Gweminar: Adeiladu Seilwaith Ymchwil Cymraeg | Webinar: Building a Welsh Language Research Infrastructure
Gweminar: Adeiladu Seilwaith Ymchwil Cymraeg | Webinar: Building a Welsh Language Research Infrastructure
Share this event
Need help?
Creu Seilwaith Ymchwil Iaith Gymraeg: Mynediad, Hyder, a’r Llwybr i Addysg Uwch
Dydd Llun 21 Medi, 10am - 11:30am
Gydag uchelgais i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae sicrhau bod modd gweld a defnyddio’r iaith ar hyd a lled addysg uwch ac ymchwil yn ganolog i ddyfodol Cymru. Ac eto, er gwaethaf niferoedd cynyddol o blant yn mynd i mewn i addysg cyfrwng Cymraeg, mae bwlch yn dal i fod rhwng ysgolion a phrifysgolion, sydd wedi’i ddylanwadu gan hyder, safonau a chefnogaeth sefydliadol dros ddefnyddio Cymraeg yn broffesiynol ac yn academaidd.
Mae’r weminar hon yn dwyn ynghyd ymchwilwyr, llunwyr polisi, a chyrff sector i edrych ar y bwlch hwnnw o sawl ongl. Bydd siaradwyr yn ystyried sut mae cywilydd ieithyddol ynghylch Cymraeg “cywir” yn effeithio ar fyfyrwyr ymhell cyn iddynt gyrraedd addysg uwch, sut mae’r gagendor rhwng siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf ac ail iaith yn creu rhwystrau i’r rhai sy’n mynd i mewn i astudiaeth cyfrwng Cymraeg drwy’r llwybr ail iaith, a sut mae’r grymoedd hyn yn gweithio ym meysydd fel STEM, lle mae ymchwil cyfrwng Cymraeg yn parhau i fod yn anghyffredin ond yn cael ei meithrin yn weithredol. Bydd y sesiwn hefyd yn ystyried y seilwaith polisi a sefydliadol sy’n llywio’r dirwedd hon, o gyfrifoldebau strategol Medr dros addysg drydyddol ac ymchwil cyfrwng Cymraeg, i waith uniongyrchol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cefnogi dysgwyr ac ymchwilwyr i astudio a gweithio’n hyderus yn y Gymraeg.
Wedi'i cadeirio gan Yr Athro Enlli Thomas FSLW, ymhlith y siaradwyr bydd Dr Katharine Young, Dr Owain Beynon, Dr Gwennan Higham, Dr Bedwyr ab Ion Thomas (Medr), a Dr Manon James (Coleg Cymraeg Cenedlaethol).
Bydd y sesiwn yn cynnwys cyflwyniadau byr gan bob siaradwr, ac yna sesiwn holi ac ateb agored i ddilyn. Mae croeso i gyfranogwyr gyflwyno cwestiynau ymlaen llaw i researcherdevelopment@lsw.wales.ac.uk.
Sylwer: cyflwynir y digwyddiad hwn yn ddwyieithog, gyda chyfieithu ar y pryd ar gael.
----------
Building a Welsh Language Research Infrastructure: Access, Confidence, and the Path into Higher Education
Monday 21 September, 10am - 11:30am
With an ambition to reach one million Welsh speakers by 2050, ensuring the language is visible and usable across higher education and research is central to Wales's future. Yet despite growing numbers of children entering Welsh-medium education, a gap remains between school and university, shaped by confidence, standards, and institutional support for using Welsh professionally and academically.
This webinar brings together researchers, policymakers, and sector bodies to explore that gap from multiple angles. Speakers will examine how linguistic shame around "correct" Welsh affects students long before they reach higher education, how the divide between first- and second-language Welsh speakers creates barriers for those entering Welsh-medium study through the second-language route, and how these dynamics play out in fields like STEM, where Welsh-medium research remains rare but is being actively built. The session will also consider the policy and institutional infrastructure shaping this landscape, from Medr's strategic responsibilities for Welsh-medium tertiary education and research, to Coleg Cymraeg Cenedlaethol's direct work supporting learners and researchers to study and work confidently in Welsh.
