Diwrnodau Agored Clirio Prifysgol Abertawe 2026
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i Brifysgol Abertawe ar gyfer Diwrnod Agored Clirio.
Mae Diwrnodau Agored Clirio Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr sy’n ymgeisio drwy Clirio ar gyfer mynediad yn 2026. Os ydych yn meddwl am ymgeisio i fynychu yn 2027, yna ystyriwch ddod i Ddiwrnod Agored ym mis Hydref neu mis Tachwedd – gellir ffeindio mwy o fanylion yma.
Beth fydd gennym ni ar gynnig?
- Mynychu Sesiwn Pwnc lle byddwch yn darganfod mwy am y pwnc o’ch dewis, cwrdd ag academyddion, a gweld cyfleusterau addysgu (rhaid bwcio o flaen llaw)
- Dewch i gael teimlad o Fywyd Prifysgol ar Daith Campws gyda myfyriwr cyfredol
- Gweld pa opsiynau sydd gennym ar gyfer tai myfyrwyr gyda Ymweld â’r Llety
- Gofynnwch unrhyw beth i ni, unrhyw bryd, yn ein Derbynfa
- Dysgwch fwy mewn sesiwn Croeso a Holi ac Ateb
Mynychu’r Digwyddiad a Chymryd Rhan
- Sylwch fod y cyfeiriad ar frig yr e-bost cadarnhau yn gyfeiriad prifysgol generig. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio pa gampws y dylech fynd iddo ar gyfer eich sesiwn pwnc. Gwiriwch yma os nad ydych yn siwr pa gampws i’w fynychu.
- Mae parcio ar gyfer y digwyddiad ar y campws ac yn rhad ac am ddim. Campws Singleton (SA2 8PP), neu Gampws y Bae (SA1 8EN).
- Pan fyddwch yn cyrraedd bydd angen i chi gofrestru i roi gwybod i ni eich bod wedi cyrraedd - gofynnwch i unrhyw lysgennad neu aelod staff os oes angen cymorth.
Nodwch:
- Noder nad yw cofrestru ar gyfer un o'n Digwyddiadau Clirio yn gwarantu y byddwch yn derbyn cynnig drwy'r broses Glirio. Er mwyn cael eich ystyried am le ym Mhrifysgol Abertawe, mae'n rhaid i chi gyflwyno cais drwy'r broses Glirio o hyd a bodloni'r gofynion mynediad perthnasol.
- Mae iechyd a diogelwch ein staff, myfyrwyr ac ymwelwyr o’r pwys mwyaf. Gofynnwn i bob ymwelydd ddilyn cyfarwyddiadau staff y digwyddiad yn ôl yr angen i sicrhau diogelwch pawb.
- Gall holl fanylion digwyddiadau newid. Bydd unrhyw ddiweddariadau hanfodol yn cael eu hanfon trwy e-bost.
- Sylwch y bydd ffotograffau a lluniau yn cael eu tynnu drwy gydol y Diwrnod Agored. Bydd y rhain yn cael eu defnyddio gan y Brifysgol at ddibenion marchnata a chyhoeddusrwydd ar draws ein cyhoeddiadau, ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol. Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad os oes gennych unrhyw bryderon. Cyfathrebwch â’r timau ffilmio a ffotograffau os ydych am gael eich eithrio o’r gweithgareddau yma.
- Os ydych chi’n bwriadu defnyddio cludiant cyhoeddus i’r campws, edrychwch ar dudalennau cyngor teithio y Brifysgol.
Gellir gweld ein Polisi Preifatrwydd yma
Gellir gweld ein Polisi Preifatrwydd Rhiant/Gwarchodwr/Athro yma