'SUPER NATURE' Screening at Y Stiwdio
'SUPER NATURE' Screening at Y Stiwdio
Share this event
'SUPER NATURE' Screening at Y Stiwdio
A 'Pay What You Feel' community screening:
SUPER NATURE
82 mins | PG
Directed by Ed Sayers
📅 26 November
🕡 6.30pm
📍 Y Stiwdio, Hermon
🎟️ Pay What You Feel
As part of Spotlight, WOW Film Festival is building a new network of community film clubs across Wales, working with local partners and venues to bring independent and international cinema closer to home.
Our next community screening at Y Stiwdio, in collaboration with Cwm Arian, is SUPER NATURE: a beautiful, uplifting and thought-provoking film celebrating our connection with the natural world.
Filmed entirely on Super 8, this remarkable documentary brings together the work of more than 40 collaborators using 80 vintage cameras across 25 countries. From wildlife and wild landscapes to the fragile ecosystems we all depend on, SUPER NATURE offers a fresh and deeply personal perspective on the world around us.
Directed by Ed Sayers, the film is a poetic, visually stunning journey across land, through the air and beneath the water. Combining intimate observations of nature with a reflection on what we stand to lose, it invites us to slow down, look more closely and rediscover our place within the wider living world.
Come along, experience this extraordinary film on the big screen, discover more of our growing film community at Y Stiwdio, and pay what you feel. Your contribution helps support accessible community cinema and the development of future screenings.
About Spotlight
The BFI Film Audience Network (FAN) Spotlight programme invests in all eight hub regions across the UK, taking a hyper-local approach to areas where there are otherwise few or no screenings of UK independent or international film.
Working in three-year cycles, a lead delivery partner works with locally based film organisations to establish new community-driven screening activities and learning opportunities, helping projects continue into the future.
In Wales, WOW Film Festival is leading this initiative, working with local partners such as Cwm Arian to develop film activity in venues and communities across the country.
Supported by Film Hub Wales as part of the BFI Film Audience Network (FAN), made possible by the National Lottery.
CY:
Sgriniad ‘SUPER NATURE’ yn Y Stiwdio
Dydd Iau 26 Tachwedd 2026 | 6.30pm – 8.00pm
Y Stiwdio, SA36 0DX
Archebwch eich lle
Sgriniad cymunedol ‘talu beth ti'n deimlo’:
SUPER NATURE
82 munud | PG
Cyfarwyddwyd gan Ed Sayers
📅 26 Tachwedd
🕡 6.30pm
📍 Y Stiwdio, Hermon
🎟️ Talwch yr hyn a deimlwch
Fel rhan o Spotlight, mae Gŵyl Ffilm WOW yn datblygu rhwydwaith newydd o glybiau ffilm gymunedol ledled Cymru, gan weithio gyda phartneriaid a lleoliadau lleol i ddod â sinema annibynnol a rhyngwladol yn nes at ein cymunedau.
Mae ein sgriniad cymunedol nesaf yn Y Stiwdio, mewn cydweithrediad â Cwm Arian, yn cyflwyno SUPER NATURE: ffilm hardd, ysbrydoledig ac ysgogol sy’n dathlu ein cysylltiad â byd natur.
Wedi’i ffilmio’n gyfan gwbl ar Super 8, mae’r rhaglen ddogfen ryfeddol hon yn dod â gwaith dros 40 o gydweithwyr ynghyd, gan ddefnyddio 80 o gamerâu hen ffasiwn ar draws 25 o wledydd. O fywyd gwyllt a thirweddau godidog i’r ecosystemau bregus rydym i gyd yn dibynnu arnynt, mae SUPER NATURE yn cynnig persbectif newydd a phersonol iawn ar y byd o’n cwmpas.
Wedi’i chyfarwyddo gan Ed Sayers, mae’r ffilm yn daith farddonol a syfrdanol yn weledol ar draws tir, drwy’r awyr ac o dan y dŵr. Gan gyfuno arsylwadau personol o fyd natur â myfyrdod ar yr hyn sydd mewn perygl o gael ei golli, mae’n ein gwahodd i arafu, edrych yn fanylach ac ailddarganfod ein lle ym myd natur.
Dewch draw i brofi’r ffilm arbennig hon ar y sgrin fawr, i ddarganfod mwy am ein cymuned ffilm sy’n tyfu yn Y Stiwdio, ac i dalu’r hyn a deimlwch. Mae eich cyfraniad yn helpu i gefnogi sinema gymunedol hygyrch a datblygu rhagor o sgriniadau yn y dyfodol.
Am Spotlight
Mae rhaglen Spotlight Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm y BFI (FAN) yn buddsoddi ym mhob un o wyth rhanbarth canolfannau ledled y DU, gan fabwysiadu dull hyperleol mewn ardaloedd lle nad oes llawer o gyfleoedd, neu ddim cyfleoedd o gwbl, i weld ffilmiau annibynnol o’r DU neu ffilmiau rhyngwladol.
Gan weithio mewn cylchoedd tair blynedd, mae partner cyflawni arweiniol yn gweithio gyda sefydliadau ffilm lleol i sefydlu gweithgareddau sgrinio cymunedol a chyfleoedd dysgu sy’n cael eu harwain gan gymunedau, gan helpu’r prosiectau hyn i barhau i’r dyfodol.
Yng Nghymru, Gŵyl Ffilm WOW sy’n arwain y fenter hon, gan weithio gyda phartneriaid lleol fel Cwm Arian i ddatblygu gweithgareddau ffilm mewn lleoliadau a chymunedau ledled y wlad.
Cefnogir gan Ganolfan Ffilm Cymru fel rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm y BFI (FAN), a wnaed yn bosibl gan y Loteri Genedlaethol.
Location
Y Stiwdio, SA36 0DX