Chaired by Professor Enlli Thomas FLSW, speakers include Dr Katharine Young, Dr Owain Beynon, Dr Gwennan Higham, Dr Bedwyr ab Ion Thomas (Medr), and Dr Manon James (Coleg Cymraeg Cenedlaethol).
The session will include short presentations from each speaker, followed by an open Q&A. Participants are welcome to submit questions in advance to researcherdevelopment@lsw.wales.ac.uk.
Please note: this event will be delivered bilingually, with simultaneous translation available.
----------
Cadeirydd: Yr Athro Enlli Thomas FLSW
Mae’r Athro Thomas ymhlith sylfaenwyr cynnar a dylanwadol addysgu cyfrwng Cymraeg mewn Addysg Uwch. Ei phrif ddiddordebau ymchwil a’i harbenigedd yw ymagweddau seicoieithyddol at astudio’r broses o gaffael iaith mewn sefyllfa ddwyieithog; asesu dwyieithrwydd; ac ymagweddau addysg at drosglwyddo, caffael a defnyddio iaith. Mae agweddau ar ei gwaith wedi cael effaith uniongyrchol ar bolisi iaith mewn addysg, ac ar weithdrefnau i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ymhlith plant.
Dr Katharine Young
Mae'r Gymraeg wedi bod yn destun mesurau gormesol a chosbol dros y canrifoedd, gyda'r bwriad o gyfyngu ar ei defnydd, gan gyfrannu at ddirywiad hirdymor yn nifer y siaradwyr. Er bod ymdrechion diweddar i adfywio'r iaith wedi arwain at gynnydd yn nifer y plant sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg, mae cywilydd ieithyddol yn parhau, ond nid ynghylch defnyddio'r iaith ei hun, ond yn hytrach, mae'n ymwneud â defnyddio'r “fath gywir” o Gymraeg. Gan dynnu ar ddata gan athrawon ar draws y wlad, mae'r cyflwyniad hwn yn archwilio canfyddiadau athrawon o’r ffordd mae pobl ifanc yn gwyrio oddi wrth iaith safonol, ynghyd â’u defnydd o Gymraeg lafar. Mae hefyd yn ystyried sut y gall agweddau o'r fath beri i fyfyrwyr deimlo'n amharod i ddefnyddio'r Gymraeg mewn Addysg Uwch, sydd â goblygiadau pwysig i ddefnydd yr iaith mewn oedolion.
Mae Dr Katharine Young yn Ddarlithydd Dulliau Ymchwil Dwyieithog, ac mae ei gwaith yn canolbwyntio ar ddwyieithrwydd, sosioieithyddiaeth, addysg ieithyddol, ac ieithyddiaeth gymhwysol. Mae ei hymchwil yn archwilio dysgu a defnyddio ieithoedd mewn amrywiaeth o gyd-destunau addysgol a chymunedol, gyda diddordeb penodol ym mhrofiadau newydd-ddyfodiaid, polisi iaith, a dulliau ymchwil ar gyfer astudio poblogaethau amlieithog. Mae Dr Young yn gydweithredwr ymchwil gweithgar ac mae wedi cyfrannu at brosiectau rhyngddisgyblaethol sy'n archwilio amrywiaeth ieithyddol, cynhwysiant, a thegwch addysgol. Mae wedi ymrwymo i ddatblygu ymchwil gadarn sydd wedi'i gwreiddio mewn ymgysylltu cymdeithasol, ac i gefnogi myfyrwyr ac ymchwilwyr i gynnal ymchwil dwyieithog ac amlieithog o'r safon uchaf.
