Skip to main content
  • Cyhoeddi deunydd ffeithiol ar gyfer y darllenydd cyffredinol | Publishing non-fiction for the general reader
1 of 3

Cyhoeddi deunydd ffeithiol ar gyfer y darllenydd cyffredinol | Publishing non-fiction for the general reader

Tue 24 Feb 2026 1:00 PM - 2:00 PM GMT Online, Zoom

Cyhoeddi deunydd ffeithiol ar gyfer y darllenydd cyffredinol | Publishing non-fiction for the general reader

Tue 24 Feb 2026 1:00 PM - 2:00 PM GMT Online, Zoom

Need help?

Manage tickets

(for English, see below - please note, this session will be delivered in English)

24ain Chwefror 2026 | 1:00-2:00 pm | Zoom

Bwriad y sesiwn weithdy ryngweithiol hon yw annog ymchwilwyr i gyhoeddi deunyddiau ffeithiol drwy ddysgu strategaethau o safbwyntiau’r awdur a’r golygydd. Mae’n bleser mawr gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru gydweithio â’n Cymrawd, yr Athro Hanna Diamond (Athro Emerita Hanes Ffrainc, Prifysgol Caerdydd) a Joanna Godfery (Uwch Olygydd Comisiynu, Gwasg Prifysgol Yale Llundain) i gynnal y sesiwn hon sy’n agored i ymchwilwyr gyrfa gynnar a chanol gyrfa yng Nghymru.

Bydd Jo Godfery yn defnyddio ei phrofiad yn Yale i amlinellu’r prif egwyddorion ar gyfer datblygu llyfr masnachol llwyddiannus. Bydd Jo yn cynnig awgrymiadau ar sut all ymchwilwyr feddwl am bynciau sydd o ddiddordeb i gynulleidfa eang, a datblygu arddull ysgrifennu hygyrch a chymhellol. Bydd hefyd yn trafod perthnasedd meithrin ymgysylltiad â’r cyhoedd er mwyn cynyddu dosbarthiad y llyfr ymysg y cyhoedd. Bydd Jo hefyd yn mynd i’r afael â phynciau cysylltiedig, gan gynnwys adolygu gan gymheiriaid a sut mae’r modelau hyn yn croestorri ag ysgolheictod ffeithiol.

Bydd yr Athro Hanna Diamond yn canolbwyntio ar y grefft o gydbwyso dyfnder ysgolheigaidd â natur ddarllenadwy. Yn seiliedig ar ei chyhoeddiad diweddar, ‘Josephine Baker’s Secret War’, bydd Hanna yn trafod sut y bu iddi integreiddio fframweithiau academaidd i gynnwys y llyfr, er enghraifft, sut yr ymdriniodd â thystiolaeth a ffynonellau mewn ffyrdd sy’n cyfrannu at y naratif a hynny wrth gynnal momentwm i ddarllenwyr cyffredinol. Yn ogystal, bydd Hanna yn myfyrio ar strategaethau i ennyn diddordeb cynulleidfaoedd ehangach mewn trafodaethau ysgolheigaidd ac yn trafod sut y gall cyhoeddiadau masnachol gyfrannu at gydnabyddiaeth academaidd, gan amlygu y gall llyfrau a anelir at ddarllenwyr cyffredinol gyflawni sgorau uchel mewn paneli REF a gweithio fel y sylfaen ar gyfer astudiaethau achos effaith REF.


