Diwrnod Agored Ôl-raddedig - Dydd Mercher 10 Mawrth 2027
Mae ein Diwrnodau Agored i Fyfyrwyr Ôl-raddedig yn ffordd ardderchog o gael cyngor a chymorth am astudiaethau ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe. Os wyt ti'n ystyried cyflwyno cais am radd ôl-raddedig gyda ni, dere draw i'r digwyddiad hwn i gael gwybodaeth gan ein hacademyddion a'n timau Ymchwil Ôl-raddedig a Chyllid Myfyrwyr.
Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer cyrsiau ôl-raddedig ar Gampws y Bae. Darganfyddwch a ddylech chi fynd i Gampws Parc Singleton neu Gampws y Bae.
Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio cwrs ôl-raddedig a gynigir ar Gampws Singleton, cadwch le ar gyfer Diwrnod Agored Ôl-raddedig: Campws Singleton ddydd Mercher 17 Mawrth.
Cwblhewch ffurflen gofrestru ar gyfer pawb sy'n mynychu'r Diwrnod Agored ac yn ystyried astudiaeth ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe. Nid oes angen i chi gofrestru ffrindiau a theulu a fydd yn dod gyda chi.
Os oes gennych ymholiadau, e-bostiwch y Tim Recriwtio Myfyrwyr: UKStudentRecruitment@abertawe.ac.uk
Ar y diwrnod:
- • Sylwer, nid oes parcio am ddim ar y safle. Mae parcio i ymwelwyr yn brin ar Gampws y Bae, ond ceir cyfleuster Parcio a Theithio mawr ar Ffordd Ffabian, sy’n daith gerdded fer o Gampws y Bae.
Sylwer:
- Mae iechyd a diogelwch ein staff, ein myfyrwyr ac ymwelwyr o’r pwys mwyaf. Gofynnwn i bob ymwelydd ddilyn cyfarwyddiadau staff y digwyddiad er mwyn sicrhau diogelwch pawb.
- Sylwer, y bydd ffotograffau a lluniau yn cael eu tynnu drwy gydol y Diwrnod Agored. Bydd y rhain yn cael eu defnyddio gan y Brifysgol at ddibenion marchnata a chyhoeddusrwydd ar draws ein cyhoeddiadau, ar ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol. Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad os oes gennych unrhyw bryderon. Dywedwch wrth y timau ffilmio a ffotograffau os nad ydych am gael eich cynnwys yma.
- Os ydych chi’n bwriadu teithio ar gludiant cyhoeddus i’r campws, edrychwch ar dudalennau cyngor ar deithio y Brifysgol.