Skip to main content
  • Ennill Grantiau: Paratoi Ceisiadau Llwyddiannus | Grant Capturing: Preparing Successful Applications
1 of 3

Ennill Grantiau: Paratoi Ceisiadau Llwyddiannus | Grant Capturing: Preparing Successful Applications

Wed 2 Dec 2026 10:00 AM - 11:30 AM GMT Online, Zoom

Ennill Grantiau: Paratoi Ceisiadau Llwyddiannus | Grant Capturing: Preparing Successful Applications

Wed 2 Dec 2026 10:00 AM - 11:30 AM GMT Online, Zoom

Need help?

Manage tickets

Ennill Grantiau: Paratoi Ceisiadau Llwyddiannus

Dydd Mercher, 2il Rhagfyr, 10am - 11:30am

Mae'r sesiwn hon, a ddarperir mewn partneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, ar gyfer ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa sydd â diddordeb mewn paratoi ceisiadau grant llwyddiannus. Bydd panel o arbenigwyr o wahanol ddisgyblaethau a chamau gyrfa yn rhannu eu profiadau a’u strategaethau i ysgrifennu ceisiadau grantiau ymchwil cystadleuol. Bydd siaradwyr yn cynnig argymhellion ar ymgorffori ystyriaethau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynwysiant mewn ceisiadau grantiau, gan gynnwys sut i feithrin partneriaethau teg, ac awgrymiadau ar gyfer cyflwyno gwerth am arian yn eich cais, ynghyd â chynghorion ar gyfer deall disgwyliadau cyllidwyr.

----

Grant Capturing: Preparing Successful Applications

Wednesday 2nd December, 10am -11:30am

This session, delivered in partnership with Cardiff Metropolitan University, is for early career researchers interested in preparing successful grant applications. A panel of experts from different disciplines and career stages will share their experiences and strategies to write competitive research grant applications. Speakers will offer recommendations on embedding EDI considerations in grant proposals, including how to build equitable partnerships, and suggestions for presenting value for money in your proposal, along with tips for understanding funders' expectations.


----

Nodyn: Rhestr Llawn y Siaradwyr Dal i Ddod

Cadeirydd: Yr Athro Yvonne Wren FLSW, Athro Therapi Iaith a Lleferydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Mae ymchwil yr Athro Wren wedi arwain at adnabod anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu plant yn gynharach ac yn fwy cywir. Mae hyn yn helpu gweithwyr proffesiynol i ymyrryd yn fwy effeithiol, a hynny ar adegau tyngedfennol yn natblygiad plant. Mae hi wedi cyfrannu at ddatblygu a gwerthuso offer sgrinio, wedi dylanwadu ar ganllawiau clinigol cenedlaethol ac wedi cefnogi dulliau dwyieithog a diwylliannol briodol o asesu a chynnig therapi. Drwy ei phrosiectau ar y cyd â’r GIG a’r sectorau addysg, mae ei gwaith wedi gwella dyluniad, darpariaeth a chanlyniadau gwasanaethau i blant a theuluoedd.

Yr Athro Cinzia Giannetti FLSW, Athro mewn Gweithgynhyrchu Digidol, Prifysgol Loughborough

Mae'r Athro Giannetti wedi bod yn Gymrawd UKRI EPSRC (2018–2021), wedi sicrhau cyllid ymchwil sylweddol, ac wedi arwain mentrau mawr yn y DU sy'n hyrwyddo digideiddio wedi'i yrru gan AI. Mae ei gwaith arloesol ar gymhwyso deallusrwydd artiffisial i weithgynhyrchu wedi gwella effeithlonrwydd a chynaliadwyedd prosesau diwydiannol ar draws sawl sector. Mae hi hefyd yn cyfrannu at gyrff cynghori cenedlaethol, gan gynnwys Tîm Cynghori Strategol EPSRC a grŵp llywio Rhwydwaith Arloesi Cymru..


----

Note: Full Speaker Lineup TBC

Chair: Professor Yvonne Wren FLSW, Professor in Speech and Language Therapy at Cardiff Metropolitan University

Professor Wren’s research has led to earlier and more accurate identification of speech, language, and communication needs in children. This helps professionals intervene more effectively and at critical developmental stages. She has contributed to the development and evaluation of screening tools, has influenced national clinical guidelines and has supported bilingual and culturally appropriate approaches to assessment and therapy. Through her collaborations with the NHS and education sectors, her work has improved service design, delivery, and outcomes for children and families.

Professor Cinzia Giannetti FLSW, Professor of Digital Manufacturing at Loughborough University 

Professor Giannetti has been an UKRI EPSRC Fellow (2018–2021), secured substantial research funding, and led major UK initiatives advancing AI-driven digitalisation. Her pioneering work on the application of AI to manufacturing has enhanced the efficiency and sustainability of industrial processes across multiple sectors. She also contributes to national advisory bodies, including the EPSRC Strategic Advisory Team and the Welsh Innovation Network steering group.