Siaradwyr Gwadd:

  • Yr Athro Hanna Diamond (FLSW), Athro Emerita Hanes Ffrainc ym Mhrifysgol Caerdydd
    Mae Hanna Diamond yn Athro Emerita Hanes Ffrainc ym Mhrifysgol Caerdydd. Astudiodd ei gradd israddedig a’i PhD ym Mhrifysgol Sussex. Treuliodd sawl blwyddyn yn addysgu ac yn ymchwilio yn Ffrainc cyn derbyn swydd darlithydd ym Mhrifysgol Caerfaddon ym 1993. Fe’i penodwyd yn gadeirydd ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2014.
    Yn arbenigwr ar hanes cymdeithasol a diwylliannol Ffrainc yn ystod yr Ail Ryfel Byd, mae wedi cyhoeddi’n helaeth ar y cyfnod, gan gynnwys, Fleeing Hitler: France 1940 (2007) ac Women and the Second World War in France 1939-48 (1999). Yn rheolaidd, mae’n cynghori ar gynhyrchu ffilmiau a deunyddiau i’r cyfryngau yn ogystal â gweithio ag amgueddfeydd, yn nodedig - y Musée de la Libération de Paris lle y bu iddi gyd-guradu arddangosfa ar ecsodus Ffrainc 1940. 
  • Joanna Godfrey, Uwch Olygydd Comisynu, Gwasg Prifysgol Yale Llundain
    Jo Godfrey yw’r Uwch Olygydd Comisiynu ar gyfer Hanes Modern a Materion Cyfoes yng Ngwasg Prifysgol Yale Llundain. Mae wedi gweithio yn y byd cyhoeddi ffeithiol am bron i ugain mlynedd ac yn y gorffennol mae wedi gweithio yn OUP, I.B.Tauris a Bloomsbury. 


Agenda:

  • 1.00-1.05pm: Croeso a Chyflwyniad 
  • 1.05- 1.20pm: Ysgrifennu Llyfrau Cyffredinol - Mewnwelediadau o Yale
    Deall apêl y gynulleidf
    - Ysgrifennu strategaethau ar gyfer darllenwyr cyffredinol
    - Adeiladu platfform sy’n wynebu’r cyhoedd ac ymgysylltu â’r cyfryngau
    - Ystyriaethau adolygiadau cyfoedion
  • 1.20-1.35pm: Cydbwyso Ysgolheictod a Hygyrchedd
    - Defnyddio troednodiadau i ddiogelu fframweithiau academaidd
    - Plethu tystiolaeth a ffynonellau mewn naratif
    - Cynnal diddordeb darllenwyr a chynnal dyfnder ysgolheigaidd ar yr un pryd
    - Strategaethau i gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach a dylanwad posibl o ran y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil
  • 1.35-1.45pm: Grwpiau Trafod
    Meddyliwch am eich hoff lyfr ffeithiol, llyfr a ddaliodd eich diddordeb fel darllenydd cyffredinol, gan gyfleu syniadau cymhleth a thrafodaethau ysgolheigaidd ar yr un pryd, a myfyriwch ar y cwestiynau canlynol:
    (1) Pa 2-3 elfen a gynhaliodd eich diddordeb fel darllenydd? Yn eich barn chi, pam oedd y nodweddion hyn yn effeithiol o ran gwneud syniadau cymhleth yn hygyrch?
    (2) Petaech yn dechrau ysgrifennu eich llyfr ffeithiol eich hun sy’n pontio dyfnder academaidd â diddordeb cyffredinol, beth fyddai eich her fwyaf a pham?
  • 1.45-1.55pmSesiwn Holi ac Ateb 
  • 1.55 - 2.00pm: Sylwadau i Gloi


Amdano'r Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar Cymdeithas Ddysgedig Cymru:

Mae’r Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar yn rhwydwaith rhyngddisgyblaethol o ymchwilwyr sy’n gweithio ledled Cymru ac sydd yng nghamau cynnar eu gyrfaoedd. Mae’r Rhwydwaith yn cefnogi ymchwilwyr i dyfu eu rhwydweithiau ymchwil, cymryd rhan mewn cyfleoedd cydweithredol a rhyngddisgyblaethol, cael hyfforddiant, a dod o hyd i ffyrdd newydd o greu effaith gydag ymchwil.