Dr Owain Beynon
Gydag uchelgais i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 mae angen gwneud yr iaith yn weladwy ym mhob agwedd ar fywyd yng Nghymru. Mae addysg uwch ac ymchwil wrth wraidd cyflawni’r nod hwn ac mae gwneud defnyddio’r iaith yn rhywbeth arferol yn y sectorau hyn, yn enwedig yn STEM, yn hollbwysig. Bydd pwyslais y sgwrs ar ddwy agwedd. Yn gyntaf, tynnu ar brofiad personol, yr heriau a’r buddion o gynnal ymchwil wyddonol drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ail, yr ymdrechion parhaus i ehangu’r ddarpariaeth addysgu Cymraeg sydd i’w chael mewn pynciau STEM, gan ganolbwyntio ar brofiadau’r myfyrwyr.
Ar hyn o bryd, mae Owain yn ymchwilydd yn y Grŵp Theori ac Efelychu Deunyddiau yn Adran Ffiseg King’s College Llundain. Gyda’i PhD wedi’i gwblhau ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2023, ei draethawd ymchwil oedd y cyntaf ym maes cemeg i gael ei ysgrifennu drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ogystal â’i ddiddordebau ymchwil, mae Owain yn eirioli dros ddefnyddio’r Gymraeg mewn ymchwil wyddonol ac addysg, ac ynghyd â chydweithwyr o Brifysgol Caerdydd a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, trefnodd y gynhadledd gemeg gyntaf i gael ei chynnal drwy gyfrwng y Gymraeg ym mis Mai 2026.
Dr Gwennan Higham
Mae addysg uwch cyfrwng Cymraeg yn parhau i etifeddu gwahaniaeth deuaidd rhwng siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf ac ail iaith, gan greu heriau i fyfyrwyr sy’n dechrau eu graddau Cymraeg drwy’r llwybr ail iaith. Mae disgwyliadau bod myfyrwyr yn cyrraedd safonau iaith gyntaf o fewn cyfnod byr yn codi cwestiynau pwysig ynghylch mynediad, hyder a pherthyn. Gan dynnu ar fy mhrofiad o gefnogi israddedigion ac ymchwilwyr sy’n newydd i astudiaeth cyfrwng Cymraeg, rwy’n mynd ati i archwilio dulliau sy’n meithrin datblygiad iaith ochr yn ochr â hyder a chysylltiad academaidd, gan gynnwys myfyrio ar deithiau iaith, ymgysylltu â rhwydweithiau Cymraeg, a chyfleoedd i ddefnyddio Cymraeg y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Mae’r cyflwyniad yn ystyried sut mae llwybrau cynhwysol yn gallu cryfhau ysgoloriaeth Gymraeg yn y dyfodol.
Mae Dr Gwennan Higham yn Uwch Ddarlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, gan arbenigo mewn sosioieithyddiaeth y Gymraeg, dysgu iaith ac addysg gynhwysol. Mae ei gwaith yn canolbwyntio’n benodol ar gefnogi dysgwyr Cymraeg ail iaith a datblygu llwybrau cynhwysol i’r iaith Gymraeg. Mae ganddi brofiad helaeth o ddatblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer myfyrwyr ail iaith mewn addysg uwch, addysgu Cymraeg i Oedolion, a chefnogi myfyrwyr ymchwil sy’n newydd i’r Gymraeg. Mae ei hymchwil yn ystyried sut mae dysgwyr yn datblygu nid yn unig sgiliau iaith ond hefyd hyder, cysylltiad ac ymdeimlad o berthyn o fewn cymunedau Cymraeg. Mae hi hefyd yn ymchwilio i integreiddio ieithyddol, addysg ddwyieithog a mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg i gymunedau a dangynrychiolir.
Dr Bedwyr ab Ion Thomas
Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 yn rhoi cyfrifoldebau clir ar Medr i hyrwyddo, ariannu a rheoleiddio addysg drydyddol ac ymchwil drwy gyfrwng y Gymraeg. Gyda’r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Drydyddol yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, bydd y cyflwyniad hwn yn ystyried sefyllfa Ymchwil ac Arloesi o fewn y cynllun, sut mae Medr yn ceisio cyflawni ei ddyletswyddau a’i uchelgeisiau strategol o ran y Gymraeg, a beth mae hyn yn ei olygu i ddyfodol ymchwil cyfrwng Cymraeg. Bydd yn cloi gyda myfyrdodau ar ymgymryd ag ymchwil drwy gyfrwng y Gymraeg o safbwynt personol.
