Symposiwm Ymchwilydd Gyrfa Cynnar ac Ôl-raddedig, Ymchwil Mudo Cymru/ Early Career Researcher and Postgraduate Symposium
Thu 12 Sep 2024 10:00 AM - 2:30 PM BST
Online, Zoom
Description
Mae Rhwydwaith Ymchwil Mudo Cymru yn falch o gyhoeddi symposiwm undydd ar gyfer ôl-raddedigion ac ymchwilwyr gyrfa gynnar (hunan-ddiffiniedig) sy’n gweithio ar agweddau ar fudo yng Nghymru neu wedi’u lleoli mewn sefydliadau yng Nghymru. Nod y symposiwm ar-lein yw darparu awyrgylch cefnogol i ymchwilwyr rannu eu syniadau ar waith drafft a derbyn sylwadau adeiladol. Bydd pob cyfrannwr yn rhoi cyflwyniad 15 munud o hyd wedi’i ddilyn gan sesiwn H+A byr.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cyflwyno, e-bostiwch grynodeb o ddim mwy na 250 gair, ynghyd â'ch enw, eich cysylltiad (os oes un), a manylion cyswllt at Dr Catrin Wyn Edwards (cwe6@aber.ac.uk) erbyn canol dydd ar 27ain o Awst, 2024. Byddwn yn eich hysbysu erbyn 30ain o Awst. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â Dr Catrin Wyn Edwards.
Sefydlwyd Ymchwil Mudo Cymru ym mis Gorffennaf 2021 i annog cydweithio rhwng ymchwilwyr ar draws sefydliadau yng Nghymru i ddarparu ffocws cenedlaethol ar gyfer ymchwil mudo a dwyn ynghyd academyddion, rhanddeiliaid ac ymarferwyr sy’n gweithio gyda mudwyr ar faterion sy’n effeithio ar fudwyr.
Migration Research Wales Network is pleased to announce a one-day symposium for postgraduates and early-career researchers (self-defined) working on aspects of migration in Wales or based at Welsh institutions. The aim of the online symposium is to provide a supportive environment for researchers to share ideas on draft work and receive constructive comments. Each contributor will deliver a 15-minute presentation followed by a short Q+A session.
If you are interested in presenting, please email an abstract of no more than 250 words, along with your name, affiliation (if any), and contact details to Dr Catrin Wyn Edwards (cwe6@aber.ac.uk) by midday on 27th August. Accepted submitters will notified by 30th August. If you have any questions, please do not hesitate to get in contact with Dr Catrin Wyn Edwards.
Migration Research Wales was established in July 2021 to encourage collaboration between researchers across Welsh institutions to provide a national focus for migration research and bring together academics, stakeholders and practitioners working with migrants on issues affecting migrants.