Colcowiwm YGC 2026 | ECR Colloquium 2026

[for English, see below]
A ydych yn Ymchwilydd Gyrfa Gynnar sy’n awyddus i ehangu eich rhwydweithiau, darganfod cyfleoedd newydd i gydweithio, a datblygu eich proffil ymchwil?
Ymunwch â Chymdeithas Ddysgedig Cymru ar gyfer 4ydd Colocwiwm Blynyddol y Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar, lle cewch gyfle i wneud y canlynol:
- Clywed am y gwaith ymchwil diweddaraf sy’n digwydd yng Nghymru
- Creu cysylltiadau gydag ymchwilwyr, Cymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru, llunwyr polisïau, ymarferwyr, a gweithwyr proffesiynol o’r byd academaidd, y byd diwydiant, y sector cyhoeddus a sefydliadau nid-er-elw.
- Meithrin eich sgiliau trwy gyfrwng gwahanol fathau o hyfforddiant a chyfleoedd datblygu.
Pleser yw cynnal y Colocwiwm yn Aberystwyth eleni. Cyd-ddatblygwyd rhaglen y Colocwiwm gan ein Grŵp Cynghori Rhyngddisgyblaethol ar gyfer Datblygu Ymchwilwyr a’n Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar ym Mhrifysgol Aberystwyth, a fydd yn helpu i sicrhau y bydd y rhaglen yn diwallu anghenion datblygu ymchwilwyr yng Nghymru.
Rydym yn annog ymchwilwyr sy’n gweithio oddi mewn ac oddi allan i’r byd academaidd i fynychu’r Colocwiwm. Byddem hefyd yn croesawu ymchwilwyr sy’n cymryd seibiant yn eu gyrfa ar hyn o bryd ac sy’n bwriadu dychwelyd at ymchwilio yn y dyfodol.
Ffotograffiaeth
Bydd ffotograffau’n cael eu tynnu drwy gydol y digwyddiad. Os nad ydych yn dymuno cael eich cynnwys mewn unrhyw ddelweddau, rhowch wybod i’r ffotograffydd neu i aelod staff Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
Teithio a Llety Dros Nos
Bydd y Colocwiwm yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Gynadleddau Medrus ym Mhrifysgol Aberystwyth. Gellir cael gwybodaeth am sut i gyrraedd y lleoliad yma.
Rydym yn cefnogi presenoldeb ymchwilwyr gyrfa gynnar drwy ddarparu bwrsariaethau teithio a llety. Mae pob bwrsariaeth sydd ar gael bellach wedi’i dyrannu ac nid ydym yn derbyn ceisiadau newydd mwyach. Rydym yn dal i allu cynnig llety y gellir ei archebu ym mhreswylfa’r brifysgol am bris gostyngedig o £75 + TAW ar gyfer noson 29 Mehefin.
Os hoffech archebu llety dros nos ym mhreswylfa’r brifysgol drwyom ni, cysylltwch â ni’n uniongyrchol drwy e-bost ar researcherdevelopment@lsw.wales.ac.uk. Yna, byddwn yn darparu rhagor o wybodaeth am drefnu a thalu am eich llety.
Hygyrchedd
Os oes gennych anghenion hygyrchedd neu os hoffech drafod sut y gallwn eich cynorthwyo i gyfranogi, mae croeso ichi gysylltu â ni ymlaen llaw ar researcherdevelopment@lsw.wales.ac.uk, neu gallwch siarad ag aelod staff ar y diwrnod.
Sylwer: bydd y broses gofrestru’n cau ar 12 Mehefin 2026, neu ynghynt pe bai’r digwyddiad yn llenwi.
Lleoliad
Prifysgol Aberystwyth, Penbryn, Penglais, SY23 3BY
______________
Are you an Early Career Researcher looking to expand your networks, discover new collaboration opportunities, and grow your research profile?
Join the Learned Society of Wales for the 4th Annual Early-Career Researchers Network Colloquium, where you’ll have the chance to:
- Hear about the latest research happening in Wales
- Build connections with researchers, Fellows of the Society, policymakers, practitioners, and professionals across academia, industry, the public sector, and not-for-profit organisations
- Develop your skills through a variety of training and development opportunities
We are delighted to be hosting this year’s Colloquium in Aberystwyth. The Colloquium programme has been co-developed by our interdisciplinary Advisory Group for Researcher Development and Early-Career Researchers Network at Aberystwyth University , who will help to make sure that the programme meets the professional development needs of researchers in Wales.
Researchers working within and outside of academia are encouraged to attend. We also welcome researchers who are currently on a career break for any reason and intend to return to research in the future.
Photography
Photographs will be taken throughout the event, if you do not wish to be included in any images please notify the photographer or a LSW staff member.
Travel and Overnight Accommodation
The Colloquium will be held at MedRus Conference Centre at Aberystwyth University. Information on how to travel to the venue is available here.
Accessibility
If you have any accessibility requirements or would like to discuss how we can support your participation, please do not hesitate to contact us at researcherdevelopment@lsw.wales.ac.uk in advance, or speak to a member of staff on the day.
Please note that registration will close on 12 June 2026, or earlier if the event reaches full capacity.
Location
Aberystwyth University, Penbryn, Penglais, SY23 3BY