3 Drama : Theatr Bara Caws
Wed 2 Apr 2025 7:30 PM - 9:30 PM
Theatr Fach Llangefni, LL77 7LA
Description
Mae 4 awdur wedi eu comisiynu i ‘sgwennu pedair comedi/drama ysgafn yn sgil prosiect Sgen ti Syniad? (2)
Bydd 3 yn teithio ym mis Mawrth ac Ebrill dan yr enw 3 Drama:-
Dishgled ‘da Del - Cai Llewelyn Evans 🎧
Mae’r shock jock carismatig Del Tozer yn cyffroi ei gwrandawyr selog ar TARAN FM yn ddyddiol gyda’i sylwadau milain ar fywyd modern. Ond pan ddaw gwestai ifanc â phersbectif amgen ar y byd a phechodau’r gorffennol i mewn i’r stiwdio, a oes perygl mai hanes Del ei hun fydd yn cael ei roi o dan y chwyddwydr?
Wisgi - Carwyn Blayney 🥃
Ers gorffen gyda’i gariad, Wini, mae Gwion yn gweld nad yw’n gallu fforddio byw ar ben ei hun. Diolch byth, mae ei hen ffrind, Iwan, angen gwely. Ond yw pethau wir ar ben rhwng Gwion a Wini?
Drama ysgafn am dri pherson hunanol yn ymladd dros lety yn ystod yr argyfwng costau byw.
99'er - Ceri Ashe 🍦
Pan mae tad Elen yn marw yn sydyn, mae'n neidio ar y trên nesaf o Lundain nôl i Sir Benfro, ac yna'n ffeindio’i hun yn gweithio yn fan hufen iâ’r teulu:
"Pan ti’n ifanc a meddwl am bod yn thirties ti, ti’n meddwl, wow, byddai mor sorted erbyn ‘nny - prynu tŷ, job teidi, dim overdraft….blinco - a bam it’s your thirties a ‘sdim lot wedi newid!”
Canllaw oed 14 +
Peth defnydd o iaith gref
CAST
3 awdur + 3 drama = 5 actor + 9 cymeriad!
Byddwn yn croesawu Siôn Emyr a Mali O’Donnell nôl at y Cwmni; piciodd Mark Henry-Davies mewn am benwythnos o waith Y&D ar y dramâu; a dyma’r tro cyntaf bydd Elena Carys-Thomas a Gareth John Bale yn gweithio hefo ni. Bydd Gareth hefyd yn cyfarwyddo un o’r dramau.
Location
Theatr Fach Llangefni, LL77 7LA