Mae Bedwyr yn Rheolwr Polisi’r Gymraeg ym Medr, gan gefnogi cyfrifoldebau strategol a statudol y sefydliad am y Gymraeg ar draws addysg drydyddol ac ymchwil. Mae ei waith yn canolbwyntio ar gynyddu cyfleoedd i astudio, hyfforddi, gweithio ac ymgymryd ag ymchwil drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae ganddo PhD mewn Cemeg Feddygol o Brifysgol Caerdydd a chwblhaodd ei ymchwil ddoethurol yn gyfan gwbl yn y Gymraeg, gan gyflwyno profiad ymchwil byw a pholisi i’w waith.
Dr Manon James
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol (y Coleg) yn creu a hyrwyddo cyfleoedd hyfforddi ac astudio yn y Gymraeg drwy weithio gyda cholegau addysg bellach, ysgolion, prifysgolion, darparwyr prentisiaethau a chyflogwyr. Yn 2023, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddynodi'r Coleg i gynghori Medr ar ei ddyletswyddau i gynyddu darpariaeth Gymraeg a dwyieithog yn y sector trydyddol ac i annog y galw yn unol â Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil 2022.
Nod y Coleg yw adeiladu system addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog sy’n hygyrch i bawb ac i ddatblygu gweithlu dwyieithog. Ar yr un pryd, mae’n ysbrydoli ac yn rhoi’r hyder i bawb ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg wrth hyfforddi, astudio a gweithio.
Yn ystod y cyflwyniad, rhennir gwybodaeth am gefndir y Coleg a sut y mae’n cefnogi dysgwyr i fanteisio ar y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sydd ar gael. Rhoddir sylw arbennig i ymchwilwyr, gan drafod cynllun ysgoloriaethau ymchwil y Coleg a’r gefnogaeth a ddarperir drwy’r rhaglen hyfforddiant sgiliau ymchwil.
Mae Dr Manon James yn gweithio fel Swyddog Rhaglenni Hyfforddiant ac Ymchwil gyda’r Coleg Cymraeg, yn bennaf yn gyfrifol am gydlynu’r cynllun ysgoloriaethau ymchwil ac yn trefnu a datblygu hyfforddiant sgiliau ymchwil cyfrwng Cymraeg.
----------
Chair: Professor Enlli Thomas FLSW
Professor Thomas, one of the early and influential founders of Welsh medium teaching in Higher Education, is Associate Pro-Vice Chancellor for Welsh at Bangor University. Her main research interests and expertise include psycholinguistic approaches to the study of bilingual language acquisition, bilingual assessment, and education approaches to language transmission, acquisition and use. Aspects of her work have had a direct impact on language policy in education and procedures to promote Welsh language use amongst children.
Dr Katharine Young
Cymraeg has a history of subversive and punitive measures aimed at limiting its use, contributing to a long-term decline in speakers. Recent revitalization efforts have increased the number of children attending Cymraeg schools, yet linguistic shame persists in schools, not around using the language itself, but around using the right kind of Cymraeg. Drawing on data from teachers across the country, this talk explores perceptions of young people’s deviations from the ‘standard’ and use of colloquial Welsh. It considers how such attitudes can leave students feeling ill-prepared to use Welsh in Higher Education, with significant implications for continued language use in adulthood.
Dr Katharine Young is a Lecturer in Bilingual Research Methods whose work focuses on bilingualism, sociolinguistics, language education, and applied linguistics. Her research explores language learning and use across diverse educational and community contexts, with a particular interest in newcomer experiences, language policy, and research methodologies for studying multilingual populations. Dr Young is an active research collaborator and has contributed to interdisciplinary projects examining linguistic diversity, inclusion, and educational equity. She is committed to advancing rigorous, socially engaged research and supporting students and researchers in conducting high-quality bilingual and multilingual inquiry.
