Noson o hel atgofion : Dathlu'r 70
Noson o hel atgofion am y 70 mlynedd ddiwethaf yn Theatr Fach Llangefni, wrth i ni nodi carreg filltir arbennig eleni.
Dewch draw i wrando ar straeon a sgyrsiau difyr gan nifer o wynebau cyfarwydd yn y theatr.
Dr Manon Wyn Williams fydd yn llywio'r sgwrs gyda Marlyn Samuel, Iwan Evans, Catrin Jones-Hughes, Lowri Cêt, Audrey Jones a Carwyn Jones.
Bydd cyfle hefyd i chi weld arddangosfeydd o hen luniau, sgriptiau, gwisgoedd ac ati. Cyfle hefyd i rannu'ch atgofion chithau hefyd o'r theatr mewn blwch atgofion arbennig.
(Os ydych yn aelod o'r Theatr, mae modd i chi hawlio tocyn am ddim, cysylltwch ag aelod o'r pwyllgor neu ebostiwch y theatr - post@theatrfachllangefni.cymru)
Location
Theatr Fach Llangefni, LL77 7LA