-

24th February 2026 | 1:00-2:00 pm | Zoom

This interactive workshop session aims to encourage researchers to publish non-fiction by learning strategies from the writer's and editor’s points of view. The Learned Society of Wales is delighted to be collaborating with our Fellow, Professor Hanna Diamond (Professor Emerita of French History, Cardiff University) and Joanna Godfrey (Senior Commissioning Editor, Yale University Press London) to host this session open to early and mid-career researchers in Wales.

Jo Godfrey will draw on her experience at Yale to outline key principles for developing a successful trade book. Jo will provide suggestions on how researchers can identify subjects with broad audience appeal, shape an accessible and compelling writing style, and discuss the relevance of building public-facing engagement to increase the book's dissemination to the general public. Jo will also address related topics, including peer review and how these models intersect with non-fiction scholarship.

Professor Hanna Diamond will focus on the craft of balancing scholarly depth with readability. Based on her recent publication, ‘Josephine Baker’s Secret War’, Hanna will discuss how she integrated an academic frameworks into the book's writing, for instance, how she handled evidence and sources in ways that inform the narrative while maintaining momentum for general readers. Hanna will also reflect on strategies for engaging wider audiences in scholarly debates and discuss how trade publications can contribute to academic recognition, highlighting that books aimed at general readers can achieve high scores in REF panels and serve as the foundation for REF impact case studies.


Guest Speakers:

  • Professor Hanna Diamond (FLSW), Professor Emerita of French History, Cardiff University
    Hanna Diamond is professor emerita of French History at Cardiff University. She did both her undergraduate degree and PhD at the University of Sussex. She spent several years teaching and researching in France before taking up a lectureship at the University of Bath in 1993. She was appointed to a chair at Cardiff University in 2014.
    An expert on the social and cultural history of France during the Second World War, she has published widely on the period including, Fleeing Hitler: France 1940 (2007) and Women and the Second World War in France 1939-48 (1999). She regularly advises in media and film production as well as working with museums notably the Musée de la Libération de Paris where she co-curated an exhibition on the French exodus of 1940.
  • Joanna Godfrey, Senior Commissioning Editor, Yale University Press London.
    Jo Godfrey is Senior Commissioning Editor for Modern History and Current Affairs at Yale University Press London. She has worked in non-fiction publishing for almost twenty years and previously held roles at OUP, I.B.Tauris and Bloomsbury.


Agenda:

  • 1.00-1.05pm: Welcome and Introductions
  • 1.05-1.20pm: Writing Trade Books - Insights from Yale
    Understanding audience appeal
    - Writing strategies for general readers
    - Building a public-facing platform and engaging with media
    - Peer review considerations
  • 1.20-1.35pm: Balancing Scholarship and Accessibility
    Using footnotes to preserve academic frameworks
    - Weaving evidence and sources into a narrative
    - Keeping readers engaged while maintaining scholarly depth
    - Strategies for reaching wider audiences and REF impact potential
  • 1.35-1.45pm: Breakout Rooms
    Please think about your favourite non-fiction book, one that engaged you as a general reader while also conveying complex ideas and scholarly debates, and reflect on the following questions:
    (1) What are 2–3 elements that kept you engaged as a reader? Why do you think these features were effective in making complex ideas accessible?
    (2) If you were to start writing your own non-fiction book that bridges academic depth with general interest, what do you think would be most challenging for you, and why
  • 1.45-1.55pm: Question and Answers
  • 1.55-2.00pm: Closing Remarks

About the Learned Society of Wales' Early Career Researchers Network:

The Learned Society of Wales' Early Career Researchers (ECR) Network is an interdisciplinary network of researchers working across Wales who are in the early stages of their careers. The Network supports researchers to grow their research networks, engage in collaborative and interdisciplinary opportunities, receive training, and discover new ways of creating impact with research. Find out more:

If you have any questions about this webinar, or any of our other opportunities, you can email us at: researcherdevelopment@lsw.wales.ac.uk