yr amrywiaeth o gyfleusterau sydd ar gael
- Gweld pa opsiynau sydd gennym ar gyfer byw ar y campws gan Ymweld â’r Llety
- Gofynnwch unrhywbeth i ci yn ein Hwb Gwybodaeth
Sut bydd y Diwrnodau Agored Ar Gampws yn gweithio?
Archebu
- Pwn fyddwch yn clicio "cadw lle" fe welwch restr o sgyrsiau a phynciau sydd ar gael yn ystod y Diwrnod Agored. Sgroliwch i lawr i weld pa slotiau amser sydd ar gael a dewiswch beth sy'n gweithio ar gyfer eich ymweliad.
- Mae croeso i chi archebu tocynnau ar gyfer gwahanol bynciau, gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael digon o amser i deithio rhyngddynt. Gall hyn fod ar draws y campws, neu rhwng Singleton a Champws y Bae.
- Gwiriwch yma os nad ydych yn siŵr pa gampws i fynd iddo.
- Nid oes angen i chi archebu tocynnau ar gyfer eich gwesteion.
Mynychu’r Digwyddiad a Chymryd Rhan
- Bydd eich e-bost cadarnhau archeb yn cynnwys tocynnau ar gyfer pob un o’r sesiynau rydych wedi’u harchebu, a bydd pob un yn dweud a ydynt ar Gampws Parc Singleton neu Gampws y Bae. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n darllen yr e-bost cadarnhau archeb i wneud yn siŵr eich bod chi'n mynychu'r campws cywir ar gyfer eich sesiwn pwnc.
- Cofrestru yn agor am 8:30AM. Rydym yn argymell eich bod yn cyrraedd yn gynnar i sicrhau eich bod yn cyrraedd eich sesiynau gyda digon o amser.
- Pan fyddwch yn cyrraedd bydd angen i chi gofrestru i roi gwybod i ni eich bod wedi cyrraedd - gofynnwch i unrhyw lysgennad neu aelod staff, neu dilynwch yr arwyddion ar draws y campws.
- Ochr yn ochr â’ch slot Sesiwn Pwnc, mae gennym Sgwrs Croeso, Deithiau Campws a Chwaraeon, Ymweliadau Llety, a’r Hwb Gwybodaeth. Mae’r rhain i gyd yn weithgareddau ble allwch chi alw heibio a does dim angen archebu cyn cyrraedd.
- Byddwn yn anfon mynediad atoch i wefan "Cynllunio Eich Diwrnod" ychydig cyn y digwyddiad, fel y gallwch ddechrau penderfynu ar y ffordd orau i dreulio'ch diwrnod ym Mhrifysgol Abertawe.
Nodwch:
- Mae iechyd a diogelwch ein staff, myfyrwyr ac ymwelwyr o’r pwys mwyaf. Gofynnwn i bob ymwelydd ddilyn cyfarwyddiadau staff y digwyddiad yn ôl yr angen i sicrhau diogelwch pawb.
- Oherwydd problemau capasiti mewn rhai lleoliadau, efallai y bydd mynediad i rai sesiynau yn gyfyngedig i un gwestai sy'n mynd gyda'r darpar fyfyriwr. Gwerthfawrogwn eich cydweithrediad i sicrhau y gall cymaint o ddarpar fyfyrwyr ymuno â sesiynau â phosibl.
- Gall holl fanylion digwyddiadau newid. Bydd unrhyw ddiweddariadau hanfodol yn cael eu hanfon trwy e-bost.
- Sylwch y bydd ffotograffau a lluniau yn cael eu tynnu drwy gydol y Diwrnod Agored. Bydd y rhain yn cael eu defnyddio gan y Brifysgol at ddibenion marchnata a chyhoeddusrwydd ar draws ein cyhoeddiadau, ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol. Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad os oes gennych unrhyw bryderon. Cyfathrebwch â’r timau ffilmio a ffotograffau os ydych am gael eich eithrio o’r gweithgareddau yma.
- Os ydych chi’n bwriadu defnyddio cludiant cyhoeddus i’r campws, edrychwch ar dudalennau cyngor teithio y Brifysgol.
Gellir gweld ein Polisi Preifatrwydd yma
Gellir gweld ein Polisi Preifatrwydd Rhiant/Gwarchodwr/Athro yma