Dadra : Theatr Bara Caws
Dadra gan Gruffudd Owen
Mae Euros newydd ddod yn dad am y tro cyntaf… a gan fod Catrin ei wraig yn ddoctor a bod Euros, wel… ddim, mae o am aros adra i fagu’r bychan. Neis de? Na. Mae magu babi’n waith anodd, diflas ag unig. Ella bod o ddim wedi cael ei wneud ar gyfer y joban yma wedi’r cwbl?
Cast: Owen Alun, Manon Wilkinson, Melangell Dolma
Cyfarwyddo: Ffion Dafis
Canllaw oed: 16+
Location
Theatr Fach Llangefni, LL77 7LA