STAMP
STAMP
Need help?
Hanes y cyn-bostfeistr o Fôn, Noel Thomas, a gafodd ei garcharu ar gam i'w weld am y tro cyntaf ar lwyfan.
Mae STAMP yn addasiad gan Catrin Jones Hughes o lyfrau Aled Jôb “Llythyr Noel” a “Stamp of innocence” sy’n adrodd hanes a bywyd y cyn-bostfeistr, Noel Thomas.
Cafodd ei gyhuddo ar gam o gadw cyfrifon ffug fel rhan o sgandal Horizon. Fe gafodd ei garcharu am naw mis yn 2006 ar ôl i £48,000 fynd ar goll o’i gyfrifon. Daeth i'r amlwg yn ddiweddarach bod hyn o ganlyniad i nam ar feddalwedd Horizon Swyddfa'r Post, ac fe gafodd ei euogfarn ei gwrthdroi yn 2021.
Am y tro cyntaf, bydd cyfle i weld yr hanes yn fyw ar y llwyfan. Drama wreiddiol yn cael ei pherfformio gan gwmni Theatr Fach Llangefni.
**THIS IS A WELSH-LANGUAGE PRODUCTION**
Location
Theatr Fach Llangefni, LL77 7LA