Skip to main content
  • FIST INSIDE THE VELVET GLOVE - tactileBOSCH X Morgan's Arcade
1 of 3

FIST INSIDE THE VELVET GLOVE - tactileBOSCH X Morgan's Arcade

Multiple dates and times Wanderers Library, 8a Morgan's Arcade, CF101AF

FIST INSIDE THE VELVET GLOVE - tactileBOSCH X Morgan's Arcade

Multiple dates and times Wanderers Library, 8a Morgan's Arcade, CF101AF

Need help?

Manage tickets

FIST INSIDE THE VELVET GLOVE

tactileBOSCH X Arcêd Morgan

15–17 Hydref 2026
Wanderers’ Library, 8a Arcêd Morgan, Caerdydd, CF10 1AF

TROSOLWG O’R RHAGLEN

Fist Inside the Velvet Glove yw rhaglen 25 Mlwyddiant tactileBOSCH. Mae rhaglen y Wanderers’ Library yn dwyn ynghyd berfformiad byw, gosodiadau, sain, radio, archif ac ymarfer arbrofol dros dridiau yng nghanol dinas Caerdydd.

Ynghyd â'r perfformiadau a drefnwyd, bydd gosodiadau, sain a gweithiau archifol ar gael drwy gydol y rhaglen.

GOSODIAD PARHAUS, SAIN AC ARCHIF

Penny Hallas
Pascal-Michel Dubois
Eleanor Mountford
tB25 Archive
SHIFT TTF Radio

DYDD IAU 15 HYDREF

12 hanner dydd — Phil Babot, Central Performative Walk
Tua 1–1.5 awr. Tocynnau ar wahân.

6pm — Rocky Meaney
7.15pm — slowmurder
8pm — RHW x Cariad
8.45pm — Kelan

DYDD GWENER 16 HYDREF

12 hanner dydd — Phil Babot, Central Performative Walk
Tua 1–1.5 awr. Tocynnau ar wahân.

6pm — Colin James Woods
6.45pm — Tim Martin-Jones
7.30pm — Teddy Hunter
8.20pm — Mengting Zhuo ac Andrej Bako

DYDD SADWRN 17 HYDREF

12 hanner dydd — Phil Babot, Central Performative Walk
Tua 1–1.5 awr. Tocynnau ar wahân.

2pm — Zack Mennell
3pm — Shuyi Gao
4pm — Weeks & Whitford
5pm — No Birds
5.45pm — Tess Wood
6.30pm — Winter
7.30pm — Dirt Brooks
8.30pm — Waterflower

PHIL BABOT — CENTRAL PERFORMATIVE WALK

Cynhelir taith gerdded berfformiadol Phil Babot am 12 hanner dydd, unwaith y dydd, gyda thair taith gerdded i gyd ar draws y rhaglen.

Mae'r daith gerdded yn symud rhwng Parc Bute a chanol dinas Caerdydd, gan ddechrau yng Nghylch Cerrig yr Orsedd ym Mharc Bute ac yn gorffen yn Woking Street yng nghanol y ddinas.

Mae pob taith gerdded yn para tua 1 i 1.5 awr, gan gwmpasu tua 1.5 milltir, gydag uchafswm o 6 o bobl fesul taith gerdded. Mae maint bach y grŵp yn fwriadol, gan greu deinameg agosach rhwng y perfformiwr a’r gynulleidfa tra'n lleihau ymyrraeth â dinasyddion a busnesau eraill ar hyd y llwybr.

Nid yw’r daith gerdded yn feichus iawn, er y bydd rhai llwybrau yn anaddas ar gyfer cadeiriau olwyn ac mae un set o risiau i'w dringo.

Dewch â dillad ac esgidiau priodol os disgwylir tywydd garw.

Mae tocynnau ar wahân ar gael ar gyfer teithiau cerdded Phil Babot isod. Nid yw tocyn i brif raglen tactileBOSCH X Arcêd Morgan yn cynnwys lle ar y daith gerdded.

CAPASITI

Mae gan y prif ofod perfformio gapasiti cyfyngedig iawn. Bydd ffrwd fyw o'r perfformiadau hefyd yn cael ei dangos yn ein gofod sinema, gan ddarparu capasiti i gynulleidfa ychwanegol a ffordd arall o brofi'r rhaglen.

Nid yw cael tocyn yn gwarantu lle yn y prif ofod perfformio ar gyfer pob perfformiad. Byddwn yn gwneud yn siŵr bod pawb yn cael cyfle i brofi'r perfformiadau byw, ond efallai y byddwch chi'n gwylio naill ai yn y prif ofod perfformio neu'r ystafell sinema, yn dibynnu ar y capasiti ar y pryd.

Diolch am fod yn amyneddgar gyda ni. Rydyn ni'n gwneud ein gorau glas i wneud yn siŵr bod pawb yn cael cynnig.

MYNEDIAD

Rydym yn falch o gynnig mynediad lifft i'n hystafell ffrydio byw sinema, fydd ar gael ac yn hygyrch trwy gydol tri diwrnod y digwyddiad. Bydd y gofod hwn yn rhoi mynediad hygyrch i gadeiriau olwyn, gyda ffrydio byw o'r digwyddiad.

