WALES Gwledd Hadau | Seed Feast
[*SCROLL DOWN FOR ENGLISH*]
MAE GWAHODDIAD I CHI ymuno â’r Seed Sovereignty Programme gan Gaia Foundation a Porthi Aber am wledd hadau arbennig, gyda phedair stori am hadau.
Bydd y cogydd Zac Dutton o The Dreaming yn paratoi gwledd amlddiwylliannol ar ein cyfer, gan gyflwyno ciwcymbr o Syria, ffa barlotti District Nurse, cymysgedd o fresych deiliog Homesteaders a gwenith Hen Gymru. Byddwn yn clywed straeon gan bedwar tyfwr hadau, a fydd yn rhannu pwysigrwydd yr hadau hyn drwy drafod adfywio hadau, eu dosbarthu, undod rhyngwladol ac amrywiaeth genetig ar gyfer y dyfodol.
Ymunwch â ni nid yn unig i glywed am sofraniaeth hadau, ond i'w blasu hefyd. Mae amrywiaeth hadau yn allweddol i'n dyfodol, ac mae'n flasus hefyd!
Bydd yr holl fwyd yn llysieuol (gallwch archebu opsiynau fegan wrth dalu).
Archebu yn hanfodol. Mae pris y tocyn yn cynnwys mynediad a bwyd. Bydd bar ar agor lle gallwch brynu diodydd alcoholig a di-alcohol.
Pris llawn y tocyn yw £25 y pen. Mae Seed Sovereignty gan The Gaia Foundation yn gallu cynnig nifer gyfyngedig o docynnau â chymhorthdal a thocynnau bwrsari i'r rhai sydd eu hangen. Ar gyfer tocynnau â chymhorthdal, dewiswch yr opsiwn hwn wrth dalu. Ar gyfer tocynnau bwrsari llawn, cysylltwch â katie@gaianet.org.
Lleoliad: Cyfeiriad Porthi Aber: Hwb Porthi Aber, 5 Y Stryd Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 1DE . Mae'r lleoliad yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Nid oes parcio y tu allan i'r lleoliad, ac mae nifer cyfyngedig o leoedd parcio ar gael ar y strydoedd cyfagos. Mae meysydd parcio Talu ac Arddangos Cyngor Sir Ceredigion gerllaw (tua 10 munud ar droed, ym meysydd parcio Coedlan y Parc a Ffordd y Gogledd), yn ogystal â pharcio ar Bromenâd Aberystwyth a Maes Parcio Eglwys Sant Mihangel. Mae gorsaf drên a gorsaf fysiau Aberystwyth tua 5 munud ar droed o'r lleoliad.
----------
YOU ARE INVITED to join the Gaia Foundation’s Seed Sovereignty Programme and Porthi Aber for a special seed feast, featuring four seed stories.
Chef Zac Dutton from The Dreaming will prepare a multi-cultural feast for us, showcasing the Syrian cucumber, District Nurse barlotti bean, Homesteaders kale mix and Hen Gymru wheat. We will hear stories from four seed growers, sharing the importance of these seeds from the perspective of seed revival, seed distribution, international solidarity and genetic diversity for the future.
Join us to not only hear about seed sovereignty, but taste it too. Seed diversity is essential for our future survival, but it is also tasty!
Tickets include entry and a special multi course meal. Booking is essential.
There will be a bar open to purchase alcoholic and non alcoholic drinks.
All food will be vegetarian (vegan options can be booked at checkout).
Full ticket price is £25 per person. The Gaia Foundation’s Seed Sovereignty is able to offer a limited number of subsidised and bursary tickets to those who need them. For subsidised tickets - please self select at checkout. For full bursary tickets - contact katie@gaianet.org.
Venue: Hwb Porthi Aber, 5 Great Darkgate Street, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 1DE. The venue is wheelchair accessible.
Parking: There is no parking outside the venue, with limited on-street parking on adjacent streets. There are Pay and Display Ceredigion County Council car parks nearby (approx 10 minutes walk, at Park Avenue and North Road Park), as well as parking on the Aberystwyth Promenade, and St. Michael’s Church Car Park. Aberystwyth Railway and Bus Stations are 5 minutes walk from the venue.





Location
Porthi Aber, Great Darkgate Street, Aberystwyth, SY23 1DE