Parti Theatr : Llygoden y Llwyfan
Dewch i fwynhau bore o hwyl yn y theatr gyda’r awdures plant, Catrin Angharad Jones!
Dyma sesiwn addas i blant 4 i 7 oed sy’n mwynhau straeon, canu, dawnsio a pherfformio, dylunio neu fwyta danteithion!
Bydd cyfle i’r plant fwynhau llu o weithgareddau mewn awyrgylch hamddenol yng nghofal Catrin ac aelodau’r theatr.
Bydd rhaid cael oedolyn i oruchwylio pob plentyn ond bydd bar y theatr ar agor i rieni/gofalwyr a bydd cyfle i ymlacio ac archebu paned a theisen pe dymunir tra bo’r sesiwn ymlaen.
Bydd y plant yn derbyn diod a danteithion fel rhan o’r arlwy a chawn gloi’r cyfan drwy roi cyfle i’r plant berfformio caneuon cyfarwydd i’w rheini a gofalwyr yn yr awditoriwm.
Dyma gyfle unigryw i danio cariad ein plant at ddarllen, y theatr a’u cymuned.
Niferoedd cyfyngedig felly bachwch eich tocyn
9:45 - 10:00 - Cofrestru + Bar/Caffi yn agor i rieni
11:30 - 11:40 - Diod a danteithion (Cyntedd)
12:15 - 12:30 - Perfformiad i’r rhieni/gwarchodwyr yn yr Awditoriwm
12:30 - Adra
Location
Theatr Fach Llangefni, LL77 7LA