Skip to main content
  • Pantomeim : Gwrachod Llanddona
1 of 3

Pantomeim : Gwrachod Llanddona

Multiple dates and times Theatr Fach Llangefni, LL77 7LA

Pantomeim : Gwrachod Llanddona

Multiple dates and times Theatr Fach Llangefni, LL77 7LA

Need help?

Manage tickets

Mae hi bron yn Nadolig, ac mae ‘na rywbeth rhyfedd iawn ar droed yn Llanddona.

Wrth i holl drigolion y pentref baratoi at gystadleuaeth addurno’r pentref eleni, mae llawer un yn clywed sibrydion am hen hen hanes Gwrachod Llanddona. Ai chwedl wirion yw hon, neu stori wir ddychrynllyd?

Wrth i Cled a Ted ddarllen hanes y gwrachod yn eu ‘Llyfr Swynion Sgeri’ yn y goedwig - mae rhywbeth rhyfedd iawn iawn yn digwydd. Beth tybed?

A fydd Gwrachod Llanddona yn dychwelyd i’r pentref eleni i greu hafoc a miri? A fydd Dona a’i mab Goronwy yn llwyddo i addurno eu cartref cyn y gystadleuaeth fawr? A fydd Llanddona yn cael llonydd gan y gwrachod cas?

Dewch draw i Theatr Fach Llangefni i ddathlu’r Nadolig mewn steil unwaith eto eleni.

Location

Theatr Fach Llangefni, LL77 7LA