Theatr Fach Llangefni
Y Werin Wydr

Y Werin Wydr

Multiple dates and times

Theatr Fach Llangefni, LL77 7LA

Y Werin Wydr

Multiple dates and times

Theatr Fach Llangefni, LL77 7LA

Description

Cynhyrchiad diweddaraf Theatr Fach Llangefni yw cyfieithiad o’r clasur Americaniadd “The Glass Menagerie” gan Tennessee Williams. Hanes teulu’r Wingfield a gawn. Credir mai hon yw’r ddrama agosaf at hanes bywyd y dramodydd ei hun ac mai ef yn wir yw Tom, storiwr y ddrama gan mai enw go iawn Tennessee oedd Thomas. Drama atgof yw hi drwy lygaid Tom ond mae hefyd yn gymeriad yn y ddrama.

Gweithia Tom mewn ffatri esgidiau, mewn swydd ddiflas mae’n ei chasáu. Mae’r teulu yn dibynnu ar ei gyflog pitw gan bod y tad wedi eu gadael. Mae Tom hefyd yn breuddwydio am ddianc ond mae'n pryderu am ddyfodol Laura, ei chwaer swil ac anabl. Mae Amanda y fam yn ysu am ddyddiau ei hieuenctid pan oedd yn boblogaidd ac yn byw bywyd moethus a chysurus. Ni all amgyffred pam na ddaw ‘ymwelwyr bonheddig’ i alw ar Laura fel yr oeddynt iddi hithau pan yn iau. Dan bwysau gan ei fam, mae Tom yn trefnu i ŵr ifanc alw. Beth all fynd o’i le?

Rydym mor ffodus o groesawu wynebau newydd i lwyfan Theatr Fach sef Ceuron Parry yn actio Tom, Teleri Mair yn actio’r fam, Gareth Thomas yn actio’r ymwelydd bonheddig yn ogystal â chroesawu Bethan Elin yn ei hôl ar gyfer portreadu Laura, y ferch eiddil sydd yr un mor fregus â’r anifeiliaid bach gwydr y mae hi’n dotio arnynt.

Location

Theatr Fach Llangefni, LL77 7LA

Tocynnau | Tickets

Share this event

Need help?

Contact the event organiser


Event ticketing by Ticket Tailor

Need help? Contact the event organiser Privacy Policy