Gwesty'r Garibaldi
Mae hi'n fis Awst, noswyl yr Eisteddfod Genedlaethol yn y dref ac mae Gwesty'r Garibaldi'n mynd i fod yn llawn dop yn ystod yr wythnos. Mae ambell un o wahoddedigion pwysig yr Eisteddfod yn aros yn y gwesty y tro hwn - yr Archdderwydd Llewelyn Pritchard, Branwen Mihangell y beirniad Cerdd Dant ac Emrys Cynnan, Ceidwad y Cledd.
Ond - mae gan Mrs Florence Cassaragi, y perchennog un broblem fach ar ddechrau'r ŵyl - llygod, pla o lygod. Ond tydi hi ddim am ddweud…fuasech chi?
Beth allai fynd o'i le?
Ffars ddoniol gan Gwynedd Huws Jones yn cael ei pherfformio gan griw Ffermwyr Ifanc Rhosybol
Bydd côr Hogia Bodwrog hefyd yn rhan o'r noson arbennig hon.
Location
Theatr Fach Llangefni, LL77 7LA