Oherwydd cynllun ffisegol yr adeilad, nid yw gweddill gofod y digwyddiad yn hygyrch i gadeiriau olwyn ar hyn o bryd. Rydym eisiau pwysleisio hyn wrth archebu, er mwyn i bawb gynllunio eu hymweliad gyda'r wybodaeth sydd ei hangen arnynt.

CADW CELF FYW YN FYW

Mae celf fyw yn fregus. Mae artistiaid yn aml yn gweithio gydag adnoddau cyfyngedig a chyfleoedd ansicr, ac mae mannau annibynnol yn hanfodol i gadw gwaith arbrofol yn fyw.

Os hoffech chi ein helpu i barhau i greu lle ar gyfer celf fyw yng Nghymru, gallwch gyfrannu £5, £10 neu £20.

Mae pob cyfraniad yn helpu i gefnogi artistiaid ac yn sicrhau bod celf fyw yn parhau i ddigwydd.

Welwn ni chi yn y Llyfrgell!




FIST INSIDE THE VELVET GLOVE

tactileBOSCH X Morgan Arcade

15–17 October 2026
Wanderers’ Library, 8a Morgan Arcade, Cardiff, CF10 1AF

PROGRAMME OVERVIEW

Fist Inside the Velvet Glove is tactileBOSCH’s 25th anniversary programme. The Wanderers’ Library programme brings together live performance, installation, sound, radio, archive and experimental practice across three days in Cardiff city centre.

Alongside the scheduled performances, installation, sound and archival works will be accessible throughout the programme.

CONTINUOUS INSTALLATION, SOUND AND ARCHIVE

Penny Hallas
Pascal-Michel Dubois
Eleanor Mountford
tB25 Archive
SHIFT TTF Radio

THURSDAY 15 OCTOBER

12 noon — Phil Babot, Central Performative Walk
Approximately 1–1.5 hours. Separately ticketed.

6pm — Rocky Meaney
7.15pm — slowmurder
8pm — RHW x Cariad
8.45pm — Kelan

FRIDAY 16 OCTOBER

12 noon — Phil Babot, Central Performative Walk
Approximately 1–1.5 hours. Separately ticketed.

6pm — Colin James Woods
6.45pm — Tim Martin-Jones
7.30pm — Teddy Hunter
8.20pm — Mengting Zhuo & Andrej Bako

SATURDAY 17 OCTOBER

12 noon — Phil Babot, Central Performative Walk
Approximately 1–1.5 hours. Separately ticketed.

2pm — Zack Mennell
3pm — Shuyi Gao
4pm — Weeks & Whitford
5pm — No Birds
5.45pm — Tess Wood
6.30pm — Winter
7.30pm — Dirt Brooks
8.30pm — Waterflower

PHIL BABOT — CENTRAL PERFORMATIVE WALK

Phil Babot’s performative walk takes place at 12 noon, once each day, with three walks in total across the programme.

The walk moves between Bute Park and Cardiff city centre, beginning at the Gorsedd Stone Circle in Bute Park and finishing at Woking Street in the city centre.

Each walk lasts approximately 1 to 1.5 hours, covering around 1.5 miles, with a maximum of 6 people per walk. The small group size is intentional, creating a more intimate performer / audience dynamic while minimising interference with other citizens and businesses along the route.

The walk is undemanding, although some paths will be unsuitable for wheelchairs and there is one set of stairs to negotiate.

Please bring appropriate clothing and footwear if inclement weather is expected.

Phil Babot’s walks are separately ticketed below. A ticket to the main tactileBOSCH X Morgan Arcade programme does not include a place on the walk.

CAPACITY

The main performance space has a very limited capacity. A live feed of the performances will also be shown in our cinema space, providing additional audience capacity and another way to experience the programme.

Having a ticket does not guarantee a place in the main performance space for every performance. We’ll be making sure everyone gets a chance to experience the live performances, but you may find yourself watching from either the main performance space or the cinema room, depending on capacity at the time.

Thanks for bearing with us. We’re doing our best to make sure everyone gets a go.

ACCESS

We’re pleased to offer lift access to our cinema live streaming room, which will be available and accessible throughout all three days of the event. This space will provide wheelchair-accessible access to the programme being live streamed from the event.

Due to the physical layout of the building, the rest of the event space is not currently wheelchair accessible. We want to make this clear when booking so that everyone can plan their visit with the information they need.

KEEP LIVE ART ALIVE

Live art is fragile. Artists are often working with limited resources and uncertain opportunities, and independent spaces are vital to keeping experimental work alive.

If you want to help us keep making space for live art in Wales, you can contribute £5, £10 or £20.

Every contribution helps support artists and keep live art happening.

See you in the Library!

Proudly part of Cardiff Music City Festival. Supported by Welsh Government / Cardiff Council. More information can be found at cardiffmusiccityfestival.wales

Yn falch o fod yn rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd. Cefnogir gan Lywodraeth Cymru / Cyngor Caerdydd. Mwy o wybodaeth yn gwyldinasgerddcaerdydd.cymru


Location

Wanderers Library, 8a Morgan's Arcade, CF101AF