Dr Owain Beynon
With the ambition of having one million Cymraeg speakers by 2050 there is a need to make the language visible in all aspects of Welsh life. Higher education and research is at the heart of achieving this goal and normalising the use of the language in these sectors, especially in STEM, is of the utmost importance. The talk will focus on two aspects, firstly, drawing on personal experience, the challenges and rewards of conducting scientific research through the medium of Cymraeg. Secondly, the ongoing efforts to increase Cymraeg teaching provisions available in STEM subjects, focusing on the experience of students.
Owain is currently a researcher at the Theory and Simulation of Materials Group at the Physics Department of King’s College London. With the completion his PhD at Cardiff University in 2023, his thesis was the first in the field of chemistry written through the medium of Welsh. In addition to his research interests, Owain advocates for the use of Welsh in scientific research and education, and along with colleagues at Cardiff University and the Coleg Cymraeg Cenedlaethol, he organised the first chemistry conference held through the medium of Welsh in May 2026.
Dr Gwennan Higham
Welsh-medium higher education continues to inherit a binary distinction between first- and second-language Welsh speakers, creating challenges for students entering Welsh degrees through the second-language pathway. Expectations that students reach first-language standards within a short period raise important questions about access, confidence and belonging. Drawing on my experience supporting undergraduates and researchers new to Welsh-medium study, I explore approaches that foster language development alongside academic confidence and connection, including reflection on language journeys, engagement with Welsh-language networks, and opportunities to use Welsh beyond the classroom. The presentation considers how inclusive pathways can strengthen future Welsh-language scholarship.
Dr Gwennan Higham is a Senior Lecturer in Welsh at Swansea University, specialising in Welsh language sociolinguistics, language learning and inclusive education. Her work focuses particularly on supporting second-language Welsh learners and developing inclusive pathways into the Welsh language. She has extensive experience developing Welsh-medium provision for second-language students in higher education, teaching Welsh for Adults, and supporting research students who are new to Welsh. Her research explores how learners develop not only language skills, but also confidence, connection and a sense of belonging within Welsh-language communities. She also researches linguistic integration, bilingual education and access to Welsh-medium education for underrepresented communities.
Dr Bedwyr ab Ion Thomas (Medr)
The Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022 places clear responsibilities on Medr to promote, fund and regulate tertiary education and research through the medium of Welsh. With the National Plan for Tertiary Education currently in development, this presentation will consider the place of Research and Innovation within the Plan, how Medr seeks to fulfil its Welsh-language duties and strategic ambitions, and what this means for the future of Welsh-medium research. It will conclude with reflections on undertaking research through the medium of Welsh from a personal perspective.
Bedwyr is Welsh Language Policy Manager at Medr, supporting the organisation’s strategic and statutory responsibilities for the Welsh language across tertiary education and research. His work focuses on increasing opportunities to study, train, work and undertake research through the medium of Welsh. He holds a PhD in Medicinal Chemistry from Cardiff University and completed his doctoral research entirely in Welsh, bringing both policy and lived research experience to his work.
Dr Manon James (Coleg Cymraeg Cenedlaethol)
Coleg Cymraeg Cenedlaethol (the Coleg) creates and promotes training and study opportunities in Welsh by working with further education colleges, schools, universities, apprenticeship providers and employers. In 2023, the Welsh Government designated the Coleg to advise Medr on its duties to increase Welsh and bilingual provision in the tertiary sector and to encourage demand in accordance with the Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022.
The aim of the Coleg is to build a Welsh-medium and bilingual education and training system that is accessible to all and to develop a bilingual workforce. At the same time, it seeks to inspire and give everyone the confidence to use their Welsh language skills when training, studying and working.
During the presentation, information will be shared about the Coleg’s background and how it supports learners to take advantage of the Welsh-medium provision available. Particular focus will be given to researchers, with an overview of the Coleg’s research scholarship scheme and the support provided through its research skills training programme.
Dr Manon James works as a Training Programmes and Research Officer with the Coleg Cymraeg Cenedlaethol, primarily responsible for coordinating the research scholarship scheme and organising and developing Welsh-medium research skills training.