'POWER STATION' Screening at Y Stiwdio
'POWER STATION' Screening at Y Stiwdio
Share this event
A 'Pay What You Feel' community screening:
POWER STATION
96 mins | 12A
Directed by Dan Edelstyn & Hilary Powell
📅 29 October
🕡 6.30pm
📍 Y Stiwdio
🎟️ Pay What You Feel
As part of Spotlight, WOW Film Festival is building a new network of community film clubs across Wales, working with local partners and venues to bring independent and international cinema closer to home.
Our first community screening at Y Stiwdio, in collaboration with Cwm Arian, is POWER STATION: a warm, funny and inspiring film about what can happen when a community decides to imagine a different future together.
In Walthamstow, artist-activists Hilary Powell and Dan Edelstyn set out to take their street off the grid, transforming it into a solar-powered energy powerhouse. From pitching the idea to their neighbours and sleeping on the roof of their home, to raising finance and launching a bid for a Christmas number one single, POWER STATION follows their turbulent, ambitious and often hilarious journey.
Directed by Powell and Edelstyn, the film is a vibrant portrait of local community, creativity and collective action - and a charming testament to the power of art to change minds about what might be possible.
Come along, discover a new film community at Y Stiwdio, and pay what you feel. Your contribution helps support accessible community cinema and the development of future screenings.
About Spotlight
The BFI Film Audience Network (FAN) Spotlight programme invests in all eight hub regions across the UK, taking a hyper-local approach to areas where there are otherwise few or no screenings of UK independent or international film.
Working in three-year cycles, a lead delivery partner works with locally based film organisations to establish new community-driven screening activities and learning opportunities, helping projects continue into the future.
In Wales, WOW Film Festival is leading this initiative, working with local partners such as Cwm Arian to develop community film activity in venues and communities across the country.
Find out more about the Spotlight partners and projects in Wales:
Arts Council of Wales — Film Hub Wales Spotlight funding
Supported by Film Hub Wales as part of the BFI Film Audience Network (FAN), made possible by the National Lottery.
CY:
Sgriniad cymunedol ‘Talwch yr hyn a deimlwch’
POWER STATION
96 munud | 12A
Cyfarwyddwyd gan Dan Edelstyn a Hilary Powell
📅 29 Hydref
🕡 6.30pm
📍 Y Stiwdio
🎟️ Talwch yr hyn a deimlwch
Fel rhan o Spotlight, mae Gŵyl Ffilm WOW yn datblygu rhwydwaith newydd o glybiau ffilm gymunedol ledled Cymru, gan weithio gyda phartneriaid a lleoliadau lleol i ddod â sinema annibynnol a rhyngwladol yn nes at ein cymunedau.
Mae ein sgriniad cymunedol cyntaf yn Y Stiwdio, mewn cydweithrediad â Cwm Arian, yn cyflwyno POWER STATION: ffilm gynnes, ddoniol ac ysbrydoledig am yr hyn sy’n gallu digwydd pan fydd cymuned yn penderfynu dychmygu dyfodol gwahanol gyda’i gilydd.
Yn Walthamstow, mae’r artistiaid-ymgyrchwyr Hilary Powell a Dan Edelstyn yn penderfynu ceisio cael eu stryd oddi ar y grid, gan drawsnewid eu cymdogaeth yn orsaf bŵer sy’n cynhyrchu ynni solar.
O gyflwyno’r syniad i’w cymdogion a chysgu ar do eu cartref, i godi arian a lansio ymgyrch i geisio sicrhau rhif un Nadolig, mae POWER STATION yn dilyn eu taith gythryblus, uchelgeisiol ac yn aml iawn ddoniol.
Wedi’i chyfarwyddo gan Powell ac Edelstyn, mae’r ffilm yn bortread bywiog o gymuned leol, creadigrwydd a gweithredu ar y cyd — ac yn dystiolaeth swynol o bŵer celf i newid ein ffordd o feddwl am yr hyn a allai fod yn bosibl.
Dewch draw, ymunwch â chymuned ffilm newydd yn Y Stiwdio, a thalwch yr hyn a deimlwch. Mae eich cyfraniad yn helpu i gefnogi sinema gymunedol hygyrch a datblygu rhagor o sgriniadau yn y dyfodol.
Am Spotlight
Mae rhaglen Spotlight Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm y BFI (FAN) yn buddsoddi ym mhob un o wyth rhanbarth canolfannau ledled y DU, gan fabwysiadu dull hyperleol mewn ardaloedd lle nad oes llawer o gyfleoedd, neu ddim cyfleoedd o gwbl, i weld ffilmiau annibynnol o’r DU neu ffilmiau rhyngwladol.
Gan weithio mewn cylchoedd tair blynedd, mae partner cyflawni arweiniol yn gweithio gyda sefydliadau ffilm leol i sefydlu gweithgareddau sgrinio cymunedol a chyfleoedd dysgu sy’n cael eu harwain gan gymunedau, gan helpu’r prosiectau hyn i barhau i’r dyfodol.
Yng Nghymru, Gŵyl Ffilm WOW sy’n arwain y fenter hon, gan weithio gyda phartneriaid lleol fel Cwm Arian i ddatblygu gweithgareddau ffilm gymunedol mewn lleoliadau a chymunedau ledled y wlad.
Dysgwch fwy am bartneriaid a phrosiectau Spotlight yng Nghymru:
Cyngor Celfyddydau Cymru — cyllid Spotlight Film Hub Wales
Cefnogir gan Ganolfan Ffilm Cymru fel rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm y BFI (FAN), a wnaed yn bosibl gan y Loteri Genedlaethol.
Location
Y Stiwdio, SA36 0DX