Skip to main content
  • Dydd Agored Gyrfaoedd Gofal Iechyd Prifysgol Abertawe - Dydd Gwener 11 Medi 2026
1 of 3

Dydd Agored Gyrfaoedd Gofal Iechyd Prifysgol Abertawe - Dydd Gwener 11 Medi 2026

Fri 11 Sep 2026 8:00 AM - 4:30 PM Prifysgol Abertawe - Parc Singleton, SA2 8PP

Dydd Agored Gyrfaoedd Gofal Iechyd Prifysgol Abertawe - Dydd Gwener 11 Medi 2026

Fri 11 Sep 2026 8:00 AM - 4:30 PM Prifysgol Abertawe - Parc Singleton, SA2 8PP

Need help?

Manage tickets

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i Brifysgol Abertawe ar gyfer Diwrnod Agored ar Gampws.

Beth fydd gennym ni ar gynnig?

  • Mynychu Sesiwn Pwnc lle byddwch yn darganfod mwy am y pwnc o’ch dewis, cwrdd ag academyddion, a gweld cyfleusterau addysgu.
  • Mynychu Sgwrs Groeso gydag aelod o'r Uwch Dîm Arwain i ddysgu mwy am Abertawe
  • Dewch i gael teimlad o Fywyd Prifysgol ar Daith Campws gyda myfyriwr cyfredol
  • Ewch ar Daith Chwaraeon gyda myfyriwr presennol i weld yr amrywiaeth o gyfleusterau sydd ar gael
  • Gweld pa opsiynau sydd gennym ar gyfer byw ar y campws gan Ymweld â’r Llety
  • Oes gennych chi gwestiynau am eich pwnc? Siaradwch â staff a myfyrwyr yn y Ffeiriau Gwybodaeth Cyfadran

Sut bydd y Diwrnodau Agored Ar Gampws yn gweithio?

Archebu

  • Pwn fyddwch yn clicio "cadw lle" fe welwch restr o sgyrsiau a phynciau sydd ar gael yn ystod y Diwrnod Agored. Sgroliwch i lawr i weld pa slotiau amser sydd ar gael a dewiswch beth sy'n gweithio ar gyfer eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi archebu tocynnau ar gyfer gwahanol bynciau, gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael digon o amser i deithio rhyngddynt.
  • Nid oes angen i chi archebu tocynnau ar gyfer eich gwesteion.

Mynychu’r Digwyddiad a Chymryd Rhan

  • Bydd eich e-bost cadarnhau archeb yn cynnwys tocynnau ar gyfer pob un o’r sesiynau rydych wedi’u harchebu.
  • Cofrestru yn agor am 9:00AM. Mae'r sgwrs groeso gyntaf yn cychwyn yn brydlon am 09:30AM a 10.05AM
  • Pan fyddwch yn cyrraedd bydd angen i chi gofrestru i roi gwybod i ni eich bod wedi cyrraedd - gofynnwch i unrhyw lysgennad neu aelod staff, neu dilynwch yr arwyddion ar draws y campws.
  • Ochr yn ochr â’ch slot Sesiwn Pwnc, mae gennym Sgwrs CroesoDeithiau Campws a ChwaraeonYmweliadau Llety, a’r Hwb Gwybodaeth. Mae’r rhain i gyd yn weithgareddau ble allwch chi alw heibio a does dim angen archebu cyn cyrraedd.
  • Byddwn yn anfon mynediad atoch i wefan "Cynllunio Eich Diwrnod" ychydig cyn y digwyddiad, fel y gallwch ddechrau penderfynu ar y ffordd orau i dreulio'ch diwrnod ym Mhrifysgol Abertawe.

Nodwch:

  • Mae iechyd a diogelwch ein staff, myfyrwyr ac ymwelwyr o’r pwys mwyaf. Gofynnwn i bob ymwelydd ddilyn cyfarwyddiadau staff y digwyddiad yn ôl yr angen i sicrhau diogelwch pawb.
  • Gall holl fanylion digwyddiadau newid. Bydd unrhyw ddiweddariadau hanfodol yn cael eu hanfon trwy e-bost.
  • Sylwch y bydd ffotograffau a lluniau yn cael eu tynnu drwy gydol y Diwrnod Agored. Bydd y rhain yn cael eu defnyddio gan y Brifysgol at ddibenion marchnata a chyhoeddusrwydd ar draws ein cyhoeddiadau, ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol. Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad os oes gennych unrhyw bryderon. Cyfathrebwch â’r timau ffilmio a ffotograffau os ydych am gael eich eithrio o’r gweithgareddau yma.
  • Os ydych chi’n bwriadu defnyddio cludiant cyhoeddus i’r campws, edrychwch ar dudalennau cyngor teithio y Brifysgol.

Gellir gweld ein Polisi Preifatrwydd yma

Gellir gweld ein Polisi Preifatrwydd Rhiant/Gwarchodwr/Athro yma